Galw am gymorth i bennu gweledigaeth prosiect cymunedol newydd Taf Fechan


  • Prosiect amgylcheddol cymunedol yn derbyn dros £48,000 o gyllid grant datblygu gwledig
  • Galw ar drigolion i helpu i bennu gweledigaeth ar gyfer ardaloedd lleol er mwyn sbarduno newid cadarnhaol

Mae galw ar drigolion Pontsticill a Merthyr Tudful i ystyried chwarae rhan mewn prosiect cymunedol newydd cyffrous â'r nod o wella'r amgylchedd a chreu gweledigaeth tymor-hir ar gyfer yr ardal.

Daw Prosiect Tirwedd a Chymuned Taf Fechan yn sgil llwyddiant cais Dŵr Cymru, yr unig gwmni cyfleustod nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, am grant mewn partneriaeth â Grŵp Cymunedol Pontsticill. Mae Gweithredu Gwledig Cwm Taf wedi dyfarnu mwy na £48,000 i'r prosiect o dan Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru.

Nod y prosiect yw gwella sut rydyn ni’n mynd ati i reoli ein dŵr yfed trwy reoli dalgylchoedd y dŵr. Ardal o dir y mae dŵr yn llifo oddi arni i gorff dŵr mwy o faint, fel afon neu gronfa ddŵr, yw dalgylch dŵr. Er mwyn sicrhau bod dŵr yfed o'r safon uchaf yn cyrraedd ein cwsmeriaid, nod rheoli dalgylchoedd yw amddiffyn a gwella'r dŵr yn yr amgylchedd trwy fynd at wraidd unrhyw broblemau o ran ansawdd, fel y gellir lleihau faint o gemegolion ac ynni y mae angen eu defnyddio yn y gweithfeydd trin dŵr.

Dull sy'n gweithio mewn ffordd gydweithredol i sbarduno a chysylltu'r gymuned yw dull rheoli ar sail dalgylch. Bydd rhan o'r grant yn helpu i gyflogi swyddog prosiect i feithrin cysylltiadau â chymunedau lleol a phobl sy'n ymweld â chronfa ddŵr Pontsticill.

Amcanion y prosiect yw:

  • Diogelu a gwella ansawdd dŵr at ddibenion dŵr yfed, a sicrhau gwell statws ecolegol.
  • Adfer a chreu cynefinoedd naturiol er mwyn gwella bioamrywiaeth a mynediad i'r cyhoedd.
  • Mynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol fel:
    • Tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel
    • Y risgiau sy'n gysylltiedig â chynnau tân ar dir comin
    • Effeithiau defnyddio cerbydau oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon
    • Nofio diawdurdod yn y gronfa
  • Meithrin ymdeimlad o rymuso'r gymuned /li>
  • Meithrin a datblygu dulliau o weithredu mewn partneriaeth er mwyn sicrhau gwytnwch tymor hir y cyflenwad dŵr a'r amgylchedd ehangach o fewn y dalgylch.

Mae'r tîm sydd y tu ôl i'r prosiect yn apelio ar y cymunedau lleol i gymryd rhan a rhannu unrhyw syniadau sydd ganddynt a fydd yn helpu i lywio cyfeiriad y prosiect. “Prosiect Taf Fechan yw un o'r prosiectau cyntaf i gael eu datblygu yn rhan o Fega-ddalgylch Bannau Brycheiniog, un o raglenni newydd Dŵr Cymru a fydd yn gweithio ar y cyd ag amrywiaeth eang o bobl sydd â diddordeb er mwyn lleihau ac atal problemau o ran ansawdd dŵr wrth ei darddiad," meddai David Ashford, rheolwr rhaglen y mega-ddalgylch. "Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi llwyddo i gael y grant yma, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda grwpiau eraill â buddiant mewn dŵr.

“Mae'r prosiect yma'n ymgorffori beth rydyn ni'n ceisio'i wneud gyda'r Mega-ddalgylch. Rydyn ni wedi cydweithio'n agos â Grŵp Cymunedol Pontsticill wrth baratoi'r cais yma, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw i gychwyn y prosiect a'i osod ar ben ffordd.

“Rydyn ni'n gobeithio y bydd pobl am gymryd rhan a rhannu eu safbwyntiau a'u syniadau â ni ynghylch sut y gallwn ni wneud newid cadarnhaol yn yr ardal a fydd yn dwyn manteision ar gyfer cynifer o bobl â phosibl am amser maith i ddod. Gallai hynny gymwys cyfleoedd i wella'r amgylchedd lleol er budd byd natur ac er eu mwynhad eu hunain, a diogelu ansawdd y dŵr yn y cronfeydd". Mae dalgylch Pontsticill yn cwmpasu ardal dros 16km² ac mae'n cynnwys Cronfeydd Dŵr Pontsticill a Phentwyn, a safleoedd hen Gronfeydd Dŵr y Neuadd Uchaf ac Isaf. Mae dŵr o'r dalgylch yma'n cyflenwi dros 160,000 o gartrefi yn ardal Merthyr a'r de-ddwyrain.

“Mae'r gymuned yn hynod o gefnogol o'r gwaith yma ar y cyd â Dŵr Cymru,” meddai Anthony Pritchard, Cadeirydd Grŵp Cymunedol Pontsticill. “Grŵp ymroddgar o wirfoddolwyr ydyn ni sydd wedi bod yn gwneud ein gorau glas dros yr ardal leol, gan ofalu am yr amgylchedd a cheisio addysgu eraill i wneud yr un peth. Mae gwneud hyn wrth amddiffyn ansawdd y dŵr yn ein cronfa leol yn rhywbeth rydyn ni'n angerddol yn ei gylch.

“Bydd yr arian sy'n dod o'r prosiect yma'n ein galluogi ni i gyflogi swyddog prosiect amser-llawn i oruchwylio'r ymdrechion hyn a datblygu rhai newydd.”

Ond mae'r prosiect am fwy na dim ond amddiffyn ansawdd dŵr. Mater o ailgysylltu pobl â'u tirwedd, cyfoethogi eu profiadau hamdden, a darparu cyfleoedd i hybu llesiant yw hi.

“Mae gwaith ar y cyd fel hyn, rhwng cwmni mawr fel Dŵr Cymru, sefydliadau amgylcheddol fel ni a grŵp o wirfoddolwyr lleol yn rhywbeth i'w ddathlu a'i hybu," meddai Jake Castle o Gadw Cymru'n Daclus. “Rydw i, am un, yn llawn cyffro i weld pa mor bell y gallwn ni fynd diolch i'r cyllid, a gweld beth arall y gallwn ei ysbrydoli ar hyd y ffordd.”

Mae tîm Mega-ddalgylch Bannau Brycheiniog wrthi nawr yn cydweithio'n agos â chynrychiolwyr lleol i ffurfio grŵp llywio o bobl â diddordeb a fydd yn symud y prosiect yn ei flaen.

Mae prosiect Taf Fechan yn cydategu strategaeth tymor-hir Dŵr Cymru i amddiffyn cyflenwadau dŵr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
I gynnig syniadau a chodi materion, helpu i fwydo ein gweledigaeth neu i gael rhagor o wybodaeth am y Mega-ddalgylch cysylltwch â BBMC@dwrcymru.com.