Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru


Fel cwmni nid-er-elw, ein cwsmeriaid sydd wrth galon popeth a wnawn. Dyna pam aethom ni ati i lansio Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru yn 2017. Ers lansio’r gronfa, rydyn ni’n falch o fod wedi cyfrannu dros £800,000 i gynorthwyo cannoedd o fentrau cymunedol lleol.

Rydyn ni wedi ymrwymo i roi rhywbeth nôl trwy gynorthwyo elusennau a grwpiau lleol sy’n gweithio’n galed i gael effaith gadarnhaol yn eu milltir sgwâr.

Rydyn ni’n cynnig hyd at £5,000 o gyllid i ariannu gweithgareddau neu brosiectau er budd y gymuned. Dim ots ai gwaith i wella gofod cyffredin, cynorthwyo menter leol, neu i greu rhywbeth newydd yw hi, rydyn ni am helpu i ddod â’ch syniadau’n fyw.

Ymysg yr esiamplau o brosiectau a allai dderbyn cyllid mae:

  • Iechyd a Lles - Prosiectau sy’n cynorthwyo iechyd a lles pobl yn y gymuned
  • Costau Byw - Prosiectau sy’n helpu pobl i gymryd camau i reoli neu osgoi dyledion a datblygu eu gallu ariannol. Mae hyn yn gallu cynnwys gweithgareddau sy’n codi ymwybyddiaeth am gymorth fforddiadwyedd y cyfleustodau fel cynlluniau Dwr Cymru a defnydd o'r cynlluniau hyn
  • Amgylcheddol - Gwelliannau / creu mannau agored gwyrdd neu fentrau amgylcheddol lleol
  • Diogelwch neu effeithlonrwydd dŵr - Rhaglenni addysg sy’n codi ymwybyddiaeth ynghylch effeithlonrwydd dŵr, cynaliadwyedd neu arloesi.

Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau yn yr ardaloedd lle mae Dŵr Cymru’n gweithio, neu wedi bod yn gweithio.

Rydyn ni’n awyddus i gynorthwyo cynifer o grwpiau a sefydliadau â phosibl, lle gall cyfraniad bach wneud gwahaniaeth mawr.

Esiamplau o grwpiau cofrestredig sy’n gymwys i ymgeisio:

  • Ymddiriedolaethau Elusengar - Elusennau Cofrestredig
  • Cymdeithasau tai, clybiau chwaraeon, cydweithfeydd
  • Cymdeithasau Cyfeillgar - clybiau gweithwyr, cymdeithasau lles; Cymdeithasau Anghorfforedig - Grwpiau Hunan-gymorth, sefydliadau bychain; Elusennau Eithriedig - Sgowts / Geids / Beavers / Brownis; Darparwyr gwasanaethau o’r Sector Gwirfoddol - Canolfannau Gwirfoddoli
  • Ysgolion

DS - Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr

Beth na allwn ei ariannu:

  • Staff / hyfforddwyr - oni bai bod y cyllid i hyfforddi staff cyfredol i wella ansawdd yr hyn y gall y grŵp ei gyflawni.
  • Costau parhaus (biliau neu gyfleustodau)
  • Cyllid amlflwydd
  • Arianwyr neu ddyfarnwyr grantiau eraill
  • Cyllid diffyg - i dalu’r diffyg yng nghyllidebau cyfredol prosiectau - er enghraifft, os yw grŵp yn chwilio am arian ychwanegol i gwblhau prosiect sydd wedi cael ei ariannu’n rhannol eisoes.
  • Gweithgareddau gwleidyddiaeth bleidiol
  • Gweithgareddau crefyddol penodedig
  • Digwyddiadau, cynadleddau neu nawdd

DS - Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr

Ni chewch wneud cais os ydych chi wedi derbyn unrhyw gyllid arall gennym o fewn y 12 mis diwethaf.

Sut mae’n gweithio

  • Llenwch y ffurflen gais ar lein sydd ar gael ar wefan Dŵr Cymru. Darllenwch yr amodau a thelerau cyn gwneud cais, am y caiff y cyllid ei lywodraethu gan yr amodau a’r telerau hynny.
  • Bydd y panel cymunedol yn cyfarfod i benderfynu ar y prosiectau llwyddiannus cyn pen 2 wythnos ar ôl y dyddiad cau, a chaiff ymgeiswyr glywed am y canlyniad cyn diwedd y mis ar ôl i’r holl ddogfennau perthnasol a chywir ddod i law.
  • Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus lenwi a llofnodi llythyr o Gydsyniad, a nhw fydd yn gyfrifol am gyflawni’r prosiect.
  • Waeth beth yw maint y grant, rhaid i’r prosiect gychwyn cyn pen chwe mis ar ôl y dyddiad dyfarnu a bydd gan yr ymgeisydd 24 mis i gwblhau’r prosiect.
  • Cysylltiadau Cyhoeddus a Straeon

Ar ôl i’r gronfa flynyddol gael ei dyfarnu yn ei chyfanrwydd, bydd ceisiadau’n cau tan y flwyddyn ariannol nesaf.

Rhannu eich stori

Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi rannu diweddariadau, gan gynnwys ffotograffau a chrynodeb byr o’ch prosiect. Bydd hyn yn ein helpu ni i ddangos effaith y gronfa ar draws ein platfformau cyfryngau cymdeithasol a chyhoeddus.

Sut i wneud cais?

Gweler dyddiadau’r panel isod. Dyma pryd y bydd gofyn i chi gyflwyno eich cais, a phryd y byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais.

  • 1 Ionawr 2026 - 28 Chwefror 2026
  • 1 Mai 2026 - 30 Mehefin 20256
  • 1 Medi 2026 - 31 Hydref 2026

*Argymhelliad* Byddwch yn benodol

Wrth lenwi eich cais, nodwch yn glir sut y caiff y cyllid ei ddefnyddio. Cofiwch gynnwys costau manwl unrhyw ddeunyddiau, offer neu wasanaethau sydd eu hangen i gynorthwyo’ch prosiect.

Grwpiau y mae’r Gronfa Gymunedol wedi’u cefnogi