Diogelu Data


Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd, ar gael yma, ac mae’n esbonio sut yr ydym yn casglu, defnyddio, rhannu a diogelu eich Gwybodaeth Bersonol mewn modd sy’n parchu eich hawliau Diogelu Data ac sy’n cydymffurfio â chyfreithiau Diogelu Data'r DU (gan gynnwys Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018). Mae hyn yn cynnwys rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag asiantaethau gwirio credyd ar gyfer pob cyfrif beth bynnag yw ei statws talu (h.y. cyfrifon mewn ôl-ddyled a rhai sy’n gyfredol). Mae rhagor o wybodaeth am rannu data a chwiliadau olrhain gydag Asiantaethau Cyfeirio Credyd ar gael yma. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Hysbysiad Gwybodaeth yr Asiantaeth Cyfeirio Credyd (CRAIN) hefyd, sydd ar gael trwy’r ddolen hon https://experian.co.uk/crain/index.html.

I ddarllen datganiad Diogelu Data ein Bwrdd, cliciwch yma.

Os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth am ein Hysbysiad Preifatrwydd, neu os oes gennych unrhyw sylwadau neu arsylwadau ynglŷn ag ef neu ynglŷn â’r modd yr ydym yn ymdrin â’ch Gwybodaeth Bersonol:

Anfonwch e-bost i: DataProtectionOfficer@dwrcymru.com

Ysgrifennwch at: Y Swyddog Diogelu Data, Dŵr Cymru Welsh Water, Linea, Fortran Road, St Mellons, Cardiff, CF3 0LT; neu

Ffoniwch ni ar: 0800 052 0145

Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun a hawliau unigol eraill

Mae gennych hawl i wneud cais am fynediad at eich gwybodaeth bersonol, gelwir hyn yn Gais am Fynediad at Ddata gan y Testun. Mae Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun yn eich galluogi i dderbyn copi o’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi ac i wirio ein bod ni’n ei brosesu’n gyfreithiol.

Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, mae gennym hawl gyfreithiol i godi tâl rhesymol os yw eich cais am fynediad yn amlwg yn ddi-sail neu’n ormodol. Fel arall, gallwn wrthod cydymffurfio â’r cais mewn amgylchiadau o’r fath.

Mae hefyd gennych hawl i wneud cais am y canlynol; cywiriad o’ch gwybodaeth bersonol, ac mewn achosion penodol: dileu eich gwybodaeth bersonol; gwrthwynebu ei brosesu; cyfyngu ar y prosesu; trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol.

Fe fyddwn ni’n gweithredu ar y cais heb oedi gormodol ac o fewn mis i dderbyn y cais fan pellaf. Efallai y byddwn yn ymestyn yr amser ymateb  i 2 fis arall os yw’r cais yn gymhleth neu os ydym ni wedi derbyn nifer o geisiadau gan yr un person.

Os hoffech arfer unrhyw un o’ch hawliau Testun Data:

Cwblhewch y ffurflen isod ac anfonwch hi atom:

Drwy e-bost yn: DataSubjectRightsRequests@dwrcymru.com;

Drwy’r post: Gwasanaethau Cwsmeriaid, Tîm Ceisiadau am Fynediad at Ddata gan y Testun, Dŵr Cymru, Linea, Ffordd Fortran, Llaneirwg, Caerdydd CF3 0LT; neu

Cewch ein ffonio ni ar: 0800 051 0145.

Cewch hefyd gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy https://ico.org.uk/ neu yn Wycliffe House Water Lane, Wilmslow, Cheshire SK9 5AF neu 0303 123 1113 i gael gwybodaeth, cyngor neu i wneud cwyn.

Ffurflen Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun

DOCX, 28.8kB