$name
Mae gweledigaeth Dŵr Cymru’n syml – ennill ffydd ein cwsmeriaid bob un dydd. Rydyn ni'n cymryd ein dyletswyddau fel darparwr gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ar gyfer dros 3 miliwn o bobl ar draws y rhan fwyaf o Gymru a rhannau cyfagos o Loegr o ddifri.
Mae'r cyfrifoldeb unigryw yma'n rhoi rôl hanfodol i ni wrth helpu i gyfoethogi lles y cwsmeriaid hyn a'u cymunedau, a’r amgylchedd rydym ni oll yn dibynnu arno – nawr ac am genedlaethau i ddod. Mae amddiffyn ein hamgylchedd yn hanfodol er mwyn helpu i amddiffyn ein hiechyd, ein cartrefi, ein cyflenwadau dŵr a'n prosesau cynhyrchu bwyd.
Mae'r byd yn wynebu argyfwng yr hinsawdd, a nawr yw'r dyfodol. Fel un o ddefnyddwyr ynni mwyaf Cymru, mae angen i ni addasu ein dulliau o ddarparu gwasanaethau fel y gallwn i ddelio â'r sialensiau sydd o'n blaenau yn y blynyddoedd a'r degawdau sydd i ddod.
Er mwyn helpu i amddiffyn ein hamgylchedd, rydyn ni wedi dewis ymateb uchelgeisiol a rhagweithiol i gyflawni dyfodol â net o sero, ac rydyn ni wedi ymrwymo i leihau ein hallyriannau carbon 90% erbyn 2030 a bod yn garbon niwtral erbyn 2040. .
Croeso i'n map o'r ffordd ymlaen – ein siwrnai i gyrraedd y nod.
Ein ymrwymiad
Fel un o brif gwmnïau Cymru, ry’n ni'n falch o ymrwymo i gyflawni allyriannau carbon net o sero erbyn 2040.
Mae hyn yn fwy na dim ond targed ar gyfer allyriannau'r seilwaith neu weithrediadau: yn hytrach, mater o newid ein ffordd o feddwl, cynllunio a chyflawni pethau yw hi Cwmni cyfrifol ydyn ni â phwrpas clir a gweledigaeth i ennill ffydd ein cwsmeriaid bob un dydd.
Mater o gymryd cyfrifoldeb dros reoli sialens fwyaf ein hoes ar ffurf y newid yn yr hinsawdd yw hyn. Byddwn ni'n canolbwyntio ar y tymor hir ac yn sicrhau ein bod ni'n helpu i amddiffyn ein cwsmeriaid, ein cymunedau a'r amgylchedd lleol, ac yn creu dyfodol gwell ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.
Peter Perry,
Prif Weithredwr Dŵr Cymru
$name
Mae allyriannau net o sero'n golygu bod y nifer o nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu rhyddhau i'r atmosffer yn gyfartal â nifer y nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu dileu o'r atmosffer. Mae'r byd ar gychwyn ‘Ras i Sero’.
Yng Nghytundeb Paris 2015, cytunodd 195 o wledydd i gyfyngu'r cynnydd cyfartalog yn y tymheredd byd-eang i lai na 2 radd yn uwch na lefelau cynddiwydiannol, ac ymdrechu i gyfyngu’r cynnydd hwnnw i 1.5 gradd. Bydd hyn yn gofyn am ymdrechion byd-eang digynsail i haneru'r allyriannau nwyon tŷ gwydr (GHG) yn ystod y degawd hwn, cyrraedd sefyllfa 'net o sero' erbyn 2050 man bellaf, a symud i ddechrau dileu GHGs yn llwyr o flwyddyn i flwyddyn ar ôl 2050.
Mae Cymru wedi cryfhau ei fframwaith deddfwriaethol i leihau allyriannau nwyon tŷ gwydr trwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac mae hi wedi disgrifio ei hymrwymiad cyfreithiol i gyflawni allyriannau net o sero erbyn 2050, gan ymdrechu i gyrraedd y pwynt yna'n gynt.
