Gwlyptiroedd

Yn Dŵr Cymru, rydyn ni eisoes yn defnyddio prosesau naturiol i helpu i drin dŵr gwastraff ar lawer o’n safleoedd. Er enghraifft, mae gennym welyau brwyn a gwelyau biohidlo, y mae’r ddau yn dibynnu ar facteria i ddadelfennu unrhyw lygryddion sy’n bodoli yn y dŵr gwastraff. Ond mae gennym gynlluniau cyffrous i ddefnyddio gwlyptiroedd adeiledig fel ateb ychwanegol i drin y dŵr gwastraff ymhellach cyn ei ddychwelyd i’r amgylchedd.

Mae Gwlyptiroedd Adeiledig yn cael eu creu i efelychu’r prosesau ffisegol, cemegol a biolegol sy’n digwydd mewn gwlyptiroedd naturiol. Mae gwlyptiroedd yn gweithio trwy gymryd dŵr gwastraff sydd wedi cael ei drin yn rhannol a’i basio trwy gyfres o byllau rhyng-gysylltiedig. Mae’r holl byllau wedi eu plannu â rhywogaethau dyfrol brodorol fel gellysg, brwyn, melyn y gors a berwr y dŵr.

Mae’r gwlyptiroedd yn tynnu amonia, nitrogen a ffosffadau trwy ddulliau naturiol. Mae gwlyptiroedd yn ateb da yn rhai o’n gweithfeydd trin dŵr gwastraff llai o faint lle nad yw atebion confensiynol yn bosibl, lle maent yn rhy ddrud, neu lle gallai’r seilwaith trin fod yn rhy ddwys o ran garbon. Mae gwlyptiroedd yn creu cynefinoedd cyfoethog bendigedig ar gyfer bywyd gwyllt lleol.

Ble rydyn ni’n gweithio

Ar hyn o bryd, mae Dŵr Cymru yn bwrw ymlaen â nifer o wlyptiroedd partneriaeth gyda chynghorau yn Lloegr. Mae gennym hefyd 6 safle yn y cyfnod dichonoldeb ar gyfer gwlyptiroedd fel rhan o'n rhaglen fuddsoddi 5 mlynedd nesaf (AMP8), hefyd yn Lloegr lle mae fframwaith rheoleiddio gwlyptiroedd ar waith. Yng Nghymru, mae 2 gwlyptir treialu yr ydym yn cynnal trafodaethau â rheoleiddwyr amgylcheddol (CNC) amdanynt. Rydym yn gobeithio y gall 2 wlyptir treialu Dŵr Cymru yng Nghymru gefnogi fframwaith rheoleiddio addas i alluogi mwy o wlyptiroedd yn y blynyddoedd i ddod. Mae gan y rhan fwyaf o’r safleoedd hyn dargedau newydd ar gyfer ffosfforws, a chaiff y gwlyptiroedd eu dylunio gyda’r targedau hynny mewn golwg. Ond bydd rhai o’r gwlyptiroedd yn targedu amonia, ac eraill yn helpu i storio a thrin dŵr storm.

Caiff pob un eu datblygu fel gwlyptiroedd arbrofol, sy’n golygu y byddwn ni’n cynnal prosiectau ymchwil i gyd-fynd â nhw, felly byddwn ni’n gwybod ar bob cam o’r ffordd sut maen nhw’n perfformio, a pha fanteision, ac efallai anfanteision, sydd i bob un. Bydd y wybodaeth yma’n ein helpu ni i ddeall ymhle arall y gallwn ddefnyddio gwlyptiroedd i fynd i’r afael â phroblemau o ran ansawdd dŵr.

Gallwch weld ymhle rydyn ni’n gweithio yn eich ardal.

Sut ydyn ni’n asesu a yw gwlyptir yn ddewis addas

Nid rhywbeth newydd yw’r dull gwlyptiroedd. Proses naturiol yw hyn wedi’r cyfan! Mae llawer o wledydd wedi bod yn defnyddio gwlyptiroedd a gwelyau brwyn er mwyn gwella ansawdd dŵr ers blynyddoedd mawr. Ond mae hi’n dal i fod yn ddull sydd ‘heb ei brofi’ yn niwydiant dŵr y DU, a dim ond lond llaw o esiamplau sydd yna i ni ddysgu ganddynt. Rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid academaidd ym Mhrifysgol Cranfield, Prifysgol Caerdydd ac eraill i wella ein dealltwriaeth am sut mae gwlyptiroedd yn gweithio, a beth yw’r drefn orau er mwyn eu cynnal.

O’r hyn rydyn ni eisoes yn ei wybod am wlyptiroedd, gallwn ddewis ein gweithfeydd trin dŵr gwastraff neu eu diystyru yn seiliedig ar ambell i ‘reol’. Mae’r rheolau hyn yn cynnwys:

  • Maint y gweithfeydd trin. Ni fyddai’r safleoedd mwy sy’n gwasanaethu poblogaeth o dros 2,000 yn addas ar gyfer gwlyptir llif llawn yn fwy na thebyg, a hynny oherwydd maint yr arwynebedd sydd ei angen
  • Byddai cyfyngiadau trwyddedau rhai o’r gweithfeydd trin yn rhy isel er mwyn i ateb gwlyptir gyflawni’r safonau gofynnol
  • Mae rhai o’r safleoedd yn derbyn elifion masnachol o fusnesau neu o brosesau diwydiannol. Weithiau, mae’r elifion masnachol yma’n cynnwys cemegolion a allai niweidio’r gwlyptiroedd, neu eu hatal rhag cyflawni’r broses drin gystal ag y dylent. Mae rhagor o fanylion am yr elifion masnachol yma
  • Mae’n bosibl na fydd digon o le i greu gwlyptir ar rai o’n safleoedd trefol

Mae hi’n bwysig i ni ein bod ni’n darparu’r ateb cywir yn y lleoliad cywir. Mewn rhai achosion, bydd hyn yn golygu mai ateb confensiynol fydd yn darparu’r buddion mwyaf.

