Rhaglen Cefnogi Gwyddoniaeth Dinasyddion


Ydych chi’n angerddol dros ein hamgylchedd naturiol ac yn awyddus i gymryd rhan i’n helpu ni i gyd i ddysgu mwy amdano? Os felly, mae gennym gyfle cyffrous, ac rydym yn sicrhau bod cyllid ar gael i gefnogi prosiectau dinasyddion yn ein ardal weithredu.

Mae prosiectau Gwyddoniaeth Dinasyddion yn cynnwys gwirfoddolwyr yn casglu data – drwy fonitro ac arsylwi – fydd yn helpu i ehangu ein gwybodaeth am yr amgylchedd naturiol.

Efallai eich bod yn rhan o grŵp amgylcheddol? Ydych chi’n adnabod eich ardal leol yn dda iawn ac yn ymweld â’r un lleoedd yn aml? Gallech chi ein helpu i ddeall ein hamgylchedd yn well…

Rydym yn gwerthfawrogi ymrwymiad ac ymroddiad y cyhoedd, yn gofalu am ein hamgylchedd naturiol. Gall Gwyddoniaeth Dinasyddion gynnwys amrywiaeth mor eang o ffynonellau data ac rydyn ni’n cydnabod awydd ein cymunedau i eisiau helpu. Gall ddarparu gwybodaeth, gan gynnwys ffotograffau ac arsylwadau dros ardaloedd eang a llinellau amser hir. Gall ddarparu data samplu a dadansoddi data, gan nodi patrymau tueddiadau yn ogystal â rhannu data, gwella’r wybodaeth ehangach i helpu i nodi a chefnogi camau i wella ansawdd dŵr afonydd a diogelu’r amgylchedd lleol. Gall hefyd godi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu o fewn cymunedau, gan gynyddu cyfleoedd addysg a chyfleoedd i gydweithio.

Gall Gwyddoniaeth Dinasyddion arwain at gyfleoedd a manteision niferus, ond er mwyn iddo fod o werth, mae angen i ni ystyried ansawdd y samplu, cysondeb yr wybodaeth, rhan rheoleiddwyr ac yn bwysig iawn, cynnal diogelwch y cyhoedd.

Er mwyn helpu i weithio tuag at hyn, rydyn ni’n cefnogi’r prosiect Catchment Systems Thinking Cooperative (CaSTCo) sy’n ceisio galluogi cymunedau lleol i gasglu data cadarn y mae modd ei rannu gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, cwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill, gan ganiatáu penderfyniadau yn y dalgylch sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd CaSTcO yn datblygu fframwaith cenedlaethol o adnoddau a hyfforddiant safonol. Rydyn ni wedi ymrwymo £250,000 i brosiect CaSTCo ac rydyn ni’n gweithio gyda Sefydliad Gwy ac Wysg ar dreial yn nalgylch afon Wysg sy’n dangos sut gall y gymuned amaethyddol gymryd rhan yng ngwyddoniaeth dinasyddion.

Yn y cyfamser, tra bod fframwaith ehangach yn cael ei ddatblygu, rydyn ni wedi lansio ein Rhaglen Cefnogi Gwyddoniaeth Dinasyddion.

Bydd y rhaglen hon yn seiliedig ar geisiadau, gyda chyllid ar gael ar gyfer prosiectau sy'n bodloni meini prawf, sy'n cyd-fynd ag amcanion amgylcheddol ein cwmni. Anogir grwpiau i geisio cefnogaeth sefydliad proffesiynol fel Prifysgol, corff anllywodraethol amgylcheddol neu awdurdod addas. Gellir defnyddio cyfran o'r grant i dalu am arweiniad a goruchwyliaeth ar, ond heb fod yn gyfyngedig i, agweddau megis dylunio'r prosiect, rheoli a dadansoddi data, hyfforddiant, logisteg, a gofynion iechyd a diogelwch.

Mae hyn er mwyn sicrhau bod ceisiadau am gyllid prosiect yn cael eu rheoli'n dda, eu cynnal yn ddiogel, a chynnig tystiolaeth gysylltiedig gwerth chweil lle bo hynny'n bosibl. Yn yr un modd, eu bod yn cael eu cefnogi gan weithwyr proffesiynol/unigolion perthnasol sydd ag arbenigedd yn y maes hwnnw neu'r pwnc, gan sicrhau bod y gwerth gorau yn cael ei gyflawni.

Ar hyn o bryd, mae’r rhaglen wedi’i sicrhau tan 31 Mawrth 2025 a bydd yn galluogi grwpiau a sefydliadau gwyddoniaeth dinasyddion i wneud cais am hyd at £10,000 y prosiect mewn cyfnod o 12 mis. Mae cap ar faint o gyllid sydd ar gael bob blwyddyn a byddwn ni’n ystyried dyraniad teg ar draws ein hardal weithredol. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y dudalen hon petai’r cap hwn yn cael ei gyrraedd a bydd ceisiadau ar gyfer y flwyddyn honno’n cau. Byddwn ni’n cyhoeddi pan fydd ceisiadau’n cael eu hail-agor.

Gall gwybodaeth wedi’i chasglu helpu i nodi meysydd sydd angen rhagor o ymchwil, arolygu asedau ac o bosibl dylanwadu ar fuddsoddi ar raddfa fach. Byddwn ni’n ymdrechu i gefnogi a lle bo modd, gweithredu ar ganlyniadau lle mae adnoddau a rheoleiddio yn caniatáu hynny. Mewn meysydd lle mae angen dadansoddi, adnoddau neu ofynion rheoleiddio ychwanegol, byddwn ni’n ymdrechu i ddarparu gwybodaeth ynghylch sut y mae modd ymgorffori’r rhain yn ein proses Cynllunio Rheoli Asedau ehangach (AMP), e.e., mae anghenion buddsoddi ar raddfa fawr yn cael eu nodi ac i’w cytuno â’n rheoleiddwyr amgylcheddol ac OFWAT.

I ddysgu mwy o ran sut i wneud cais, gweler ein dogfen Rhaglen Cefnogi Gwyddoniaeth Dinasyddion – Canllawiau Ymgeisio.