Amodau a Thelerau / Taliadau


Caiff unrhyw Nwyddau, Gwasanaethau a Gwaith eu caffael o dan Amodau a Thelerau safonol perthnasol Dŵr Cymru a’r Thelerau NEC.

Mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i egwyddorion talu prydlon, ac yn arbennig yn achos BBaCh. Nod Dŵr Cymru yw talu unrhyw anfonebau dilys nad oes cwestiwn yn eu cylch cyn pen 30 diwrnod ar ôl iddynt ddod i law yn unol â’n prosesau ar gyfer cyflwyno anfonebau a bennir yn y ddogfen Canllawiau Talu ac Anfonebu isod, dim ots beth yw gwerth yr anfoneb na phwy yw’r talai, a hynny’n unol â’r telerau talu safonol a gyhoeddwyd.

Mewn ambell i achos, mae’n bosibl y bydd gennym delerau talu gwahanol o dan ein contractau gyda chyflenwyr, ac os felly, y telerau cymeradwy hynny fydd mewn grym. Yn yr achosion hyn, bydd Dŵr Cymru’n anelu at dalu unrhyw anfonebau dilys nad oes cwestiwn yn eu cylch o fewn yr amserlen a gytunwyd o fewn y contract penodol yna.

Generic Document Thumbnail

Canllawiau talu ac anfonebu

PDF, 166.9kB

Generic Document Thumbnail

Telerau ac amodau rhif archeb

PDF, 183.1kB