Yn Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ein bod yn wynebu argyfwng yr hinsawdd, sy'n fygythiad uniongyrchol i iechyd, yr economi, y seilwaith a'n hamgylchedd naturiol.
Nawr yw'r dyfodol. Rydyn ni'n gwybod bod trawsnewid i fod yn gymdeithas carbon isel yn hanfodol er mwyn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru a bodloni rhwymedigaethau rhyngwladol. Dyma pam y dewison ni ymateb rhagweithiol, er mwyn helpu i greu Cymru sy'n fwy iach ac yn fwy cynaliadwy.
Disgwylir i effeithiau allweddol y newid yn yr hinsawdd ar y sector dŵr gynnwys:
Hafau mwy poeth a llai o law yn yr haf
Gallai hinsawdd mwy sych olygu prinder cyflenwadau dŵr a'r potensial o gynnydd yn y galw am ddŵr, a bod llai o ddŵr ar gael ar gyfer cyflenwadau dŵr cyhoeddus, byd amaeth, diwydiant a'r amgylchedd
Digwyddiadau dwysach o law
Mae glawiad dwys yn cynyddu'r risg o lifogydd dŵr wyneb ac o garthffosydd, gan arwain at ragor o ddifrod wrth i ddŵr storm orlifo i'r amgylchedd. Gallai arwain at fwy o erydiad a thirlithriadau sy'n effeithio ar ein dalgylchoedd hefyd.
Cynnydd yn y risg o lifogydd o bob math
Mae llifogydd mwy cyson (o afonydd a'r môr) ac erydiad arfordiol yn cynyddu'r risg o doriadau yn ein gwasanaethau. Gallai hyn daro gwytnwch ein rhwydwaith a gallai rhai o'n hasedau fethu.
Cynydd yn lefel y môr
Mae cynnydd yn lefel y môr a digwyddiadau storm mwy cyson a dwys yn cynyddu'r risg o lifogydd arfordirol ac o afonydd
Mae llawer o'r gwaith rydyn ni'n ei gyflawni o ddydd i ddydd i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus dibynadwy o safon uchel yn golygu gweithredu a chynnal rhwydwaith helaeth gwerth tua £26 biliwn o asedau ag oes hir yn bennaf. Rydyn ni’n gwneud hyn trwy:
- Weithredu 63 o weithfeydd trin dŵr sy’n trin ac yn cyflenwi 830 miliwn o litrau o ddŵr yfed diogel a glân bob dydd ar gyfartaledd ar gyfer dros dair miliwn o bobl a busnesau, a hynny trwy ryw 27,400km o bibellau
- Casglu dŵr gwastraff (gan gynnwys dŵr wyneb) trwy rwydwaith sy'n cynnwys tua 30,000km o garthffosydd, 1,912 o orsafoedd pwmpio carthffosiaeth (SPSs) a 3,200 o orlifoedd carthfosydd cyfun (CSOs), a'i drin mewn 838 o weithfeydd trin dŵr gwastraff
- Cadw 40,000 hectar o dir yn ein perchnogaeth. Mae hyn yn cynnwys pedair canolfan ymwelwyr sy'n denu tua 1 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn
- Defnyddio fflyd o dros 1,200 o gerbydau
- Cyflogi a datblygu tua 3,500 o staff ar draws Cymru, Henffordd a Glannau Dyfrdwy sy'n helpu i sicrhau ein bod ni'n darparu gwasanaeth o'r safon uchaf
Yn rhan o'n hymateb i'r newid yn yr hinsawdd, ac er mwyn lleihau ein hallyriannau o nwyon tŷ gwydr, rydyn ni wedi buddsoddi mewn technolegau cynhyrchu ynni adnewyddadu ac effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys: Mae ein portffolio wedi ei rannu'n 45% hydro, 45% CHP, 5% gwynt a 5% solar
- Cynhyrchu digon o drydan i bweru 25,000-35,000 o gartrefi
- Cynhyrchu digon o nwy i wresogi 3,000 o gartrefi
- Ar hyn o bryd mae gennym 70 o asedau ynni adnewyddadwy gweithredol, ac un arall sy'n eiddo i'n chwaer-gwmni, Ynni Organig Dŵr Cymru.
