Monitro Hyd Digwyddiad


Mae Monitro Hyd Digwyddiad (EDM) yn ofyniad rheoleiddio i fonitro amlder a hyd y gollyngiadau o orlifoedd storm, a elwir hefyd yn orlifoedd storm cyfun (CSOs).

Gan fod gorlifoedd storm wedi'u cynllunio i fod yn oddefol ac yn gweithredu heb ymyrraeth, mae monitro'n bwysig er mwyn deall pa mor aml mae hyn yn digwydd sy'n ofyniad a osodwyd gan ein rheoleiddwyr amgylcheddol. Dŵr Cymru oedd y cwmni dŵr cyntaf i ddechrau gosod monitorau ar ein gorlifoedd storm a dechreuwyd y gwaith gennym yn ôl yn 2015, sawl blwyddyn cyn i'n rheoleiddwyr ddweud bod angen i ni wneud hynny. Mae hyn yn golygu bod gan Dŵr Cymru lawer mwy o ddata.

Monitorau Hyd Digwyddiad

Mae gennym EDM ar dros 99.5% o'n hasedau gorlif. Mae gweddill y safleoedd yn cael sylw ond byddant yn cymryd ychydig mwy o amser oherwydd heriau fel cael mynediad diogel. Yn y mwyafrif o achosion mae ein monitorau yn helpu i ddangos gollyngiadau trwy ddefnyddio technoleg o'r enw uwchsain i fesur y lefelau y tu mewn i'n rhwydwaith. Mae mathau eraill o synwyryddion a ddefnyddir megis synwyryddion gwasgedd, synwyryddion llif, signalau rhediad pwmp, ac electrodau. Dewisir y monitor mwyaf addas yn dibynnu ar adeiledd yr ased penodol, boed yn siambr danddaearol neu'n sianel agored.

Sut mae adrodd am ein data EDM?

Adroddir am ddata EDM bob blwyddyn wrth reoleiddwyr amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yng Nghymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd (EA) yn Lloegr ac mae'n cynnwys 12 mis o ddata. Adroddir am ddata EDM drwy ddefnyddio dull a gytunwyd sy'n safoni'r ffordd yr adroddir am orlifiadau ar draws diwydiant dŵr y DU.

Gelwir y dull hwn yn ddull cyfrif bloc 12/24. Disgrifir y dull hwn isod.

Mae'r dull cyfrif bloc ar gyfer gollyngiadau 12/24 yn ymwneud â'r dull adrodd y cytunwyd arno gyda'n rheoleiddwyr amgylcheddol (CNC ac EA).

Mae'r dull hwn yn rhoi rhif gollyngiadau cynrychioliadol inni sy'n adlewyrchu perfformiad yr ased, h.y. po fwyaf yw nifer y gollyngiadau, yr uchaf yw'r cyfrif. 366 yw uchafswm y gollyngiadau mewn blwyddyn (neu 367 mewn blwyddyn naid).

Cofnodir data EDM pob 15 munud gan ddefnyddio signalau amrywiol, gyda darlleniadau'n cael eu cymryd am 00, 15, 30, a 45 munud wedi’r awr. Mae'r amlder o 15 munud yr ydym yn adrodd amdano wedi’i gytuno gyda’r CNC ac EA.

Os yw'r gorlif wedi mynd heibio'r pwynt gollwng yn y cyfnod hwnnw, bydd yn cael ei gofnodi gan yr EDM. Pe bai gollyngiad bach yn digwydd rhwng y cyfnodau, ni fyddai'n cael ei gofnodi gan yr EDM. Mae pob darlleniad sy'n dangos gollyngiad yn cael ei gyfrif fel y cyfnod 15 munud cyfan, er efallai bod y gollyngiad wedi digwydd dros lai o amser na hyn.

Mae'r gollyngiad cyntaf sy'n cael ei recordio yn agor ffenestr 12 awr. Ni waeth pa mor hir yw’r cyfnod gollwng o fewn y ffenestr 12 awr honno, bydd yn cyfrif fel un gollyngiad – mae hyn yn cwmpasu senarios fel a ganlyn:

  • Gall fod yn ddarlleniad o un cyfnod 15 munud yn unig
  • Gall fod yn ollyngiad parhaus, h.y. darlleniadau parhaus a gymerir bob 15 munud am hyd at 12 awr
  • Gall ddechrau a stopio yn ystod y 12 awr gyntaf (gorlifo, stopio gorlifo, gorlifo, stopio gorlifo ac ati)

Adroddir am yr holl newidion hyn fel un gollyngiad felly mae'n bwysig ystyried hyd ochr yn ochr â data EDM ar gyfer y cyd-destun a fydd yn adlewyrchu'r math o senarios uchod sy'n debygol o fod yn berthnasol.

