Ymweliadau Addysg
Rydyn ni'n gweithio gydag ysgolion i annog plant i garu a gwerthfawrogi dŵr. Mae ein gweithgareddau, yng ngofal athrawon ar secondiad, yn paratoi'r disgyblion i fod yn ddinasyddion byd-eang, â dealltwriaeth am gynaliadwyedd a'i effaith ar y gymuned leol. Mae miloedd o ddisgyblion yn ymweld â’n canolfan ddarganfod addysgol neu’n derbyn ymweliad i’w hysgol bob blwyddyn ac maen nhw'n cael amser bendigedig - ac mae'r cyfan AM DDIM!
Ymweld â'n Canolfannau
Dewch y tu ôl i'r llenni i weld sut rydym ni’n darparu dŵr yfed diogel a glân a sut rydym ni’n trin dŵr gwastraff ac yn cadw ein hafonydd a'n traethau yn lân.
Bydd ein hathrawon cymwys a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn eich helpu i ganfod y rhan y gallwch chi ei chwarae i reoli dŵr yn gynaliadwy ac yn rhoi cyngor i chi ar sut i ddefnyddio dŵr yn fwy effeithlon a helpu'r amgylchedd.
Gweler isod am drosolwg o’n darpariaeth arferol, ond noder gall hyn amrywio yn seiliedig ar ddylanwad Covid-19 (Coronafirws). Cysylltwch â education@dwrcymru.com am fwy o wybodaeth.
Cilfynydd yng Nghymoedd y De
Mae gan ein Canolfan Ddarganfod yng Nghilfynydd ystafell ddosbarth dan do gynhwysfawr a man awyr agored cyffrous lle gall ysgolion sy’n ymweld gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol sy'n cynnwys y cylch dŵr, effeithlonrwydd dŵr, newid yn yr hinsawdd, rhwydo, cyfeiriannu, canfod bwystfilod bach, astudiaethau afon a’n gwers chwarae rôl WaterAid.
Hefyd yn ystod eich ymweliad, gallwch ddysgu am yr hyn y gellir ei weld a’i ogleuo yng Ngwaith Trin Gwastraff Cynon a darganfod sut y caiff dŵr gwastraff ei lanhau, ei drin a'i ddychwelyd yn ddiogel i'r amgylchedd.
Cyflwynir y gwersi gan athro neu athrawes cymwysedig ac mae'r holl weithgareddau yn gysylltiedig â'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae pob ymweliad AM DDIM, felly trefnwch heddiw i fwynhau profiad dysgu sy’n llawn hwyl!
Ein Hymweliadau Ysgol
Bydd ein tîm addysg arobryn yn ymweld â'ch ysgol neu goleg i gynnal gwasanaeth lle’r ydym ni’n addysgu plant am bopeth i'w wneud gyda dŵr! Sut rydym ni’n ei gasglu, ei drin, ei ddefnyddio a'i lanhau.
Caiff ein gweithdai rhyngweithiol eu harwain gan athrawon ar secondiad sy'n addysgu plant drwy'r gwersi mwyaf creadigol gan eu paratoi i fod yn llysgenhadon dŵr, â dealltwriaeth o’r newid yn yr hinsawdd, cymuned a negeseuon busnes Dŵr Cymru.
Mae ein gwersi, fel her y rhwydwaith, lle rhoddwyd yr her o greu a chynllunio model rhwydwaith dŵr i gyflenwi dŵr i bentref o fewn cyllideb benodol, yn rhoi cyfle i blant ddeall sut mae cwmni dŵr yn gweithredu a faint o ymdrech sydd ynghlwm â phob diferyn.
Wyddoch chi beth arall sy’n anhygoel? Gallai helpu eich ysgol i ennill statws Eco-Ysgol. Ein hunig ofyniad yw eich bod chi’n caniatáu i ni gynnal gwasanaeth i'ch ysgol gyfan a chynnal sesiwn cynllunio i arbed dŵr wedyn.
Trefnu Ymweliad
Dewch i ddysgu am yr hyn yr ydym ni’n ei wneud trwy ymweld ag un o'n canolfannau addysg ar-safle penodol neu gallwn ddod atoch chi yn rhan o'n gwaith allgymorth.
I drefnu, anfonwch e-bost at ein tîm addysg yn education@dwrcymru.com