- Cynhyrchu gwres a phŵer cyfunol wedi ei danio gan fionwy sy'n cael ei gynhyrchu o garthion
- Tyrbinau hydro yn ein cronfeydd dŵr a'n gweithfeydd trin dŵr
- Ynni solar a thyrbinau gwynt ar y tir ar safleoedd ein hasedau cyfredol
- Chwistrelliad o fio-methan i'r grid nwy yn ein gweithfeydd trin dŵr gwastraff
- Trydan wedi ei gynhyrchu gan ein safle troi gwastraff bwyd yn ynni yng Nghaerdydd (Ynni Organig Dŵr Cymru)
- Yn 2020-21 fe gynhyrchon ni tua [23%] o'n hanghenion ynni ein hunain:
Y sefyllfa sydd ohoni yn 2021
Mae'n amlwg ein bod ni wedi gwneud cynnydd mawr dros y 10 mlynedd diwethaf. Erbyn 2021, rydyn ni'n falch o ddweud ein bod wedi:
- Lleihau ein hallyriannau gweithredol net (yn seiliedig ar y farchnad) 80%, sy’n golygu gostyngiad o 65% mewn allyriannau carbon ers [2010]
Yn ogystal rydyn ni'n:
- Agos at 25% o fod yn hunangynhaliol o ran ein cyflenwad trydan
- Yn hunangynhaliol o ran nwy gwyrdd
Cyflawni cyfres o fentrau rheoli tir rhagweithiol mewn partneriaeth â'n rhanddeiliaid er mwyn archwilio ffyrdd o amddiffyn ansawdd dŵr mewn dalgylchoedd ehangach, a hynny wrth gyflawni manteision ar gyfer byd ffermio, natur a'n llesiant. Mae hyn yn cynnwys rheoli cynefinoedd, plannu coed a gweithio gyda ffermwyr i addasu arferion ffermio.
Sut ydyn ni'n gwneud?
I'n helpu ni i gyflawni ein nod o gyflawni allyriannau carbon net o sero erbyn 2040, yr egwyddorion allweddol a fydd yn sail i'n gwaith fydd:
- Parhau i leihau defnydd o ynni, cynyddu'r ynni rydym yn ei gynhyrchu ein hunain a chael gweddill ein trydan o gynhyrchwyr adnewyddadwy yng Nghymru
- Blaenoriaethu'r defnydd o fionwy sy'n deillio o garthion i ddadgarboneiddio gwres a thrafnidiaeth, yn hytrach na chynhyrchu trydan adnewyddadwy (ag effaith o ddadgarboneiddio 5 gwaith yn fwy erbyn 2030)
- Disodli ein fflyd yn raddol â cherbydau sy'n defnyddio tanwydd carbon isel (e.e. hydrogen, biomethan) a/neu drydan
- Rheoli a lleihau'n ymarferol yr allyriannau sy'n ffoi o brosesau trin dŵr gwastraff trwy llwyr awtomeiddio rheolaeth yr holl beiriannau awyru
- Monitro a lleihau'r allyriannau carbon sy'n gysylltiedig ag adeiladu ac ailwampio asedau trwy roi'r hierarchiaeth lliniaru carbon ac offer eraill ar waith er mwyn dewis yr ateb cywir ar gyfer y tymor hir
- Mwyafu potensial atafaelu carbon a bioamrywiaeth ein daliannau tir er mwyn gwrthbwyso’r allyriannau carbon sy'n anodd a/neu'n ddrud i'w lleihau.
Ffeithiau Allweddol
Cynhyrchu Ynni Adnewyddadu
Gwasanaethau hydwyth a chynaliadwy
”Er bod trechu'r newid yn yr hinsawdd wedi bod yn ffocws allweddol mewn blynyddoedd diweddar, bydd yr ymrwymiad yma'n ei osod ar flaen ein meddylfryd strategol a'n gwaith cynllunio gweithredol.
