Y Broses Dendro


Sut rydyn ni’n Hysbysebu:

Yn dibynnu ar faint a natur y Nwyddau, Gwasanaethau neu Waith sydd gennym mewn golwg, byddwn ni’n defnyddio un o’r dulliau canlynol i hysbysebu ein cyfleoedd. Cewch gofrestru ar Find a Tender, Gwerthwch i Gymru a Jaggaer am ddim.

  • Find a Tender - Os ydych chi’n sefydliad neu’n ddarparydd gwasanaethau sydd am weithio gyda ni, gallwch ganfod beth rydyn ni’n ei gaffael ar y pryd trwy chwilio am Ddŵr Cymru ar wefan Find a Tender.
  • Gwerthwch i Gymru - Os ydych chi’n sefydliad neu’n ddarparydd gwasanaethau sydd am weithio gyda ni, gallwch ganfod beth rydyn ni’n ei gaffael ar y pryd trwy chwilio am Ddŵr Cymru ar wefan Gwerthwch i Gymru.
  • Jaggaer - Mae e-borth Caffael Dŵr Cymru yn caniatáu i gyflenwyr gyflwyno dyfynbrisiau a thendrau’n electronig. Mae hyn yn ffordd syml, ddiogel ac effeithlon o reoli gweithgareddau tendro, sy’n lleihau faint o amser ac ymdrech sydd ei angen gan brynwyr a chyflenwyr.
  • Achilles - Rydyn ni’n defnyddio cronfa ddata Achilles Vendor Database i ddethol cyflenwyr cymwys hefyd.