Cyfreithiol / Preifatrwydd


Mae'r hysbysiad cyfreithiol hwn yn berthnasol i holl gynnwys y Wefan.

Cyfeirir at Dŵr Cymru Cyfyngedig/Dŵr Cymru Welsh Water a Glas Cymru Cyfyngedig ar y cyd yn ‘y Cwmni’ at ddibenion yr hysbysiad cyfreithiol hwn. Drwy fynd i unrhyw ran o’r Wefan hon, byddwn ni’n cymryd eich chi bod wedi derbyn yr hysbysiad cyfreithiol hwn yn ei gyfranrwydd. Gallwn newid neu addasu’r hysbysiad cyfreithiol hwn ar unrhyw adeg, a daw unrhyw addasiadau o’r fath i rym ar unwaith wrth gyhoeddi’r hysbysiad cyfreithiol diwygiedig ar y Wefan hon.

Ymwadiad

Er bod y Cwmni’n gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth ar y Wefan hon yn gywir, nid yw’r Cwmni’n gwarantu cywirdeb a chyflawnder y deunydd ar y Wefan hon. Gall y Cwmni wneud newidiadau i’r deunydd sydd ar y Wefan hon ar unrhyw adeg heb rybudd. Gall y deunydd ar y Wefan hon yn fod hen wybodaeth, ac nid yw’r Cwmni’n ymrwymo i ddiweddaru deunydd o’r fath.

Cwcis

Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i wahaniaethu rhyngoch chi a ddefnyddwyr eraill ein gwefan. Mae hyn yn ein helpu ni i gynnig profiad da i chi pan fyddwch chi’n pori ein gwefan ac mae hefyd yn ein galluogi ni i wella ein gwefan. I gael gwybodaeth fanwl am y cwcis a ddefnyddiwn a pham, darllenwch ein polisi Cwcis. Dydyn ni ddim yn cadw unrhyw ddata ar-lein a allai adnabod unigolion e.e. cyfeiriadau IP.

Dolenni i Wefannau eraill

Mae rhai dolenni yn y Wefan hon yn cysylltu â gwefannau eraill a gynhelir gan drydydd partïon nad oes gan y cwmni unrhyw reolaeth drostynt. Nid yw’r Cwmni’n gwneud unrhyw addewidion ynghylch cywirdeb nac unrhyw agwedd arall ar wybodaeth sydd wedi’i chynnwys ar wefannau eraill.

Hawlfraint

Oni nodir fel arall, y Cwmni neu ei drwyddedwyr sydd biau’r hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill dros yr holl ddeunydd ar y Wefan hon (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, lluniau a delweddau graffeg). Cyfyngir ar gopïo i lawrlwytho i ddisg galed leol at eich defnydd personol eich hun. Ni chaniateir copïo na chadw cynnwys y Wefan hon ar unrhyw wefan arall na’i chynnwys mewn unrhyw system neu wasanaeth adfer electronig cyhoeddus neu breifat neu unrhyw gyhoeddiad neu waith arall heb gael caniatâd ysgrifenedig y Cwmni ymlaen llaw. Cedwir unrhyw hawliau na roddwyd yn benodol yn y telerau hyn.

Mae enw a logo’r Cwmni yn nodau masnach i’r Cwmni. Ni cheir defnyddio’r nodau masnach hyn heb gael caniatâd ysgrifenedig ffurfiol gan y Cwmni.

Diogelu data

Rydyn ni’n cymryd cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data o ddifri. Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw hi i chi ein bod ni’n gofalu am eich data. I gael gwybodaeth am sut yr ydym yn casglu, cadw, rhannu a defnyddio eich data.

Rydyn ni’n cydymffurfio â darpariaethau Deddfau Diogelu Data’r DU gan gynnwys y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018 mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gan ddefnyddwyr y Wefan. Ond oni nodir yn wahanol, nid yw’r wybodaeth a drosglwyddir i’r Cwmni drwy’r Wefan hon yn cael ei hamgryptio a gallai gael ei rhyng-gipio gan drydydd partïon neu ei dosbarthu’n electronig i bartïon eraill heblaw’r derbynnydd. Rydych chi’n anfon unrhyw wybodaeth ar eich risg eich hun ac felly dylech ystyried ei sensitifrwydd yn ofalus cyn ei throsglwyddo.

Awdurdodaeth

Caiff yr hysbysiad cyfreithiol hwn ei lywodraethu a’i ddehongli’n unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd anghydfodau sy’n codi mewn perthynas â’r hysbysiad cyfreithiol hwn yn destun awdurdodaeth lwyr llysoedd Cymru a Lloegr.