Mae Glas Cymru Holdings Cyfyngedig (Glas Cymru) yn gwmni cyfyngedig drwy warant a ffurfiwyd ar 15 Rhagfyr 2015.
Crëwyd y cwmni hwn yn rhan o ailstrwythuro corfforaethol, a ddaeth i rym ar 1 Mawrth 2016, i fod yn gwmni daliannol newydd y Grŵp. Trwy greu'r cwmni daliannol terfynol newydd hwn roedd yn bosibl creu is-gwmnïau newydd a allai ymgymryd â buddsoddiadau masnachol y tu allan i'r Cytundeb Telerau Cyffredin sy'n rheoli ein holl warannu busnes dros y busnes a reoleiddir o dan Glas Cymru Anghyfyngedig, cyn-riant-gwmni Grŵp Glas Cymru.