Mae'r newid ym mhatrymau'r tywydd oherwydd y newid yn yr hinsawdd eisoes yn cael effaith sylweddol ar ein gweithrediadau a'r amgylchedd ehangach wrth i beryglon fel cyfnodau o sychder, llifogydd, stormydd neu donnau gwres ddod yn fwy cyson a dwys.
Byddwn ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid a chwsmeriaid i addasu ein gwaith a lliniaru ein heffaith ar yr amgylchedd, ac i sicrhau gwasanaethau mwy cynaliadwy a gwydn ar gyfer ein cwsmeriaid."
Steve Wilson,
Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru
Ein nod yw dod yn ynni-niwtral trwy gynhyrchu ein hynni ein hunain, trwy effeithlonrwydd ynni a phontio i ddull o weithredu sy’n seiliedig ar economi cylchol. Mae rhagor o fanylion am hyn yn Dŵr Cymru 2050.
Bydd rhywfaint o'r gwaith cynhyrchu ynni'n gofyn o hyd ein bod ni’n allforio (ac wedyn yn ail-fewnforio) trydan trwy'r grid cenedlaethol a rhwydweithiau dosbarthu lleol.
Gallem wneud mwy o gynnydd wrth reoli'r galw trwy fabwysiadu offer sy'n effeithlon yn ei ddefnydd o ynni, a rhaid i effeithlonrwydd ynni fod yn flaenoriaeth wrth ddylunio systemau trin a phwmpio yn y dyfodol. Bydd y camau penodol yn cynnwys:
- Helpu i ailddylunio asedau y mae angen eu disodli a'u huwchraddio er mwyn cadw'r defnydd o ynni mor isel â phosibl;
- Mabwysiadu technolegau a systemau rheoli effeithlon sydd wedi ennill eu plwyf er mwyn cadw'r defnydd o ynni mor isel â phosibl;
- Ehangu ein portffolio o fesurau cynhyrchu adnewyddadwy; ac
- Ymchwilio i gyfleusterau storio ynni er mwyn cynyddu gwytnwch a rheoli'r galw am ynni
Mae ein map o'r ffordd i gyflawni hyn yn ymrannu'n bum piler craidd.
Harneisio
Byd Natur
Mae ein gwasanaethau bioamrywiaeth ac ecosystemau ehangach yn wynebu bygythiadau sy'n cynnwys colli, chwalu a gor-ddefnyddio cynefinoedd. O dipyn i beth, bydd y tymheredd a'r newidiadau mewn patrymau glawiad yn effeithio ar fioamrywiaeth hefyd.
Arbed
Dŵr
Rydyn ni'n codi cwta 3% o'r glawiad effeithiol yng Nghymru at ddefnydd y cyhoedd, sy'n llai na rhannau eraill o'r DU, ac yn darparu cyflenwadau dŵr dros 3 miliwn o gwsmeriaid ar draws Cymru. Mae hyn yn golygu glanhau a dosbarthu mwy nag 830 miliwn o litrau o ddŵr pob dydd.
Pweru Dyfodol
mwy Glân
Gyda'r hinsawdd yn newid a chostau ynni'n cynyddu, ein nod fodd bod yn fusnes ynni-niwtral erbyn 2050.
Taclo Allyriannau
sy'n Ffoi
Mae nwyon tŷ gwydr yn cael eu rhyddhau yn y broses o drin dŵr gwastraff a biosolidau, ac rydyn ni'n galw'r rhain yn allyriannau sy'n ffoi. Methan, CH4 ac ocsid nitrus, N20 yw'r allyriannau hyn yn bennaf.
Gwrthbwyso
Carbon
Ochr yn ochr â'r gwaith y byddwn ni'n ei gyflawni i leihau ein hôl troed carbon felly byddwn ni'n gweithio gyda'n partneriaid dros y misoedd nesaf i geisio deall sut y gallwn wrthbwyso ein hôl troed sy'n weddill trwy reoli tiroedd, cyn edrych tua chaffael mesurau gwrthbwyso.
Gwybodaeth pellach am ein allyriadau carbon yn dod cyn bo hir.