Amdanon Ni


Mae Dŵr Cymru yn eiddo i Glas Cymru, cwmni un pwrpas heb gyfranddeiliaid a redir yn llwyr er lles ei gwsmeriaid.

Ein perchennog, Glas Cymru, sydd wedi bod yn ariannu ac yn rheoli’r cwmni ers 2001. Mae Glas Cymru’n unigryw yn y sector dŵr a charthffosiaeth am ei fod yn gwmni cyfyngedig trwy warant, sy’n golygu nad oes ganddo gyfranddeiliaid.

Nod model busnes Glas Cymru yw lleihau cost ariannu asedau Dŵr Cymru, sef prif gostau unrhyw gwmni dŵr.

O dan berchnogaeth Glas Cymru, ariennir asedau a buddsoddiad cyfalaf Dŵr Cymru gan fondiau a gwargedion ariannol.

Hyd yma defnyddiwyd yr arbedion ariannol i ddatblygu cronfeydd wrth gefn y cwmni er mwyn diogelu Dŵr Cymru a’i gwsmeriaid rhag unrhyw gostau annisgwyl a gwella ansawdd ei gredyd er mwyn cadw costau cyllid mor isel â phosibl yn y dyfodol.

Dŵr Cymru yw’r chweched o ran maint o blith cwmnïau dŵr a charthffosiaeth rheoledig Cymru a Lloegr. Mae’n gyfrifol am ddarparu cyflenwadau dŵr yfed o safon uchel ar gyfer dros 3 miliwn o bobl ac am symud, trin a gwaredu eu dŵr gwastraff yn effeithiol. Wrth wneud hynny mae wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf am y gost isaf bosibl.

Cynllun Iaith Gymraeg

Mae Dŵr Cymru yn hapus i ddelio â chwsmeriaid a chyrff eraill yn Gymraeg a Saesneg ac mae wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o’r un safon yn y ddwy iaith.

Mae ein holl gyhoeddiadau’n ddwyieithog ac mae gennym linell ffôn arbennig ar gyfer cwsmeriaid sydd am siarad Cymraeg â ni sef, 0800 052 6058.

Cofrestrwyd ein Cynllun Iaith Gymraeg gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Beth mae nid-er-elw yn ei olygu?

Ein gwaith ni yw gofalu am eich dŵr.

Ac er bod y glaw yn disgyn yn rhydd o'r awyr, ry’n ni’n rhoi lot o waith, egni a chariad i mewn i ddarparu pob diferyn o ddŵr i chi.

Wedyn, ar ôl i chi ei ddefnyddio, ry’n ni’n cymryd y dŵr brwnt i ffwrdd ac yn ei lanhau cyn ei ddychwelyd i'n hafonydd a'n moroedd prydferth.

Ond mae mwy i'r stori na hynny.

Mae Dŵr Cymru yn wahanol i bob cwmni dŵr arall.

Nid oes unrhyw gyfranddeiliaid gennym, sy'n golygu y gallwn ni ail-fuddsoddi pob un ceiniog a wnawn niiI mewn i gadw biliau yn isel ac i ofalu am eich dŵr a'ch amgylchedd prydferth - nawr, ac am flynyddoedd i ddod.

Ry’n ni'n credu bod hyn yn ffordd well o lawer o wneud pethau.

Dŵr Cymru. Eich cwmni dŵr di-elw chi.

Oeddech chi'n gwybod?

Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn ‘gwmni nid-er-elw’ sydd wedibod yn eiddo i Glas Cymru ers 2001. Nid oes cyfranddalwyr ganddo ac mae unrhyw elw’n cael ei ailfuddsoddi yn y busnes er budd y cwsmeriaid.

Mae’n gwasanaethu

  • 1.4 miliwn o gartrefi a busnesau
  • 3 miliwn o bobl yn y rhan fwyaf o Gymru, Sir Henffordd a Glannau Dyfrdw
  • Mae’n cyflenwi 828 miliwn litr o ddŵr bob dydd

Y cwmni

  • Y 4ydd cwmni o ran maint yng Nghymru
  • Mae 3,000 o weithwyr gan Ddŵr Cymru
  • Rhaglen fuddsoddi o £1.5 biliwn 2010-15

Ein hasedau

  • Cynnal 26,500km o bibellau dŵrr
  • Dros 30,000km o garthffosydd
  • Rheoli dros 800 o weithfeydd trin dŵr gwastraff
  • Dadansoddi mwy na 600,000 o brofion o samplau dŵr yfed y flwyddyn
  • Ofalu am 92 o gronfeydd

Yn y gymuned

  • 1 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn i safleoedd ein cronfeydd a’n canolfannau ymwelwyr 
  • Mae dros 164,000 o blant wedi ymweld â’n canolfannau addysg hyd yma
  • Gofalu am 40,000 hectar o dir