Amgylchedd
Cyhoeddodd Dŵr Cymru ei Gynllun Bioamrywiaeth diweddaraf ym mis Rhagfyr 2020. “Neilltuo amser ar gyfer natur 2020: cynllun diwygiedig Dŵr Cymru i gynnal a gwella bioamrywiaeth” yw enw’r ddogfen.
Neilltuo amser ar
gyfer natur
Darllenwch ein cynllun diweddaraf i gynnal a chyfoethogi Bioamrywiaeth:
Cynllun Bioamrywiaeth
Mae ein Cynllun yn disgrifio sut mae ein busnes yn rhyngweithio â byd natur. Mae’n amlygu beth rydyn ni eisoes yn ei wneud a beth y byddwn ni’n parhau i’w wneud ar draws y busnes i gefnogi natur a bioamrywiaeth.
Rydyn ni’n croesawu eich sylwadau ar y Cynllun, ac yn arbennig syniadau am ffyrdd o’i wella. Byddwn ni’n ystyried eich safbwyntiau wrth adolygu ein Cynllun yn 2023. Rydyn ni’n croesawu’r cyfle i gydweithio ar draws ein hardaloedd gweithredol hefyd.
E-bostiwch ni yn biodiversity@dwrcymru.com
Gwneud y peth iawn
dros natur
Darllenwch beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud i gyflawni ein dyletswydd o ran Bioamrywiaeth yn ein hadroddiad o 2019. Byddwn ni’n cyhoeddi ein hadroddiad nesaf yn 2022.