Rheoleiddwyr
Mae pob agwedd ar berfformiad Dŵr Cymru yn destun prosesau monitro a rheoleiddio tynn.
Mae’r rhestr isod yn nodi swyddogaethau a chyfrifoldebau Rheoleiddwyr y cwmni, ynghyd â’r manylion cyswllt.
Rheoleiddwyr
Ofwat yw’r rheoleiddiwr economaidd. Mae’n sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth da am bris teg wrth: bennu terfynau prisiau; sicrhau ein bod yn cynnal ein cyfrifoldebau statudol; diogelu safonau’r gwasanaeth i gwsmeriaid; a hyrwyddo effeithiolrwydd.
Ofwat, Centre City Tower, 7 Hill Street, Birmingham, B5 4UA.
Ffôn: 0121 644 7500, Gwefan: www.ofwat.gov.uk
Y Cyngor sy’n hyrwyddo ac yn cynrychioli buddiannau ein cwsmeriaid yn nhermau prisiau, gwasanaeth a gwerth am yr arian. Mae’n ymchwilio i gwynion cwsmeriaid hefyd.
Ystafell 140, Tŷ Caradog, 1–6 St Andrews Place, Caerdydd, CF10 3BE.
Ffôn: 0300 034 3333, Gwefan: www.ccwater.org.uk
Yr Arolygaeth Dŵr Yfed sy’n sicrhau ein bod yn cyflenwi dŵr yfed diogel sy’n bodloni safonau’r Rheoliadau Dŵr Yfed. Mae’n ymchwilio i gwynion cwsmeriaid a phethau sy’n effeithio ar ansawdd dŵr yfed, neu a allai effeithio arno.
Drinking Water Inspectorate, Room M03, 55 Whitehall, Llundain SW1A 2EY.
Ffôn: 030 0068 6400, Gwefan: www.dwi.gov.uk
Yr Asiantaeth sy’n monitro ac yn gorfodi cydymffurfiad â’r safonau ansawdd dŵr amgylcheddol. Mae hefyd yn sicrhau bod adnoddau dŵr yn cael eu defnyddio a’u rheoli yn effeithiol.
Head Office,Horizon House, Deanery Road, Bristol, BS1 5AH.
Ffôn: 08708 506 506, Gwefan: www.environment-agency.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dod â gwaith Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Comisiwn Coedwigaeth Cymru at ei gilydd, ynghyd â rhai o swyddogaethau Llywodraeth Cymru.
Y Cynulliad sy’n sicrhau ein bod yn dilyn deddfwriaeth Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig wrth wneud rheoliadau a chyhoeddi cyfarwyddyd statudol. Mae’r Cynulliad hefyd yn rhoi cyfarwyddyd i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol mewn perthynas â rhaglenni dŵr yfed ac ansawdd amgylcheddol y dylid eu cymryd i ystyriaeth wrth osod terfynau prisiau.
Yr Amgylchedd: Adran Diogelu ac Ansawdd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Ffôn: 029 2082 5111, Gwefan: www.wales.gov.uk