Cyflwyniad i Grŵp Dŵr y Bannau


Grŵp o ffermwyr o Fannau Brycheiniog sydd wedi dod at ei gilydd i sefydlu Cwmni Buddiant Cymunedol unigryw yw Grŵp Dwr y Bannau. Mae’r Grŵp yn cydweithio i arbrofi â dulliau newydd o weithio ac arferion amaethyddol arloesol sy’n fuddiol i ffermydd ac yn amddiffyn ffynonellau dŵr yfed.

  • Sefydlwyd Grŵp Dŵr y Bannau o dan fenter Mega Ddalgylch Bannau Brycheiniog, a chafodd ei fodelu ar waith byd-enwog Cyngor Amaethyddol Watershed yn Nhalaith Efrog Newydd.
  • Partneriaeth yn seiliedig ar ddeilliannau rhwng Dŵr Cymru a’r gymuned amaethyddol yw’r grŵp, ac mae’n gweithredu o’r gwaelod i fyny wrth ddylanwadu ar ddulliau rhagweithiol o reoli tir fferm.
  • Mae’r rhanddeiliaid allweddol yn y maes yn cydnabod bod gweithgarwch y grŵp yn cyflawni arferion gorau ac yn dylanwadu ar bolisi, e.e. ymgorfforwyd y prosiectau peilot a gyflawnwyd gan BWG i ddogfen gynnig Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, ac mae BWG wedi cael ei gynnwys fel astudiaeth achos yng Nghynllun Rheoli Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Sêr y Bannau.

Cefndir

Rydyn ni’n deall pwysigrwydd ffermio o fewn ein dalgylchoedd dŵr yfed, ac rydyn ni’n awyddus i weithio gyda ffermwyr ar arferion rheoli tir cynaliadwy sy’n llesol i’r busnesau ac i’n ffynonellau dŵr yfed fel ei gilydd.

Er mwyn gwneud hyn, fe ddatblygon ni raglen Mega Ddalgylch Bannau Brycheiniog (BBMC), gyda’r nod o reoli’r dalgylch ar lefel y dirwedd o fewn yr ardal benodol hon sydd o bwys strategol. Bannau Brycheiniog sy’n cyflenwi bron i hanner y dŵr yfed rydyn ni’n ei ddarparu ar gyfer ein cwsmeriaid pob un dydd, a dyna pam ein bod ni’n ei alw yn Fega Ddalgylch dŵr.

Mae Grŵp Dŵr y Bannau yn dod o fewn menter y BBMC. Clwstwr o ffermwyr rhagweithiol sydd wedi meithrin partneriaeth unigryw â ni i ddarparu arferion rheoli tir sy’n llesol i bawb ohonom ni yw’r grŵp. Y bartneriaeth hon yw’r cyntaf o’i math yng Nghymru, a gyda’n gilydd rydyn ni’n archwilio sut y gallwn efelychu ein llwyddiannau gyda chlystyrau ffermio eraill ar draws ein dalgylchoedd dŵr yfed.

Trwy weithio mewn partneriaeth sy’n ymbweru ffermwyr i weithio gyda ni i ddod o hyd i atebion a gwneud penderfyniadau, rydyn ni’n credu ein bod ni’n fwy tebygol o sbarduno newidiadau cynaliadwy o ran defnydd tir a fydd yn darparu manteision hirdymor ar gyfer ffermwyr a’r amgylchedd dŵr.

Hwylusodd Dŵr Cymru achlysur cyfnewid gwybodaeth gydag Adran Diogelu’r Amgylchedd yn Efrog Newydd a Chyngor Amaethyddol Watershed (WAC) ym Mynyddoedd y Catskills yn 2018. Yn dilyn hynny, daeth ffermwyr Bannau Brycheiniog at ei gilydd, a gyda’n cymorth ni, sefydlwyd Grŵp Dŵr y Bannau. Y nod oedd arbrofi â dulliau WAC gan eu haddasu i gyd-destun Cymreig.

Ers ei sefydlu, mae’r grŵp bach yma o ffermwyr ymroddgar a rhagweithiol wedi gweithio gyda ni i arbrofi â phrosiectau sy’n llesol i’w busnesau ac yn amddiffyn ansawdd ein ffynonellau dŵr yfed hefyd. Gellir rhannu’r dulliau newydd yma o weithio ar lefel tirwedd wedyn. 

Grŵp Dŵr y Bannau

Clwstwr o

ffermwyr rhagweithiol

Mae Grŵp Dŵr y Bannau yn dod o fewn menter y BBMC. Clwstwr o ffermwyr rhagweithiol sydd wedi meithrin partneriaeth unigryw â ni i ddarparu arferion rheoli tir sy’n llesol i bawb ohonom ni yw’r grŵp. Y bartneriaeth hon yw’r cyntaf o’i math yng Nghymru, a gyda’n gilydd rydyn ni’n archwilio sut y gallwn efelychu ein llwyddiannau gyda chlystyrau ffermio eraill ar draws ein dalgylchoedd dŵr yfed.

Mae’r Grŵp yn cynnwys:

  • Richard Roderick, Fferm Newton, Aberhonddu. Ffermwr defaid, gwartheg a thir âr, mentor Cyswllt Ffermio a fferm arddangos Amaeth-Ganolbwynt cyntaf Cymru.
  • Keri Davies, Fferm Glwydcaenewydd, Crai. Ffermwr defaid a gwartheg organig tir uchel ag elfen sylweddol o lety gwyliau. Mentor Cyswllt Ffermio.
  • Hugh Martineau, Fferm Treberfydd, Llyn Syfaddan. System ffermio tir isel, mewnbwn isel ar lannau Llyn Syfaddan â chynefinoedd ecolegol amrywiol.
  • David Thomas, Fferm Penwern, Llansbyddid. Fferm defaid, gwartheg a thir âr sy’n canolbwyntio ar reoli porthiant mewn ffordd gynhyrchiol mewn lleoliad wrth ymyl yr A40 sy’n dod â sialensiau o ran rheoli dŵr.
  • Alun Thomas, Fferm Pendre Uchaf, Llyn Syfaddan. Ffermwr godro a thir âr yn NVZ Llyn Syfaddan.
  • Julie Finch, rheolwr prosiect a strategaeth amaeth â phrofiad o’r diwydiant cynhyrchu cig eidion a chig oen.
  • Ben Williams, Fferm Greenway, Llanhamlach, Aberhonddu. Ffermwr cymysg yn Nyffryn Wysg sy’n cynhyrchu cig carbon sero trwy ddefnyddio glaswellt a technegau dim troi tir ers 2008.

Gallwch ddarganfod mwy am aelodau ein grŵp isod: