Sesiwn arddangos yn tynnu sylw at waith cydweithredol Dŵr Cymru a ffermwyr Bannau Brycheiniog


Grŵp Dŵr y Bannau (GDB) yn croesawu is-grŵp Llygredd Amaethyddol Fforwm Rheoli Tir Cymru (FRTC) ac yn dangos ei berthynas weithio agos â’r Tîm Dalgylchoedd Dŵr Yfed.

Grŵp cydweithredol yw’r FRTC. Fe’i sefydlwyd i ganolbwyntio ar lygredd amaethyddol a sut y gallwn ni gydweithio i greu fframwaith i wella ansawdd dŵr yn afonydd Cymru a chyflunio argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru at y dyfodol.

Mae dangos y gwaith i’r grŵp yn rhoi cyfle i ni gyd-ddylunio atebion a meithrin partneriaethau i gydweithio ar ffyrdd newydd ac arloesol o reoli tiroedd.

Sefydlwyd BWG trwy fenter Megaddalgylch Bannau Brycheiniog (MDBB) Dŵr Cymru, ein dull tirwedd-eang o ddiogelu ein ffynonellau dŵr yfed nawr ac at y dyfodol.

Croesawodd un o’i aelodau, Alun Thomas o Fferm Pendre Uchaf yn Llan-gors, is-grŵp yr FRTC i’w fferm er mwyn arddangos y cynlluniau peilot a’r ymyraethau sy’n cael eu cyflawni gan Ddŵr Cymru i gyflawni gwelliannau o ran effeithlonrwydd ar ffermydd wrth leihau’r peryglon o ran llygredd gwasgaredig.

Yn dilyn yr achlysur, dywedodd yr Athro Rhys Jones, aelod o Fwrdd CNC a Chadeirydd Is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru (FRTC) ar Lygredd Amaethyddol:

“Dysgodd Aelodau Is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar Lygredd Amaethyddol lawer o’n hymweliad â GDB.

“Cawsom ein siomi ar yr ochr orau gan sut mae’r Grŵp, gyda chymorth Dŵr Cymru, yn defnyddio dulliau newydd i geisio lleihau llygredd ar eu ffermydd.

“Cawsom ein siomi ar yr ochr orau gan y defnydd o orsafoedd tywydd lleol i lywio penderfyniadau am ledu baw, defnyddio LiDAR i fodelu dŵr ffo, ac ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth, treialu’r defnydd o wahanol gnydau fel lleiniau clustogi.

“Roedd aelodau’r Is-grŵp yn awyddus i archwilio ffyrdd o uwchraddio gwaith GDB fel y gallai lywio arferion amaethyddol mewn rhannau eraill o Gymru. “Hoffem ddiolch i GDB a Dŵr Cymru am drefnu’r ymweliad addysgiadol yma ac am eu croeso cynnes.”

Adlewyrchodd Nigel Elgar, rheolwr prosiect sy’n cydweithio’n agos â’r GDB safbwynt tebyg. Meddai:

“Roedd yr ymweliad yn gyfle go iawn i aelodau FRTC weld pa mor agos rydyn ni’n cydweithio â’r ffermwyr yn y grŵp, a’r gwahaniaeth yn ein dull o weithredu yn wyneb y sialensiau i ddŵr yfed, a hynny wrth wella effeithlonrwydd ffermydd hefyd.

“Y bartneriaeth hon sy’n ein llywio ni o ran ein dulliau o reoli dalgylchoedd yng Nghymru, ac rydyn ni’n defnyddio’r gwersi a ddysgwyd o weithio gyda GDB fel carreg sarn wrth ymgysylltu’r gymuned ffermio ehangach er mwyn gwella gwytnwch ein gweithfeydd trin dŵr er budd ein cwsmeriaid, a hynny wrth gefnogi busnesau ffermio hefyd.”

“Y bartneriaeth hon sy’n ein llywio ni o ran ein dulliau o reoli dalgylchoedd yng Nghymru, ac rydyn ni’n defnyddio’r gwersi a ddysgwyd o weithio gyda BWG fel carreg sarn wrth ymgysylltu’r gymuned ffermio ehangach er mwyn gwella gwytnwch ein gweithfeydd trin dŵr er budd ein cwsmeriaid, a hynny wrth gefnogi busnesau ffermio hefyd.”

Top of Upper Pendre

Yn edrych i lawr Aelodau o is-grŵp llygredd amaeth Fforwm Rheoli Tir Cymru yn ymweld â Fferm Pendre Uchaf yn Llan-gors

Developing Productive Buffers Project

Prosiect Datblygu Byfferi Cynhyrchiol. Rhun Fychan o IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth yn son am y prosiect diweddaraf ar Fferm Pendre Uchaf.

Weather stations on farms

Gorsafoedd tywydd ar ffermydd. Nigel Elgar o Dŵr Cymru a John Owen o Goleg Sir Gâr yn cyflwyno’r FRTC i orsafoedd tywydd ar fferm.