Grŵp Dŵr y Bannau'n croesawu ymwelwyr o Norfolk


Yn dilyn eu hymweliad â Norfolk ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, croesawodd Grŵp Dŵr y Bannau ymwelwyr draw i Gymru eleni.

Daeth Lizzie Emmett o Grŵp Ffermwyr Wensum a David Jones o Morley Farms am daith o gwmpas nifer o ffermydd y grŵp, gan arsylwi ar arferion arloesol aelodau'r grŵp.

Bu'r ymweliad yn gyfle i rannu profiadau ac arloesedd, y pethau sydd wrth galon yr athroniaeth sy'n gyrru Grŵp Dŵr y Bannau.

Cafodd yr ymwelwyr eu plesio'n benodol gan agwedd gymdeithasol y grŵp. Bu'r sgwrs a'r hwyl o gwmpas y bwrdd swper yn dipyn o ysbrydoliaeth, ac mae'n rhywbeth y mae ffermwyr Norfolk yn gobeithio'i efelychu gyda'u haelodau yn y dyfodol.

Gallwch ddarllen rhagor am eu hymweliad trwy glicio ar y linciau i'r fideos isod.