Cyflenwi Dŵr Cymru Cyfyngedig (Dŵr Cymru)


Rhagair

Yn unol â’n Gweledigaeth Dŵr Cymru 2050 byddwn ni’n wynebu llwyth o sialensiau a chyfleoedd dros y blynyddoedd sydd i ddod, felly mae hi’n bwysig bod Dŵr Cymru Cyfyngedig yn ymgysylltu’r Cyflenwyr gorau sydd ar y farchnad.

Gyda gwariant o dros £540 miliwn y flwyddyn, nawr, yn fwy nag erioed, mae cyfrifoldeb arnom i ddangos ein cyfraniad at y gymdeithas ehangach. Yn Dŵr Cymru, rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn fusnes cyfrifol ym mhopeth a wnawn. Wrth brynu nwyddau a gwasanaethau neu waith, rydyn ni’n gweithredu mewn ffordd sy’n sicrhau’r gwerth gorau am arian, ac yn bachu ar gyfleoedd i gyflawni manteision ehangach ar gyfer pobl, yr economi a’r amgylchedd.

Mae sicrhau cynaliadwyedd a dileu Caethwasiaeth Fodern yn allweddol i’n prosesau Caffael, yn yr un modd ag Iechyd a Diogelwch a rheoli risg. Bwriedir i’n dull o weithredu mewn perthynas â chaffael cynaliadwy a moesegol fod yn gyson ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), ac mae rhagor o fanylion am yr elfennau hyn yn y tudalennau nesaf.

Mae Dŵr Cymru’n falch o lansio’r dudalen gwe yma fel canllaw i Gyflenwyr sy’n amlinellu ein disgwyliadau, ein polisïau a gwybodaeth ddefnyddiol arall ar gyfer Cyflenwyr sydd am ymgysylltu â ni.

Cyflwyniad

O unig fasnachwyr i sefydliadau rhyngwladol, rydyn ni’n gwario dros £540 miliwn bob blwyddyn wrth gaffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith o safon gan 4000 o sefydliadau allanol.

Mae’r cyflenwyr hyn yn amrywio o fentrau bach a chanolig i sefydliadau byd-eang ag arbenigedd sy’n cynnwys popeth o waith cyfalaf mawr, i gontractwyr gwasanaethau gweithredol, i gyflenwyr deunyddiau a nwyddau. Rydyn ni’n gwerthfawrogi ac yn croesawu amrywiaeth y cyflenwyr o bob math a maint.

Yn y tudalennau hyn fe ffeindiwch chi wybodaeth ddefnyddiol am weithio gyda Dŵr Cymru.

Caffael Moesegol

Mae Dŵr Cymru wedi llwyddo i ennill Nod Moeseg Gorfforaethol CIPS sy’n rhoi cydnabyddiaeth gyhoeddus i’n hymrwymiad fel sefydliad i gyrchu a rheoli cyflenwyr mewn ffordd foesegol. Dŵr Cymru yw’r trydydd gwmni Dŵr yn y DU, yr unig gwmni â Phencadlys yng Nghymru, ac un o gwta 65 cwmni arall yn y DU i gyflawni’r Nod Barcud.

Rydyn ni wedi llofnodi Datganiad o Ymrwymiad i gyrchu a rheoli cyflenwyr mewn ffordd foesegol, ac rydyn ni wedi cymryd camau rhagweithiol i amddiffyn rhag ymddygiad anfoesegol. Mae’r nod yn dangos i’n cyflenwyr, cwsmeriaid, darpar-weithwyr a rhanddeiliaid eraill eu bod nhw’n delio â sefydliad sydd wedi ymrwymo i sicrhau fod ei staff wedi cael hyfforddiant er mwyn cyrchu a rheoli cyflenwyr mewn ffordd foesegol, a’n bod ni wedi mabwysiadu gwerthoedd moesegol yn ein dulliau o gyrchu a rheoli cyflenwyr.

Caffael Cynaliadwy

Ein diffiniad o gynaliadwyedd yw bodloni ein hanghenion ni ein hunain heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni eu hanghenion nhw. Mae hyn yn cynnwys adnoddau naturiol, cymdeithasol ac economaidd.

Mae Dŵr Cymru wrthi’n datblygu ei bolisi a’i brosesau Cynaliadwyedd yn unol ag egwyddorion ISO 20400, a bydd yn cyhoeddi ein dyheadau o ran caffael cynaliadwy mewn Cod Cyflenwyr Cynaliadwy maes o law. Bydd ein dyheadau o ran sefydlu arferion caffael cynaliadwy yn gyson â phileri economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cynaliadwyedd, sef:

  • Amgylcheddol – Allyriannau carbon, bioamrywiaeth, ôl troed dŵr, gwastraff.
  • Cymdeithasol – Caethwasiaeth fodern, cyfleoedd gyda’r trydydd sector, hyfforddiant a recriwtio, cynwysoldeb ac amrywiaeth.
  • Economaidd – Yr economi sylfaenol a chyfleoedd i wario’n lleol, gweithio gyda BBaCh, taliadau teg, gwella’n cadwyn gyflenwi’n barhaus.

