Ein safbwynt ar ficroblastigau


Mae microblastigau yn yr amgylchedd yn destun pryder i ni. Er mai dim ond yn gymharol ddiweddar y dechreuodd y mater gael sylw yn y cyfryngau, rydym ni wedi bod yn pryderu ers amser maith am blastigion a microblastigau yn llifo i'n ffynonellau dŵr crai, ein systemau carthffosiaeth ac oddi yno i’r amgylchedd dyfrol. 

Microblastigau a systemau dŵr gwastraff Dŵr Cymru

Arweiniodd preifateiddio'r diwydiant dŵr ym 1989 at fuddsoddiad sylweddol mewn gwelliannau i systemau rhyddhau dŵr gwastraff ac yn enwedig yma yng Nghymru i'n gollyngiadau dŵr arfordirol. Tan yr adeg honno, ychydig iawn o ollyngfeydd o weithfeydd trin dŵr gwastraff oedd yn destun unrhyw driniaeth sylweddol. Ers hynny, rydym ni wedi gwario dros £1 biliwn ar welliannau i’n gollyngiadau arfordirol yn unig, sydd wedi arwain at weddnewid ansawdd dŵr ymdrochi yng Nghymru (mae gennym ni tua thraean o draethau baner las y DU (45) ar hyn o bryd, er mai dim ond 11% o arfordir y DU sydd yma) ac wedi lleihau’n sylweddol lefelau’r plastigau sy'n cyrraedd y môr o’n gollyngiadau.

Er bod ein prosesau trin dŵr gwastraff a'n sgriniau yn dal y rhan fwyaf o blastigau o faint penodol (yr amcangyfrifon presennol yw bod tua 80% i 95% o ficroffibrau plastig yn cael eu cadw yn y broses drin) nid oes dull y cytunwyd arno ar hyn o bryd ar gyfer mesur microblastigau (neu blastigau yn fwy cyffredinol) cyn a/neu ar ôl triniaeth.

Mae'r diwydiant dŵr a charthffosiaeth yn awyddus i wella ei ddealltwriaeth o bresenoldeb a'r mathau o blastigau yn ei brosesau ac yn comisiynu gwaith ymchwil yn y maes hwn. Yn 2017, fe wnaethom ni ymateb i ymgynghoriad Defra a Llywodraeth Cymru: “Cynigion i wahardd y defnydd o beli micro plastig mewn cynhyrchion cosmetig a chynhyrchion gofal personol yn y DU a chais am dystiolaeth am ffynonellau eraill o ficroblastigau sy'n mynd i mewn i'r amgylchedd morol.”

Microblastigau a dŵr yfed

Mae cwmnïau dŵr yn gwario biliynau o bunnoedd bob blwyddyn i ddiogelu a gwella'r amgylchedd ac i wneud yn siŵr y gallant ddarparu gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff cydnerth nawr ac yn y dyfodol. Fel y cyfryw, mae lefelau ansawdd dŵr yfed y DU ymhlith y gorau yn y byd.

Rydym ni’n adolygu'r peryglon i ddŵr yfed yn barhaus ac yn sicrhau bod y cyflenwad dŵr cyhoeddus o'r ansawdd uchaf. Mae'r peryglon y mae microblastigau yn eu peri yn fach, ond rydym ni’n parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i asesu effeithiau a, phan fo angen, yn cymryd mesurau i leihau eu presenoldeb. Mae microblastigau yn fater byd-eang ehangach y tu hwnt i'r cyflenwad dŵr cyhoeddus ac mae angen ystyried y peryglon i iechyd y cyhoedd yn eu cyd-destun. Mae angen mireinio dulliau dadansoddi fel y gellir cynyddu lefelau i fodloni gofynion lefel y diwydiant dŵr ac mae gwaith ymchwil yn parhau yn y maes hwn ar hyn o bryd.

Ymchwil y diwydiant

Ar 1 Chwefror 2018, mabwysiadodd y Comisiwn Ewropeaidd gynnig ar gyfer cyfarwyddeb dŵr yfed diwygiedig i wella ansawdd dŵr yfed a rhoi mwy o fynediad a gwybodaeth i ddinasyddion. Mae hyn yn cynnwys gofyniad i ddeall microblastigau a gellir dod o hyd i'r cynigion yn y fan yma.

