Cadwraeth a Bioamrywiaeth


Mae Dŵr Cymru yn berchen ar lawer o dir ac yn gwmni sy’n cynnal prosesau a gweithgareddau sy’n gallu cael effaith uniongyrchol ar yr amgylchedd.

Yn y cyd-destun hwnnw, rydyn ni wedi ymrwymo i wella bioamrywiaeth ar ein tiroedd ac i sicrhau nad yw ein gwaith yn niweidio lefelau bioamrywiaeth yr afonydd a’r môr.

Rydyn ni wedi datblygu polisi clir sy’n disgrifio’n dulliau o weithredu o ran bioamrywiaeth ac wedi cyhoeddi Gorolwg o Fioamrywiaeth (Saesneg yn unig) sy’n trafod ein gwaith yn y maes yn fwy manwl.

Mae Dŵr Cymru wedi cyfrannu’n uniongyrchol at gynnal bioamrywiaeth wrth wella ansawdd y dŵr mae’n ei arllwys i’r afonydd a’r môr. Un ffactor bwysig yn y broses o wella cynefinoedd morol a dŵr croyw yw ein buddsoddiad mawr mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff ac mewn gwella gorlifiadau carthffosiaeth cyfunol dros y 10 mlynedd diwethaf.

Byddwn yn targedu buddsoddiad mewn meysydd allweddol: sef gwella ansawdd y dŵr a ryddheir o’n gweithfeydd trin dŵr gwastraff; amddiffyn afonydd a’r arfordir rhag llygredd yn ystod stormydd a sicrhau bod ein prosesau’n gweithio heb effeithio’n ormodol ar gymunedau lleol.

Mae ein cyfrifoldebau fel perchennog tir a gwarchodwr rhai o safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf y wlad yn bwysig iawn i ni. Byddwn yn parhau i atal neu leihau effeithiau ein gweithgareddau ar yr amgylchedd, a lle bo modd, yn cynyddu’r cyfleoedd i amddiffyn a gwella byd natur. Gyda 60% o’n tir o bwys cenedlaethol yn nhermau cadwraeth a bioamrywiaeth, a’n rhaglen buddsoddi cyfalaf yn parhau, rydym yn benderfynol o reoli gwaith ac adnoddau’r cwmni yn gyfrifol er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Cynllun Bioamrywiaeth

Mae ein Cynllun yn disgrifio sut mae ein busnes yn rhyngweithio â byd natur. Mae’n amlygu beth rydyn ni eisoes yn ei wneud a beth y byddwn ni’n parhau i’w wneud ar draws y busnes i gefnogi natur a bioamrywiaeth.

Rydyn ni’n croesawu eich sylwadau ar y Cynllun, ac yn arbennig syniadau am ffyrdd o’i wella. Byddwn ni’n ystyried eich safbwyntiau wrth adolygu ein Cynllun yn 2023. Rydyn ni’n croesawu’r cyfle i gydweithio ar draws ein hardaloedd gweithredol hefyd.

E-bostiwch ni yn biodiversity@dwrcymru.com

Strategaeth Bioamrywiaeth 2022

PDF, 3.4MB

Mae ein strategaeth bioamrywiaeth yn pennu ein huchelgeisiau, ein hamcanion a’n cynllun gweithredu i gynnal a gwella bioamrywiaeth a gwytnwch ecolegol ar draws ein hasedau gweithredol a’r tir sydd yn ein gofal wrth i ni gyflawni ein swyddogaethau. Mae’r strategaeth yn caniatáu i’r busnes barhau i gyflawni ei swyddogaethau craidd wrth gynorthwyo ein rheoleiddiwr – Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth sy’n ein hwynebu. Trwy wneud hynny, byddwn ni’n helpu i ddiogelu ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac yn bodloni disgwyliadau cwsmeriaid.

Gwneud y peth iawn

dros natur

Darllenwch beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud i gyflawni ein dyletswydd o ran Bioamrywiaeth yn ein hadroddiad o 2019. Byddwn ni’n cyhoeddi ein hadroddiad nesaf yn 2022.

Neilltuo amser ar

gyfer natur

Darllenwch ein cynllun diweddaraf i gynnal a chyfoethogi Bioamrywiaeth: