Mega-ddalgylch Bannau Brycheiniog


Mae Bannau Brycheiniog yn cyflenwi bron i hanner y dŵr yfed yr ydym ni’n ei ddarparu i'n cwsmeriaid bob dydd, felly gallech ei alw'n Fega-ddalgylch ar gyfer dŵr.

Mega Ddalgylch i Bawb

Bannau Brycheiniog sy'n darparu bron i hanner y dŵr yfed rydym yn ei gyflenwi i'n cwsmeriaid bob dydd, felly gallech ei alw'n Fega Ddalgylch ar gyfer dŵr.

Ond nid dŵr yw'r unig beth sy'n gwneud ein Bannau'n hynod. Mae cymunedau, bioamrywiaeth, amaethyddiaeth, coedwigaeth a thwristiaeth oll yn chwarae eu rhan wrth greu tirlun mor eiconig sy'n darparu cymaint i gynifer o bobl.

Rydyn ni wedi meddwl am syniad a fydd yn helpu Bannau Brycheiniog i barhau i ffynnu a meithrin gwytnwch ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol - rydyn ni am droi'r ardal yn Fega Ddalgylch i bawb.

Yn syml, rydyn ni am gydnabod faint y mae'r ardal hon yn ei ddarparu ar ein cyfer ar lefel tirwedd, yn hytrach na gweithio ar brosiectau un mater o fewn ffiniau nad yw byd natur yn eu cydnabod.

Rydyn ni am weithio gyda rhanddeiliaid i gyd-greu gweledigaeth gyffredin a fydd yn cyflawni'r deilliannau gorau posibl i bawb sy'n byw, yn gweithio ac yn elwa ar Fannau Brycheiniog.

Trwy rannu syniadau, gwybodaeth a brwdfrydedd, byddwn ni'n cyflawni gymaint yn fwy dros lesiant amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru gynaliadwy.

Felly beth ydych chi'n ei feddwl? Awn amdani?

Rhowch wybod i ni trwy WaterSource@dwrcymru.com

Wylio'r fideo cryno isod ar Fega-ddalgylch Bannau Brycheiniog

Mega-ddalgylch Bannau Brycheiniog

PDF, 546.4kB

Trwy lygad aderyn

Golwg newydd ar Brosiect Cymuned a Thirwedd Taf Fechan

Hedfan fry i gael golwg manylach ar ein prosiect cymunedol diweddaraf ym Mhontsticill