Asesiadau o Effeithiau Amgylcheddol
Mae asesu effaith amgylcheddol rhyddhau trwy ein gorlifoedd storm yn elfen flaenllaw wrth ymchwilio i berfformiad ein gorlifoedd storm a phennu categori perfformiad iddynt.
Os yw’r gorlifoedd yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd y maent yn rhyddhau iddynt, bydd DCWW yn blaenoriaethu cynlluniau gwella i’w cyflawni i fynd i’r afael â hyn yn rhan o raglen AMP8 a rhaglenni buddsoddi’r dyfodol. Am ragor o fanylion am orlifoedd storm, darllenwch y canlynol https://corporate.dwrcymru.com/cy-gb/community/environment/combined-storm-overflows.
Ein rheoleiddwyr amgylcheddol sy’n pennu’r meini prawf a’r fethodoleg ar gyfer ymchwilio i effeithiau amgylcheddol ein gorlifoedd storm. Ar gyfer AMP7, pennwyd y gofynion yn nogfen y Fframwaith Asesu Gorlifoedd Storm (SOAF). O ganlyniad, cafodd asesiadau o effeithiau amgylcheddol eu cwblhau ar gyfer cyfran sylweddol o’n gorlifoedd storm sy’n rhyddhau’n aml. Ar gyfer AMP8, SOAF fydd y dull cymeradwy o hyd ar gyfer ymchwilio i safleoedd sy’n rhyddhau yn aml yn Lloegr. Yng Nghymru, caiff y gwaith o ymchwilio a phennu categori ar gyfer perfformiad gorlifoedd storm ei gyflawni gan ystyried y gofynion a amlinellir yn nodyn canllaw GN066 Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) “Sut i Gategoreiddio Perfformiad Gorlifoedd Storm”.
Mae SOAF a GN066 yn ymgorffori cam asesu effeithiau amgylcheddol sy’n canolbwyntio ar werthuso effeithiau ein gorlifoedd storm ar yr amgylchedd y maent yn rhyddhau iddo. Maen nhw’n gofyn am werthusiad cynhwysfawr o ffactorau esthetig, biolegol ac o ran ansawdd dŵr, gan gynnwys arolygon ar y safle, gwaith samplo ac asesiadau modelu desg. Mae trosolwg o’r cydrannau allweddol yma isod:
1. Effaith esthetaidd:
Cyflawni arolygon safle i asesu am bresenoldeb eitemau o sbwriel carthion, ffwng carthion, ac adolygu cofnodion o ddigwyddiadau a chwynion sy’n gysylltiedig â’r gorlifoedd storm. Ochr yn ochr â hyn, pennir gwerth amwynder a chategori o ran effeithiau esthetaidd hefyd.
2. Effaith fiolegol:
Asesu organebau bychain sy’n byw ar welyau afonydd a nentydd fel dangosyddion ecolegol. Mae’r organebau hyn yn darparu gwybodaeth fanwl am iechyd yr ecosystem, a chesglir samplau i fyny’r llif ac i lawr y llif o’r gorlifoedd. Mae samplau tymhorol yn darparu asesiad cynhwysfawr o iechyd afonydd dros amser. Mae dull Whalley Hawkes Paisley Trigg (WHPT) yn gwerthuso cyflwr creaduriaid di-asgwrn-cefn benthig, sy’n sensitif i newidiadau yn eu hamgylchedd. Mae’n defnyddio paramedrau fel Nifer y Tacsonau (WHPT-NTAXA) a’r Sgôr Cyfartalog Fesul Tacson (WHPT-ASPT) i asesu iechyd ecolegol. Mae’r sgorio’n seiliedig ar y paramedrau hyn.
3. Modelu’r Effaith ar Ansawdd Dŵr:
Cyflawni gwaith sgrinio sy’n seiliedig ar wanhau er mwyn clustnodi gorlifoedd syn annhebygol o achosi problemau o ran ansawdd dŵr. Os na fodlonir y meini prawf gwanhau, cyflawni gwaith monitro ansawdd dŵr er mwyn pwyso a mesur yr effaith ar baramedrau fel cyfanswm yr amonia, BOD ac ocsigen tawdd. Defnyddio cymysgeddau amrywiol o ddulliau modelu yn seiliedig ar gymhlethrwydd y broblem a chostau posibl yr atebion, yn amrywio o fodelau cymysgu ystadegol syml i efelychiadau hydroddeinamig manwl. Mae’r gwaith o sgorio effeithiau’n ystyried 99 o safonau ansawdd a Safonau Ysbeidiol Sylfaenol (FIS) canraddol - gweler Rheoli Llygredd Trefol (UPM). Defnyddir y sgôr waethaf o’r asesiadau hyn at ddibenion pennu categori.
Y sgôr waethaf o’r asesiadau hyn sy’n pennu’r categori o ran effaith ar ansawdd dŵr, ac mae’n amrywio o “Dim effaith” i “Difrifol”.
I weld y wybodaeth am asesiadau o effaith amgylcheddol sydd ar gael ar hyn o bryd, lawrlwythwch y daenlen a chwiliwch am yr ased sydd o ddiddordeb i chi. Darperir linc i ddogfen gryno o fewn y daenlen os oes un ar gael. Mae DCWW yn parhau i gyflawni asesiadau pellach a diweddarach o niwed amgylcheddol, a chaiff y wybodaeth newydd ei gwneud yn hygyrch yn ysbeidiol pan fo hynny ar gael.