Llywodraethu


Mae Glas Cymru Holdings Cyfyngedig, cwmni cyfyngedig drwy warant, yn berchen ar Dŵr Cymru ar ran ei gwsmeriaid. Ein gweledigaeth yw ennyn ymddiriedaeth ein cwsmeriaid bob dydd.

Yn Glas Cymru, rydym ni’n credu bod llywodraethu corfforaethol yn ddisgyblaeth graidd sy’n creu gwerth i’n rhanddeiliaid ac sy’n ein galluogi ni i gyflawni gwasanaeth cyhoeddus hanfodol. Mae ein prosesau llywodraethu wedi’u seilio ar dryloywder a thegwch, sydd wrth wraidd gwerthoedd y Grŵp a diben y Cwmni. Rydym ni’n gweithredu’r egwyddorion a osodwyd yng Nghod Llywodraethiant Corfforaethol y DU (Cod) ac Egwyddorion Arweinyddiaeth, Tryloywder a Llywodraethu Ofwat (Egwyddorion Ofwat) fel sy’n ofynnol yn ein Trwydded gan Ofwat, a ddiwygiwyd yn 2019 i gynnwys rhwymedigaeth i gydymffurfio â’r Egwyddorion hyn. Gellir gweld sut yr ydym yn bodloni darpariaeth y Cod ac Egwyddorion Ofwat ynghyd a chael mwy o fanylion ynglŷn â’n fframwaith Llywodraethu yn ein Hadroddiad Llywodraethu Corfforaethol, fel y caiff ei gynnwys yn ein Hadroddiad Blynyddol a’n Cyfrifon diweddaraf.

Nicola Foreman yw ac Ysgrifennydd Cwmni Glas Cymru. Gallwch gysylltu â hi ar company.secretary@dwrcymru.com neu drwy ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cwmni, Dŵr Cymru, Linea, Fortran Road, St Mellons, Cardiff, CF3 0LT.