Penodi swyddog prosiect Taf Fechan a grŵp llywio ar y gweill
- Swyddog prosiect yn ei swydd ers diwedd Hydref 2020 am gyfnod o 12 mis
- Rôl y swyddog prosiect yw meithrin cysylltiadau â'r gymuned a hwyluso gweithgareddau
- Mae'r prosiect yn rhan o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 sy'n cael ei ariannu gan gronfa Datblygu Gwledig yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru
Mae Dŵr Cymru'n falch o gyhoeddi bod swyddog prosiect wedi cael ei phenodi, ac mae hi bellach wedi dechrau gwaith i gyflawni Prosiect Tirwedd a Chymuned Taf Fechan.
Cychwynnodd Charlotte Lloyd-Griffiths yn ei rôl ddiwedd Hydref ac mae hi bellach yn gweithio mewn partneriaeth ag aelodau o gymuned Pontsticill i gynllunio'r ffordd ymlaen a chyflawni nodau'r prosiect.
Partneriaeth rhwng Dŵr Cymru, yr unig gwmni cyfleustod nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, a Grŵp Cymunedol Pontsticill yw'r prosiect, ac mae hi wedi derbyn cyllid gan Gronfa Datblygu Gwledig yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.
"Rydw i mor gyffrous i gael y cyfle hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda thrigolion lleol i wella'r ardal o amgylch Cronfa Ddŵr Pontsticill," meddai Charlotte, sydd wedi bod yn gweithio dros Ddŵr Cymru ers 2 flynedd.
"Rydw i eisoes wedi cael y pleser o weithio gyda phobl o wahanol gefndiroedd, fel byd amaeth, amwynderau, ecoleg, a'r cyhoedd ar led, ac rwy'n gobeithio y byddaf i'n gallu defnyddio'r profiad hwnnw i dynnu gwahanol gymunedau Pontsticill ynghyd.
"Rwy'n gobeithio gweithio gyda'r cymunedau hyn i ddangos beth sydd gan Bontsticill i'w gynnig, ac i edrych ar gyfleoedd lle gallwn gydweithio i daclo'r problemau sy'n effeithio ar ddŵr a'r amgylchedd."
Mae'r prosiect cymunedol yn rhan o raglen Mega Ddalgylch Bannau Brycheiniog Dŵr Cymru, sef rhaglen sy’n ceisio gwella ein dulliau o reoli ansawdd ein dŵr yfed trwy reoli dalgylchoedd. Ardal o dir y mae dŵr yn llifo oddi arni i gorff dŵr mwy o faint fel afon neu gronfa ddŵr yw dalgylch dŵr. Nod rheoli dalgylchoedd yw amddiffyn a chyfoethogi'r dŵr yn yr amgylchedd trwy fynd i'r afael ag unrhyw broblemau ansawdd yn y tarddle er mwyn lleihau faint o gemegolion ac ynni y mae angen ei ddefnyddio’n nes ymlaen fel y gallwn gyflenwi dŵr yfed iachus ar gyfer ein cwsmeriaid.
Dull gweithredu sy'n defnyddio cydweithio i sbarduno a chysylltu'r gymuned yw dull rheoli dalgylch.
Amcanion y prosiect yw:
- Diogelu a gwella ansawdd dŵr at ddibenion dŵr yfed, ac ennill statws ecolegol uwch.
- Adfer a chreu cynefin naturiol er mwyn gwella bioamrywiaeth a mynediad i'r cyhoedd.
- Mynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol fel:
- Tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel
- Y risgiau sy'n gysylltiedig â chynnau tân ar dir comin
- Effeithiau defnyddio cerbydau oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon
- Nofio diawdurdod yn y gronfa
- Meithrin ymdeimlad o ymrymuso'r gymuned
- Meithrin a datblygu dulliau o weithredu ar sail partneriaeth er mwyn sicrhau gwytnwch tymor hir y cyflenwad dŵr a'r amgylchedd ehangach o fewn y dalgylch.
Mae'r tîm sydd y tu ôl i'r prosiect yn apelio at y cymunedau lleol i gymryd rhan, a rhannu unrhyw syniadau sydd ganddynt a fydd yn helpu i lywio cyfeiriad y prosiect.
"Gwnaeth brwdfrydedd Charlotte at brosiect Taf Fechan dipyn o argraff arnom, ac roedd syniadau bendigedig ganddi o ran sut i gysylltu â phobl leol a rhannu'r brwdfrydedd yma â nhw," meddai David Ashford, rheolwr rhaglen BBMC. "Nawr rydyn ni wrthi'n cysylltu â phobl sydd â buddiant i ofyn iddyn nhw ymuno â'n grŵp llywio. Bydd y grŵp yn hanfodol bwysig wrth ddarparu syniadau a chynlluniau am ffyrdd o wella'r dirwedd leol a sicrhau ein bod ni'n cyflawni ein briff, sef gwella'r ardal hon er budd y gymuned ac mewn partneriaeth â nhw."
Bydd Charlotte yn cydweithio'n agos â grŵp llywio newydd Taf Fechan, ac â Grŵp Cymunedol Pontsticill, wrth gynllunio'r camau nesaf.
I drafod problemau a chynnig syniadau, helpu i fwydo ein gweledigaeth neu i gael rhagor o wybodaeth am brosiect Taf Fechan a'r BBMC, cliciwch yma neu cysylltwch â BBMC@dwrcymru.com.