Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol


Mae Dŵr Cymru yn cydnabod effaith ein gwaith ar yr amgylchedd, a'r ffaith y bydd llawer o'r penderfyniadau a wnawn heddiw yn parhau i effeithio ar ein cwsmeriaid a'r amgylchedd am flynyddoedd i ddod.

Ers Chwefror 2015, mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (EIR) yn berthnasol i gwmnïau dŵr a charthffosiaeth, gan gynnwys Dŵr Cymru, ac maent yn eich galluogi i ofyn am wybodaeth am ein penderfyniadau a'n gwaith sy'n ymwneud â'r amgylchedd neu'n effeithio arno.

Dylid nodi nad yw gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn berthnasol i Dŵr Cymru.

Beth sy'n cyfrif fel “gwybodaeth amgylcheddol?

Yn ôl y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, gwybodaeth amgylcheddol yw unrhyw wybodaeth ysgrifenedig, weledol, glywedol, electronig neu ar unrhyw ffurf faterol arall am y pethau canlynol:

a) Cyflwr elfennau'r amgylchedd, fel yr aer a'r atmosffer, dŵr, pridd, tir, y dirwedd a safleoedd naturiol gan gynnwys ardaloedd gwlyptir, arfordirol a morol, amrywiaeth biolegol a'i chydrannau, gan gynnwys organebau sydd wedi eu haddasu'n enetig, a'r rhyngweithio rhwng yr elfennau hyn;

b) Ffactorau, fel sylweddau, ynni, sŵn, ymbelydredd neu wastraff, gan gynnwys gwastraff ymbelydrol, allyriannau, rhedlifoedd a gollyngiadau eraill i'r amgylchedd, sy'n effeithio ar yr elfennau o'r amgylchedd y cyfeirir atynt yn (a) neu sy'n debygol o wneud hynny;

c) Mesurau (gan gynnwys mesurau gweinyddol), fel polisïau, deddfwriaeth, cynlluniau, rhaglenni, cytundebau amgylcheddol a gweithgareddau sy'n effeithio ar yr elfennau a'r ffactorau y cyfeirir atynt yn (a) a (b) neu sy'n debygol o wneud hynny, yn ogystal â mesurau neu weithgareddau y bwriedir iddynt amddiffyn yr elfennau hynny;

d) Adroddiadau ar weithredu deddfwriaeth amgylcheddol;

e) Manteision o ran costau a dadansoddiadau economaidd a rhagdybiaethau eraill a ddefnyddir o fewn fframwaith y mesurau a'r gweithgareddau y cyfeirir atynt yn (c);

f) Cyflwr iechyd a diogelwch pobl, gan gynnwys halogi'r gadwyn fwyd, lle bo hynny'n berthnasol, amodau byw pobl, safleoedd diwylliannol a strwythurau adeiledig, a hynny i'r fath raddau y mae cyflwr yr elfennau o'r amgylchedd y cyfeirir atynt yn (a) yn effeithio arnynt neu y gallent effeithio arnynt, neu unrhyw faterion y cyfeirir atynt yn (b) a (c) trwy'r elfennau hynny.