Atyniadau Ymwelwyr Dŵr Cymru – Diwrnod i’r Brenin!


Eich canolfannau ar gyfer iechyd, lles a hamdden. Yn eich ailgysylltu chi â’r awyr agored, dŵr a’r amgylchedd.

Ymchwiliwch ein safleoedd

Dewch i brofi pob math o fuddion y mae bod yn agos at ddŵr yn ei gynnig yn un o’n Hatyniadau Ymwelwyr. Mae gan bob un ei bersonoliaeth unigryw ond eto mae iechyd, lles a hamdden wrth wraidd pob un.

Felly i ffwrdd â chi, taflwch y lein, ewch am dro, syllwch ar yr awyr, reidiwch eich beic neu ewch am damaid o fwyd yn ...

Cwm Elan

Canolbarth Cymru

Mae Cwm Elan yn rhan o’r Mynyddoedd Cambria garw ac yn ymledu dros 72 milltir sgwâr o olygfeydd o harddwch eithriadol. Mae’r tirweddau di-graith, sy’n gartref i blanhigion a bywyd gwyllt godidog yn fwy deniadol byth yn sgil yr argaeau Fictoraidd, cronfeydd dŵr a’r Ganolfan Ymwelwyr groesawgar. Mae Cwm Elan yn Barc Awyr Dywyll Rhyngwladol felly mae ei harddwch naturiol yn disgleirio ddydd a nos.

Elan Valley

Llyn Brenig

Gogledd Cymru

Safle coediog hynod o arbennig gyda physgodfa frithyll, cyfleuster llogi beiciau, maes chwarae antur, canolfan ymwelwyr a chaffi gyda golygfeydd panoramig o’r balconi. Mae Llyn Brenig hefyd yn gartref i Weilch y Pysgod prin sy’n nythu yno ac i’w gweld o fis Ebrill hyd at ddiwedd mis Awst. Gyda 23km o draethlin yn ymestyn o amgylch un o’r ardaloedd dŵr mewndirol mwyaf yng Nghymru mae’n cael ei gydnabod yn un o’r pysgodfeydd wyneb dŵr gorau yn y DU.

Llyn Brenig

Llyn Llandegfedd, Brynbuga

De Cymru

Yn gorwedd yng nghanol tirwedd fryniog hardd Dyffryn Wysg prin 20 milltir o Gaerdydd, Llyn Llandegfedd yw’r lle perffaith i fwynhau chwaraeon dŵr, pysgota, cerdded, gwylio bywyd gwyllt a mwynhau picnic. Mae’n atyniad ymwelwyr sy’n rhoi croeso gwirioneddol i gŵn lle cânt fwynhau’r golygfeydd trawiadol o falconi’r bwyty neu orffwys eu pawennau yn y caffi newydd.

Llandegfedd

Llys-y-Frân

Gorllewin Cymru

Yn sefyll wrth droed Bryniau Preseli yn Sir Benfro, mae Llyn a Chanolfan Weithgareddau Llys-y-Frân wedi ailagor ar ôl gael ei hailwampio’n sylweddol. Mae’r safle yn nawr yn cynnig Canolfan Ymwelwyr ar ei newydd wedd, caffi, beicio mynydd, ardal sgiliau pympio, llwybrau cerdded, gweithgareddau ar y dŵr ac ar dir sych, pysgota a maes chwarae antur, a hyb beicio newydd efo 14km o lwybrau beicio.

Llys-y-frân

Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien

De Cymru

Mae ein atyniad diweddaraf i ymwelwyr yng ngogledd Caerdydd yn adnodd naturiol o werth ecolegol o bwys ac mae’n cynnwys dau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ar gyfer ffwng cap cwyr ac adar dros y gaeaf. Mae nofio dŵr agored yn rhan o’r rhaglen o chwaraeon dŵr sydd hefyd yn cynnwys hwylio, canwio, caiacio a phadlfyrddio. Mae dros 5km o lwybrau ac mae ein canolfan newydd i ymwelwyr yn cynnig golygfeydd anhygoel dros y cronfeydd dŵr a bwydlenni blasus yn y caffi.

Llys-faen a Llanisien

Pysgota yng nghronfeydd dŵr Cymru

Mae Dŵr Cymru’n berchen ar 91 o gronfeydd dŵr o wahanol feintiau ac mae’n rheoli’r grŵp mwyaf un o bysgodfeydd brithyll dŵr llonydd yn y DU.

 

Canllaw i Bysgota Cronfeydd Dŵr Cymru

PDF, 2.5MB