Aelodaeth
Mae Glas Cymru yn gwmni dielw heb gyfranddeiliaid a redir yn llwyr er lles ein cwsmeriaid. Mae yna 62 o Aelodau annibynnol.
Un o rolau allweddol Aelodau Glas Cymru yw sicrhau bod y busnes yn parhau i ganolbwyntio ar ei brif bwrpas, sef darparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth o safon uchel ar gyfer y cymunedau y mae Dŵr Cymru yn eu gwasanaethu. Wrth wneud hyn, mae gan yr Aelodau rôl rheoli gorfforaethol bwysig ac o’r herwydd penodir Aelodau am eu nodweddion personol ac nid i gynrychioli unrhyw grŵp arbennig neu unrhyw un o fuddiannau’r rhanddeiliaid. Nid yw’r Aelodau’r cael ffi am eu gwaith. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob math o gefndiroedd o ran rhyw, ethnigrwydd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol ac abledd.
Penodir aelodau gan y Bwrdd yn unol â Pholisi Aelodaeth cyhoeddedig Glas Cymru, a hynny wrth ddilyn cyngor panel dethol Annibynnol.
Gellir penodi Aelodau unrhyw bryd. I gael rhagor o wybodaeth am ein haelodaeth, ysgrifennwch at:
Nicola Foreman, Ysgrifennydd y Cwmni, Glas Cymru Holdings Cyfyngedig, Linea, Fortran Road, St Mellons, Cardiff, CF3 0LT.
E-bostiwch: company.secretary@dwrcymru.com