Ymweliad â gweithfeydd trin dŵr yn pwysleisio’r angen am gydweithio i reoli tir


Yn ddiweddar, cafodd partneriaid o grŵp llywio Megaddalgylch Bannau Brycheiniog (BBMC) Dŵr Cymru wahoddiad i ymweld â gweithfeydd trin dŵr (GTD) er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio i ddiogelu ffynonellau dŵr yfed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rhaglen o dreialon, cydweithio a mentrau rheoli tir yw’r BBMC. Fe’i sefydlwyd gan Ddŵr Cymru gyda chefnogaeth amrywiaeth eang o randdeiliaid sydd oll â buddiant mewn diogelu ein ffynonellau dŵr yfed ar gyfer y dyfodol.

Ymhlith aelodau’r grŵp llywio a gymerodd ran yn y daith roedd cynrychiolwyr o CNC a’r undebau ffermio, yn ogystal â pherchnogion tir, ffermwyr a choedwigwyr. Yn ogystal â bod ddiddorol roedden nhw’n teimlo bod yr ymweliad wedi eu gwneud nhw’n fwy gwybodus am y sialensiau sydd ynghlwm wrth sicrhau bod dŵr crai o’r ansawdd gorau posibl cyn iddo fynd i gael ei drin.

Dywedodd Sophie Straiton, Rheolwr Rhaglen Dŵr Cymru ar gyfer y BBMC: “Cawsom ni adborth cadarnhaol iawn oedd yn sôn cymaint yr oedd y daith wedi dod ag effaith beth sy’n digwydd ar y tir ar y gweithfeydd trin ac ar y bobl sy’n gweithio yno’n fyw iddynt. Un peth oedd yn arbennig o drawiadol oedd clywed am yr ymdrech a aeth i reoli’r problemau o ran blas a drewdod a gawsom ni’r haf diwethaf.”

Dywedodd cadeirydd y grŵp, Bob Vaughan: “Roedd hi’n bleser cael cwrdd â staff Dŵr Cymru yn Nhal-y-bont a chlywed o lygad y ffynnon am y camau y maen nhw’n eu cymryd i ddarparu dŵr o’r ansawdd uchaf ar gyfer eu cwsmeriaid. Roedd eu profiadau a’u hymdrechion i gyflawni hyn, yn arbennig yn ystod tywydd sych a chynnes yr haf diwethaf, yn arbennig o drawiadol. Rhoddodd hyn ffocws tynnach fyth ar yr angen dybryd am i’n grŵp a’r sefydliadau rydyn ni’n eu cynrychioli sicrhau gwell rheolaeth ar dir ac ar y dŵr yn ein dalgylchoedd er mwyn lleihau’r risgiau i ansawdd dŵr.”

Dywedodd Charles de Winton o’r Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad: “Bu’r ymweliad yn ddiddorol i weld, ar lefel ymarferol, y goblygiadau y mae darparwyr dŵr yn eu hwynebu pan fo problemau rheoli adnoddau o fewn y dalgylch ehangach, a’r mesurau lliniaru sylweddol sydd eu hangen i ddarparu dŵr glân.”

A dywedodd Ymgynghorydd Arbenigol Arweiniol CNC ar Afonydd ACA, Marc Williams: “Roedd hi’n gyfle gwych i staff CNC ymuno yn yr ymweliad safle â’r gweithfeydd trin dŵr yn Nhal-y-bont i weld y broses o drin y dŵr â’u llygaid eu hunain, a deall y sialensiau sydd ynghlwm wrth lanhau’r dŵr i safonau dŵr yfed. Dangosodd yr ymweliad bwysigrwydd cyflawni gwaith rheoli dalgylchoedd i fyny’r llif o’r GTD er mwyn lleihau faint o waith trin y mae angen ei gyflawni yn y gweithfeydd, ynghyd â manteision niferus gwella ansawdd dŵr a’r amgylchedd.

BBMC Steering Group Picture

Mae grŵp llywio Mega Dalgylch Bannau Brycheiniog yn ymweld â gwaith trin dŵr.