Mae astudiaeth arfaethedig Sefydliad Iechyd y Byd, y cyfeirir ati yn y ddolen hon, yn gam cadarnhaol tuag at gyfrannu tystiolaeth bellach at y sefyllfa. Mae ymchwiliad Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol Llywodraeth y DU i effaith microblastigau ar yr amgylchedd yn grynodeb defnyddiol o fesurau a dewisiadau i reoli plastigau yn nyfroedd Prydain:

https://www.parliament.uk/business/committees/committees-a-z/commons-select/environmentalaudit-committee/inquiries/parliament-2015/environmental-impact-of-microplastics-15-16/

Rydym ni wedi dechrau ein prosiect ymchwil ein hunain i ficroblastigau trwy gorff ymchwil diwydiant dŵr y DU, UKWIR. Bydd hwn yn ystyried amrywiaeth eang o faterion sy'n ymwneud â phlastigau gan gynnwys tynged plastigau sy'n llifo i'n carthffosydd, plastigau mewn biosolidau ac unrhyw faterion posibl yn ymwneud â dŵr yfed.

Rydym ni’n credu ar hyn o bryd bod cyfanswm y plastigau sy'n llifo i'n moroedd o garthffosydd yn debygol o fod yn ffracsiwn bach o'r llwyth plastig cyffredinol sy’n cyrraedd yr amgylchedd morol. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni’n gobeithio y bydd ein gwaith ymchwil yn gallu ei fesur gan ganiatáu i ni wneud unrhyw fuddsoddiadau pellach yng nghyd-destun y llygredd a achosir gan ffynonellau eraill, llawer mwy, o blastigau yn yr amgylchedd dyfrol.

Ein Cyfarwyddwr yr Amgylchedd sy’n arwain gwaith y sector dŵr ar wella ein systemau draenio, sydd â’r teitl “Rhaglen Ddraenio'r 21ain Ganrif”. Hyd yma, mae'r rhaglen waith hon wedi darparu nifer o ddulliau defnyddiol a darnau eraill o dystiolaeth i helpu cwmnïau dŵr yn y DU gynllunio buddsoddiad mewn systemau draenio a thrin carthffosiaeth yn well yn y dyfodol. Mae'r rhaglen yn seiliedig i raddau helaeth ar weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o gyrff ac mae ganddi gefnogaeth yr holl reoleiddwyr a llywodraethau perthnasol yn y DU, sefydliadau proffesiynol, cyrff anllywodraethol amgylcheddol et al.
Yn rhan o hyn, rydym ni hefyd wedi bod yn gwneud amrywiaeth o waith i ymdrin â'r plastigau sy'n canfod eu ffordd i'n carthffosydd, gan ganolbwyntio ar hwyluso atebion yn y tarddle h.y. ar aelwydydd. Er enghraifft, rydym ni wrthi’n sefydlu, gyda gweithgynhyrchwyr cynhyrchion fel llieiniau gwlyb (y mae pobl yn eu taflu i’w toiledau), sut y dylid labelu cynhyrchion o'r fath h.y. gyda logo amlwg 'peidiwch â’i roi yn y toiled.' 

Rydym ni hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Gymdeithas Cadwraeth Forol ar y mater hwn, sy'n aelodau o Raglen Ddraenio'r 21ain Ganrif. Rydym ni wedi cydariannu agweddau ar yr ymgyrchoedd y maen nhw wedi eu dylunio i wneud ein cwsmeriaid yn fwy ymwybodol o effeithiau eu penderfyniadau wrth gael gwared ar blastigau, a'u golchi i lawr y toiled yn arbennig.

Crynodeb

Rydym ni’n falch o ddweud bod cydnabyddiaeth eang erbyn hyn mai'r unig ffordd o fynd i'r afael â'r broblem fyd-eang hon yn y pen draw yw drwy ddileu a rheolaethau yn y tarddle. Mae penderfyniad Llywodraeth San Steffan a’r Llywodraethau datganoledig i wahardd microbelenni plastig o gynhyrchion cosmetig a gofal personol yn gam cyntaf pwysig, ac felly hefyd penderfyniad Llywodraeth yr Alban i wahardd elfen blastig ffyn gwlân cotwm - rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn lobïo amdano ers amser maith iawn.

Mae'r mesurau hyn yn cyfleu'n eglur iawn bod Llywodraethau'n chwilio'n ddyfal am ffyrdd o leihau'r plastigau sy'n dianc i'r amgylchedd dyfrol ac yn barod i arfer eu pwerau rheoleiddio er mwyn cyrraedd y nod hwnnw.

Rydym ni’n cydnabod pwysigrwydd rheoli microblastigau yn eu tarddle ac rydym ni’n cefnogi ymdrechion i newid ymddygiad defnyddwyr i atal plastigion rhag cael eu golchi i systemau draenio neu eu gwaredu i'r amgylchedd. Rydym ni’n arwain gwaith y sector dŵr yn y maes hwn yn rhan o Raglen Ddraenio'r 21ain Ganrif.

Mae tarddle, cyfanswm, tynged, ymddygiad ac effaith pob microblastig a macroblastig yn faes ymchwil pwysig a chynyddol ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda'n cwsmeriaid a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod yr effaith ar ddŵr yfed, dŵr gwastraff a'r amgylchedd cyn lleied â phosibl.