Er enghraifft, byddai cyfrif uchel ond hyd isel yn awgrymu nifer o ollyngiadau byr iawn.

Ar ôl i'r ffenestr 12 awr gychwynnol ddod i ben, mae ffenestr 24 awr ddilynol yn agor.

  • Os nad oes gollyngiad yn digwydd o fewn y ffenestr 24 awr, yna mae'r cylch cyfrif yn cael ei ailosod.
  • Os bydd gollyngiad yn digwydd yn ystod y ffenestr 24 awr bydd yn cyfrif fel un gollyngiad ychwanegol, a bydd ffenestr 24 awr arall yn cael ei hagor unwaith y bydd yr un yma wedi dod i ben.
  • Mae hyn yn cael ei ailadrodd nes y ceir ffenestr 24 awr sy'n rhydd o ollyngiadau pan fydd y cylch cyfrif yn cael ei ailosod eto.

Mathau eraill o asedau sy'n gallu gorlifo.

O fewn rhwydwaith dŵr gwastraff, mae sawl math o asedau sydd wedi'u cynllunio i orlifo o dan rhai amodau; mae rhai o'r rhain at ddefnydd brys yn unig a bydd eraill yn ymateb i dywydd gwlyb iawn. Gallwch ddysgu mwy am y gwahaniaethau isod.

  • Mae gorlifoedd storm (neu CSOs) ar rwydweithiau cyfun, sy'n cario dŵr gwastraff a dŵr glaw, ac wedi'u cynllunio i ollwng mewn tywydd gwlyb pan fydd y rhwydwaith yn cael ei lethu. Nod y rhain yw amddiffyn cartrefi a busnesau rhag llifogydd dŵr gwastraff mewnol. Mae'r rhain fel arfer yn oddefol ac yn asedau a etifeddwyd ac a osodwyd, yn y rhan fwyaf o achosion, amser maith yn ôl. Gallwch ddysgu mwy am orlifiadau storm yma.
  • Gall gorlifoedd storm hefyd weithredu o dan amodau brys - er enghraifft, os oes rhwystr yn bellach i lawr o fewn y bibell, bydd y llif yn cael ei gyfyngu a gallai achosi gollyngiad. Rydym hefyd yn defnyddio data a gasglwyd o fonitorau EDM i nodi rhwystrau posibl a chymryd camau rhagweithiol ar ein rhwydwaith i leihau'r risgiau hyn.
  • Mae gorlifoedd brys yn bennaf ar asedau sy'n defnyddio pŵer, fel gorsafoedd pwmpio. Eu bwriad yw gollwng os bydd methiant, er enghraifft methiannau trydanol, mecanyddol, rhwystr/cwymp, prif fethiant cynyddol ac ati. Bydd ein systemau larwm diwifr yn dweud wrthym os bydd methiant fel y gallwn roi sylw iddo a chymryd camau angenrheidiol cyn gynted â phosibl.

Gorlifiadau heb eu trwyddedu

Efallai y byddwch hefyd yn sylwi bod ein datganiad blynyddol yn cynnwys gorlifiadau storm nad oes ganddynt drwydded ar hyn o bryd yn ogystal â gorlifiadau brys sy'n gweithredu fel gorlifiadau storm. Rydym yn cydnabod bod angen sylw penodol a datrysiad ar yr asedau hyn gan nad ydynt yn gweithio fel y'u cynlluniwyd neu eu bod heb ganiatâd. Rydym wrthi'n cydweithio â'n rheoleiddwyr amgylcheddol i ddatrys yr asedau hyn, gyda chamau yn amrywio o wneud cais am drwydded i ymchwilio i weld a allwn eu gwaredu’n ddiogel.

