Pwyllgorau’r Bwrdd
Mae Cyd-fwrdd Glas Cymru Holdings Cyfyngedig (Glas Cymru) a Dŵr Cymru Cyfyngedig (Dŵr Cymru) yn gyfrifol am y dull o gynnal busnes y Grŵp yn gyfan gwbl gan gynnwys ein llwyddiant hirdymor, amlinellu ein diben; gwerthoedd; safonau ac amcanion strategaethol; adolygu ein perfformiad, cynnal trosolwg o’n fframwaith llywodraethu; a sicrhau y cynhelir deialog gadarnhaol gyda’n rhanddeiliaid. Mae rhai o’r cyfrifoldebau hyn yn cael eu dirprwyo i saith Phwyllgor Bwrdd a sefydlwyd i’r pwrpas hwnnw ac i’r Tîm Gweithredol.
Cadeirir y Pwyllgor Archwilio a Risggan Darren Pope. Ei swyddogaeth yw monitro uniondeb datganiadau ariannol y Grŵp; effeithiolrwydd systemau rheoli mewnol; ac effeithiolrwydd, perfformiad, gwrthrychedd ac annibyniaeth yr Archwilwyr mewnol ac allanol. Mae gan y Pwyllgor yn ei gyfanrwydd ddigon o brofiad yn y sector a phrofiad o faterion ariannol i gyflawni ei ddyletswyddau'n effeithiol.
Cadeirir y Pwyllgor Enwebiadau gan Jane Hanson. Swyddogaeth y Pwyllgor yw adolygu strwythur, maint a chyfansoddiad y Bwrdd a phan fo’n briodol, argymell newidiadau; nodi ac enwebu ymgeiswyr i lenwi swyddi gwag ar y Bwrdd i’w cymeradwyo gan y Bwrdd; gwerthuso’r cydbwysedd sgiliau, profiad, gwybodaeth, annibyniaeth ac amrywiaeth aelodau'r Bwrdd a'i bwyllgorau; ac adolygu addasrwydd Cyfarwyddwyr Anweithredol yn cymryd swyddi ychwanegol, gan roi sylw arbennig i'w heffaith ar yr amser sydd ar gael ar gyfer busnes y Cwmni. Wrth arwain y broses o benodi i’r Bwrdd, mae'r Pwyllgor yn sicrhau bod proses drwyadl a thryloyw ar gyfer penodi Cyfarwyddwyr newydd a bod cynlluniau ar waith ar gyfer olyniaeth drefnus i'r Bwrdd ac i swyddi rheoli gweithredol uwch eraill.
Cadeirir y Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch gan Darren James. Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn cynghori'r Bwrdd ar unrhyw fater yn ymwneud â pholisi ac arferion gweithredol yng nghyswllt cydymffurfiad â rheoliadau dŵr yfed a deddfau a rheoliadau amgylcheddol. Mae'r Pwyllgor hefyd yn adolygu perfformiad Dŵr Cymru yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol y cytunwyd arnynt, gan roi sylw penodol i faterion iechyd y cyhoedd, iechyd a diogelwch ac effaith amgylcheddol.
Cadeirir y Pwyllgor Taliadau gan Joanne Kenrick ac mae'n gyfrifol am argymell i'r Bwrdd ac Aelodau Glas ar gyfer cymeradwyaeth, ac i adolygu'n barhaus y polisi taliadau fel y mae'n berthnasol ar draws y busnes yn ei gyfanrwydd. Mae'r Pwyllgor hefyd yn pennu’r Polisi Taliadau Cyfarwyddwyr Gweithredol a thâl Cadeirydd y Bwrdd, y Cyfarwyddwyr Gweithredol a'r tîm Gweithredol. Wrth arfer y cyfrifoldeb hwn, mae’r Pwyllgor Taliadau yn goruchwylio polisi taliadau’r gweithlu a pholisïau cysylltiedig, ac yn cysoni cymhellion a gwobrwyon â diwylliant a diben y Cwmni, gan gymryd y pwyntiau hyn i ystyriaeth wrth bennu’r Polisi.
Debra Bowen Rees yw cadeirydd Pwyllgor yr Amgylchedd, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG). Sefydlwyd y Pwyllgor ym Mehefin 2021 i oruchwylio Strategaeth a phrosesau adrodd ESG Dŵr Cymru. Mae’r Strategaeth ESG yn cynnwys 10 amcan allweddol i gadw’r ffocws ar faterion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu yng nghyd-destun strategaeth hirdymor y Cwmni, Dŵr Cymru 2050, a’r 18 ymateb strategol a gynigiwyd o fewn y strategaeth honno. Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol hefyd am fonitro perfformiad yn erbyn targedau ESG y Grŵp a’r dangosyddion perfformiad allweddol, ac am adolygu cynnydd tuag at gyflawni targed y Grŵp o ran lleihau carbon.