Cyfleoedd i Gydweithio ar Wlyptiroedd

Yn hanesyddol, roedd y rhan fwyaf o sectorau’n dueddol o weithio’n annibynnol ar gilydd, ond yn ddiweddar rydyn ni wedi sylweddoli bod angen cydweithio er mwyn mynd i’r afael ag ansawdd dŵr a phroblemau amgylcheddol eraill yn y tymor hir. Mae’r Dull sy’n Seiliedig ar Ddalgylch, a lansiwyd yn wreiddiol gan Defra yn 2013, yn dangos bod gwella’r amgylchedd dyfrol trwy ymgysylltu, cynllunio a chyflawni ar lefel dalgylch yn dod â manteision i’r holl randdeiliaid. Nod y Dull sy’n Seiliedig ar Ddalgylch (neu CaBA) yw cydbwyso gofynion amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol, ac alinio cyllid a gwaith o fewn dalgylchoedd afonol er mwyn sbarduno gwelliannau hirdymor. Mae rhagor o wybodaeth am y CaBA yma

Mae’r Dull Gweithredu yn seiliedig ar Ddalgylch yn annog sefydliadau i reoli tir a dŵr mewn ffordd integredig trwy glustnodi’r pwysau sydd yna ar yr amgylchedd dyfrol, cydnabod y potensial ar gyfer gwrthdaro rhwng buddiannau defnyddwyr (o’r diwydiant i ffermwyr, o bysgotwyr i bobl sy’n canŵio, o bobl leol sydd am ddefnyddio glannau’r afon i ecolegwyr sy’n awyddus i gynnal cynefinoedd bregus) a chydweithio i bennu amcanion cyffredin a rhoi atebion ar waith. Nod tymor hir yw CaBA, a bydd yn cymryd amser i’w ddatblygu.

Oherwydd manteision niferus gwlyptiroedd, a’r ffaith fod pob gwlyptir yn cynnwys nifer o byllau neu ‘gelloedd’ unigol, maent yn gyfle da i gydweithio. Am y rheswm yna, rydyn ni wedi darparu rhestr o gyfleoedd i gydweithio ar gyfer pob cyngor a bwrdd rheoli maetholion. Gallwch gael rhagor o fanylion am gyfleoedd i gydweithio ar wlyptiroedd trwy’r linc yma.

Beth yw’r angen?

Mae gennym drwyddedau yn ein gweithfeydd trin dŵr gwastraff i amddiffyn ein hafonydd a’n moroedd. Ein rheoleiddwyr amgylcheddol sy’n pennu’r trwyddedau hyn, a gallant eu newid pan fo angen i adlewyrchu anghenion newidiol yr afon, neu os oes tystiolaeth newydd yn dod i’r amlwg. Pan fo hynny’n digwydd, rydyn ni’n gweithio gyda’n rheoleiddwyr i wella ac uwchraddio ein gweithfeydd trin. Yn hanesyddol, mae’r sector dŵr wedi canolbwyntio ar atebion peirianegol wrth ddylunio gwelliannau i weithfeydd trin. Mae hyn yn bennaf am fod angen i ni roi hyder i’n rheoleiddwyr a’n cwsmeriaid y byddwn ni’n cyflawni’r gwelliannau mewn ansawdd dŵr ar unwaith ar ôl rhoi’r ateb ar waith.

Mewn blynyddoedd diweddar, rydyn ni, a chwmnïau dŵr eraill, yn dechrau gosod cyfyngiadau trwyddedu tynnach ar rai o’n gweithfeydd trin dŵr gwastraff llai a mwy gwledig. Nid yw’r gweithfeydd trin bach yma’n addas ar gyfer dulliau peirianegol mawr yma sydd â gofynion cymhleth o ran cynnal a chadw. Mae angen i ni ddefnyddio dulliau trin sy’n llai o ran maint, ac yn fwy cynaliadwy.

Pam gwlyptiroedd?

Yn ogystal â’r manteision o ran trin dŵr, mae gwlyptiroedd yn gynefinoedd cyfoethog a gwerthfawr ar gyfer bioamrywiaeth. Maen nhw’n cynnig manteision ychwanegol i’r gymuned hefyd am eu bod nhw’n gweithredu fel lle amwynder ac fel safleoedd addysg ar gyfer ysgolion lleol. Yn dibynnu ar leoliad y gwlyptir a faint o dir sydd ei angen, maen nhw’n aml yn cynnig atebion cost is o gymharu â dulliau peirianegol confensiynol, nid oes angen cemegolion allanol arnynt, ac fel arfer nid ydyn nhw’n defnyddio unrhyw ynni.

Er na fydd gwlyptir yn ateb addas bob tro, lle’r ydym yn hyderus y gallai’r ateb yma fodloni’r anghenion o ran ansawdd dŵr, rydyn ni’n ymrwymo i weithio gyda gwlyptiroedd ac atebion eraill sy’n seiliedig ar natur er lles ein hafonydd a bioamrywiaeth.