Diweddariadau Buddsoddwyr
Darllenwch a lawrlwythwch ein Diweddariadau Buddsoddwyr diweddaraf.
Annual Investor Meeting - July 2024
366.1kB, PPTX
Annual Investor Update - July 2023
3.7MB, PDF
Mae'r wybodaeth a geir yn yr adroddiadau Buddsoddwyr yn cael ei dosbarthu yn unol ag amodau’r Cytundeb Telerau Cyffredin (CTA) sy'n llywio rhwymedigaethau'r cwmni i'w ddeiliaid bondiau a chredydwyr ariannol eraill. Fe'i cyfeirir at fuddsoddwyr presennol yn y cwmni, ac fe’i bwriedir ar eu cyfer. Ni ddylai unrhyw unigolion eraill weithredu na dibynnu arno.
Nid yw'r cwmni'n gwneud unrhyw honiadau o ran cywirdeb y rhagolygon (nac unrhyw wybodaeth arall yn yr adroddiadau hyn, ac eithrio’r hyn a nodir yn y CTA). Mae'r rhagolygon hyn yn cynnwys elfen o risg ac ansicrwydd oherwydd eu bod yn ymwneud â digwyddiadau ac yn dibynnu ar amgylchiadau a fydd yn digwydd yn y dyfodol. Gallai nifer o ffactorau newid y canlyniadau neu’r datblygiadau yn sylweddol o’r hyn a fynegwyd neu a awgrymir yn y rhagolygon hyn.
Ni ddylid dibynnu ar yr adroddiadau hyn fel canllaw i berfformiad yn y dyfodol, ac ni ddylid dibynnu arnynt wrth benderfynu a ddylid buddsoddi yn y cwmni yn y dyfodol. Dylid nodi nad yw archwilwyr y cwmni wedi adolygu’r wybodaeth yn yr adroddiadau hyn. At ddibenion y gyfundrefn hyrwyddiadau ariannol o dan Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000, darperir yr adroddiadau hyn ar sail yr eithriad a nodir yn Erthygl 69 o Orchymyn (Hyrwyddo Ariannol) 2005 o dan Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (mewn cysylltiad â bondiau sydd eisoes yn cael eu derbyn i fasnachu ar farchnad berthnasol).
Nid yw'r wybodaeth, nac unrhyw farn a fynegir yma yn gyfystyr â chynnig cyhoeddus o dan unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol nac yn gynnig i werthu neu gymell nac yn gynnig i brynu unrhyw warantau neu offerynnau ariannol ac nid yw’n cynghori nac yn argymell dim mewn cysylltiad â gwarantau neu offerynnau ariannol eraill o’r fath.
Gall cyfyngiadau cyfreithiol mewn awdurdodaethau ar wahân i’r Deyrnas Unedig gyfyngu ar gyhoeddi a darparu’r Wefan hon a’r deunydd a’r wybodaeth ar y Wefan hon felly dylai pobl mewn awdurdodaeth ar wahân i’r Deyrnas Unedig sy’n gallu defnyddio’r fath wybodaeth ymgyfarwyddo ag unrhyw gyfyngiadau o’r fath a’u dilyn. Ni chyfeirir y Wefan hon a’r deunydd a’r wybodaeth ar y Wefan hon at, ac ni fwriedir eu dosbarthu i na’u defnyddio gan unrhyw unigolyn neu endid sy’n ddinesydd neu’n breswylydd, neu wedi’i leoli mewn unrhyw awdurdodaeth lle byddai eu darparu neu eu defnyddio yn torri cyfraith neu reoliad perthnasol, neu a fyddai’n gosod cyfrifoldeb cofrestru neu drwyddedu ar y Cwmni a/neu unrhyw is–gwmnïau neu gwmnïau cysylltiedig â’r Cwmni o fewn awdurdodaeth o’r fath.
Darllenwch a lawrlwythwch ein Diweddariadau Buddsoddwyr diweddaraf.
366.1kB, PPTX
3.7MB, PDF