Pwysig

Mae’r map yma’n darparu gwybodaeth sydd bron â bod mewn amser real am weithrediad gorlifoedd storm Dŵr Cymru, a hynny ar sail y wybodaeth o’n hoffer sy’n monitro hyd digwyddiadau.

Gallwch ddefnyddio’r map i weld a yw ein hoffer monitro’n dangos bod gorlif storm yn gweithredu ar y pryd ai peidio (am eu bod wedi eu dylunio i wneud hyn yn ystod neu ar ôl glaw trwm), a dyddiad/amser y cofnod olaf o’u gweithrediad. Nid yw’r data sy’n dod o’n hoffer monitro’n hollol gywir bob tro. Nid yw’n cadarnhau bod gorlif storm yn gweithredu, dim ond yn rhoi amcan.

Rydyn ni am i’n gwybodaeth fod yn hygyrch fel y gall defnyddwyr y dŵr wneud penderfyniadau gwybodus cyn mynd i’r dŵr neu ei ddefnyddio. Ni ddylid cymryd hyn fel cyngor ar ansawdd dŵr mewn dyfroedd ymdrochi. I gael gwybodaeth am ansawdd dyfroedd ymdrochi, ewch i dudalennau gwe Cyfoeth Naturiol Cymru ar Ddyfroedd Ymdrochi.

Gallwch gael rhagor o fanylion am fonitro hyd digwyddiadau yma.

Map gorlifoedd storm


Mae’r map yma’n darparu gwybodaeth sydd bron â bod mewn amser real am weithrediad gorlifoedd storm Dŵr Cymru, a hynny ar sail y wybodaeth o’n hoffer sy’n monitro hyd digwyddiadau.

Nodyn

Sylwch mai fersiwn gyntaf o'r map gorlif storm yw hwn – a elwir yn fersiwn 'beta'. Rydym yn defnyddio'r fersiwn hon i barhau i brofi a gwella'r wefan.


neu gallwch weld y map mewn ffenestr newydd.

Sut i ddefnyddio'r map

Mae icon i ddangos ymhle mae pob un o’n gorlifoedd storm. Wrth glicio ar icon, bydd ffenestr naid yn agor a fydd yn cynnig gwybodaeth am statws gweithredol y gorlif storm o dan sylw.

Beth yw ystyr y gwahanol iconau?
Mae’r teclyn ar ochr dde’r map yn esbonio ystyr y gwahanol symbolau – a’r gwahanol liwiau a graffeg sy’n dangos statws y gorlif storm.

Mae yna bedwar gwahanol fath o statws ar gyfer pob gorlif storm, gyda’r gwahanol logos a lliwiau’n dangos statws y gorlif.

Not operating icon yn golygu nad yw’r gorlif storm yn gweithredu
Operating icon yn golygu bod y gorlif storm yn gweithredu
Operated in last 24hrs icon yn golygu nad yw’r gorlif storm yn gweithredu (ond ei fod wedi gweithredu yn y 24 awr diwethaf)
Maintenance Icon yn golygu y gorlif storm dan waith cynnal a chadw

Bathing water icon yn dynodi lleoliad ymdrochi

Sut mae dod o hyd i fy lleoliad i ar y map?
Mae yna dair ffordd o ddod o hyd i leoliad penodol ar y map.

  • Gallwch ddefnyddio’r teclyn chwilio i chwilio am gyfeiriad neu ardal benodol.
  • Gallwch ddefnyddio’r teclyn chwilio am leoliad (os ydych wedi galluogi’r gosodiadau ar eich dyfais) i chwilio am eich lleoliad a’i chwyddo am olwg fanylach. Mae’r nodwedd yma’n ddefnyddiol iawn wrth ddefnyddio dyfais boced.
  • Gallwch chwyddo i mewn ac allan o’r map hefyd gan ddefnyddio’r botymau + a -

Gallwch ddefnyddio’r teclyn map sylfaen i newid i olwg wahanol o’r map sylfaen (y map cefndir) hefyd.

I ddychwelyd at y map diofyn, cliciwch ar y botwm hafan.

Gallwch ddefnyddio’r teclyn haenau i weld/cuddio gwahanol haenau fel ardaloedd ymdrochi, gan adael dim ond y wybodaeth am yr asedau gorlif storm os oes angen.

Sut ydw i’n gwybod a yw gorlif storm yn gweithredu ai peidio?
Trwy glicio ar bin ased penodol, bydd ffenestr naid yn agor. Bydd y ffenestr naid yma’n cynnwys gwybodaeth am yr ased – gan gynnwys a yw’r gorlif storm yn gweithredu ar y pryd ai peidio, a dyddiad / hyd ei weithrediad diwethaf.

Am y gorlifoedd storm

Beth yw gorlifoedd storm?
Gallwch ddysgu rhagor am orlifoedd storm here.

Am fonitro hyd digwyddiadau

Beth yw EDM?
Ystyr EDM yw Monitro Digwyddiadau a’u Hyd. Rydyn ni’n cyflwyno adroddiadau ar ddata EDM pob ased i’n rheoleiddwyr pob blwyddyn gan ddilyn safon diwydiant-eang o’r enw’r methodoleg 12/24. Rydyn ni’n lanlwytho ein setiau data blynyddol i’r map EDM sydd ar ein gwefan hefyd. Gallwch ddarllen rhagor am EDM yma.

Cwestiynau cyffredin