Data EDM 2023

Mae Teclynnau Monitro Hyd Digwyddiadau (EDM) yn cofnodi nifer y troeon y mae ein gorlifoedd storm yn gweithredu ac am ba hyd. Mae teclynnau monitro bellach ar dros 99.5% o’n gorlifoedd, felly gallwn ddarparu rhai o’r adroddiadau mwyaf cynhwysfawr ar eu perfformiad. Rydyn ni’n rhannu’r wybodaeth yma â’n rheoleiddwyr, ac yn darparu gwybodaeth amser real ar rai dyfroedd ymdrochi ar gyfer cyrff sydd â diddordeb, gan gynnwys Syrffwyr yn erbyn Carthffosiaeth a’r Ymddiriedolaethau Afonydd.

Gellir cysylltu’r nifer uwch o ollyngiadau yn 2023 yn uniongyrchol â’r tywydd gwlyb a welwyd yn ystod y flwyddyn oherwydd bod gorlifiadau storm wedi’u cynllunio i weithredu pan fydd gormod o ddŵr glaw yn mynd i mewn i’r system. Mae hyn yn arbed cartrefi a chymunedau rhag cael eu hamddiffyn rhag llifogydd dŵr gwastraff mewnol. Roedd 2023 yn un o’r gwlypaf a gofnodwyd erioed gyda 10 storm wedi’u henwi ac wyth mis yn gweld glawiad uwch na’r cyfartaledd – mis Mawrth er enghraifft oedd y gwlypaf ers 40 mlynedd yng Nghymru a Lloegr gyda 200% o’i glawiad cyfartalog.

Fel gwlad ar ochr orllewinol y DU, mae gennym rai o’r lefelau uchaf o law ac rydym yn gweld cynnydd mewn digwyddiadau difrifol sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd. Mae gennym hefyd fwy o asedau y pen na chwmnïau dŵr eraill o ystyried lledaeniad ein poblogaeth a thopograffeg.

Nid yw dileu gorlifoedd storm yn llwyr o’n system yn fforddiadwy, a byddai hynny’n cymryd degawdau i’w gyflawni, felly nid yw’n opsiwn i ni, ond mae’r gallu i dargedu buddsoddiad ar y CSOs sy’n cael yr effaith fwyaf ar ein hamgylchedd yn rhywbeth sydd o fewn ein rheolaeth. Dyna pam ein bod ni’n buddsoddi’n helaeth i wella CSOs gan fuddsoddi £140m rhwng 2020-2025, ac mae yna gynlluniau i fuddsoddi £420m pellach rhwng 2025 a 2030. Yn ogystal, rydym yn aros am Benderfyniad Drafft Ofwat ar ein Cynllun Busnes ar gyfer 2025-30 sy’n cynnig buddsoddiad o £4bn biliwn i wella ein perfformiad a’n gwasanaethau i gwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad o £2.5bn mewn gwasanaethau amgylcheddol – 84% yn fwy nag yn 2020-25.

Gallwch ddysgu mwy am orlifiadau storm a gweld ein map EDM gan gynnwys data'r llynedd isod.

2023

Annual uSO EDM return DCWW 2023

Lawrlwytho
63kB, XLSX

Annual EO EDM return DCWW 2023

Lawrlwytho
51.8kB, XLSX

Annual SFW SO EDM return DCWW 2023

Lawrlwytho
448.3kB, XLSX

EDM Return DCWW Emergency Overflow Annual 2023

Lawrlwytho
179.3kB, XLSM

EDM Return DCWW Storm Overflow Annual 2023

Lawrlwytho
202.1kB, XLSM

2022

Annual Emergency Overflow Annual EDM return - DCWW 2022

Lawrlwytho
192.8kB, XLSM

Annual Storm Overflow EDM return - DCWW 2022

Lawrlwytho
196.3kB, XLSM

NRW Annual Emergency Overflow Unpermitted Storm Overflow EDM return - DCWW 2022

Lawrlwytho
87kB, XLSX

NRW Annual incl Shellfish Waters Storm Overflow EDM return DCWW 2022

Lawrlwytho
369.3kB, XLSX

2021

EDM Return Dwr Cymru Welsh Water Emergency Overflow Annual 2021

Lawrlwytho
51kB, XLSX

EDM Return Dwr Cymru Welsh Water Storm Overflow Annual 2021

Lawrlwytho
50.3kB, XLSX

EDM Return DCWW_Wales Water Annual 2021

Lawrlwytho
270.8kB, XLSX