Uwchsgilio’ch Sefydliad o ran Cynaliadwyedd:

Mae Dŵr Cymru’n aelod balch o'r Ysgol Cynaliadwyedd Cadwyni Cyflenwi, ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill o’r un anian i feithrin “Diwydiant lle mae gan bawb y sgiliau a’r wybodaeth i greu dyfodol cynaliadwy.”

Cewch ymuno â’r Ysgol Cynaliadwyedd am ddim, ac mae’n caniatáu i chi fanteisio ar ddeunyddiau i uwchsgilio eich busnes a’ch gweithlu. Mewn cydweithrediad â’r Ysgol, mae Dŵr Cymru wedi llunio maes llafur i’r Cyfleustodau er mwyn cynorthwyo ein cadwyn gyflenwi ar eu siwrnai i gynaliadwyedd. Gweler y ddogfen isod am lincs i’r Ysgol ac awgrymiadau ar gyfer pynciau trafod.

$name

Utilities Sustainability Pathways

Lawrlwytho
299.4kB, PDF

Caethwasiaeth Fodern

Yn anffodus, mae Caethwasiaeth Fodern yn dal i fodoli yn ein cymdeithas, hyd yn oed o yn y DU, ac yn ôl yr elusen gwrth-gaethwasiaeth, Gobaith dros Gyfiawnder, yn 2020 roedd dros 40 miliwn o bobl ar draws y byd yn dan orthrwm caethwasiaeth. 18 Hydref yw Diwrnod Gwrth-gaethwasiaeth y Byd ac mae Dŵr Cymru’n cefnogi ac yn hyrwyddo’r fenter hon gydag wythnos o ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth a gweithgareddau hyfforddi, trwy’r gweithgareddau corfforaethol a gyflawnwn er mwyn taclo’r mater, a thrwy sicrhau y gallwn ganfod unrhyw achosion o Gaethwasiaeth Fodern a dileu’r peth yn llwyr o’n cadwyni cyflenwi.

Darllenwch ein Datganiad Gwrth-gaethwasiaeth o dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015, sy’n cynnwys y camau rydym yn eu cymryd i sicrhau bod Caethwasiaeth Fodern yn cael ei dileu’n llwyr o’n cadwyni cyflenwi.

Er mwyn cynorthwyo ein hagenda Gwrth-gaethwasiaeth, mae Dŵr Cymru’n dethol cyflenwyr i weithio gyda ni mewn ffordd foesegol a chynaliadwy.

Yn Dŵr Cymru, rydyn ni:

  1. Yn cyhoeddi ein Datganiad Gwrth-gaethwasiaeth yn flynyddol
  2. Yn sicrhau bod ein cyflenwyr yn cytuno i gydymffurfio â’n polisi Gwrth-gaethwasiaeth
  3. Wedi cyflwyno Cod Ymarfer ar gyfer Cyflenwyr
  4. Wedi cyflawni gwaith mapio ar ein Cadwyn Gyflenwi er mwyn canfod y meysydd lle mae’r risg ar ei huchaf
  5. Wedi cyflwyno Cynlluniau Rheoli Contractau
  6. Yn dilysu bod ein holl gyflenwyr strategol yn cydymffurfio â’n polisïau Gwrth-gaethwasiaeth

Gweithio gyda Dŵr Cymru

Rydyn ni’n chwilio am gyflenwyr sydd, yn ogystal â darparu Nwyddau, Gwasanaethau a Gwaith, yn gallu rhannu a dangos yr un gwerthoedd â ni, sef:

  • Bod yn AGORED i syniadau newydd
  • Bod yn ONEST gyda phawb
  • Bod yn FALCH o roi cwsmeriaid yn gyntaf
  • RHAGORI ym mhopeth a wnawn
  • Bod pobl yn YMDDIRIED ynom i wneud y peth iawn
  • Bod yn DDIOGEL bob amser

Rydyn ni’n disgwyl i gyflenwyr weithredu ag uniondeb, sy’n golygu eu bod nhw’n ymddwyn mewn ffordd foesegol ac yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a gofynion y diwydiant o ran ystyried llwgrwobrwyaeth a llygredigaeth, lletygarwch, rhoddion ac adloniant, buddiannau sy’n gwrthdaro, twyll a dwyn.

Rydyn ni’n disgwyl i gyflenwyr barchu moeseg y busnes, o ran dethol a meithrin perthnasau â gwerthwyr, diogelu gwybodaeth a data, seiberddiogelwch, a chontractio allan ac is-gontractio.

Rydyn ni’n disgwyl i gyflenwyr drin pobl mewn ffordd gyfrifol, sy’n golygu rhoi ystyriaeth i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb, diogelwch plant a phobl sydd mewn perygl, atal caethwasiaeth, talu cyflog byw, talu’n brydlon, iechyd a diogelwch, ac o ran defnyddio cyffuriau neu alcohol.

Rydyn ni’n disgwyl i gyflenwyr amddiffyn yr amgylchedd, sy’n gofyn am gydymffurfiaeth, nid yn unig â’r cyfreithiau, rheoliadau a safonau amgylcheddol, ond â’n safonau ansawdd amgylcheddol ni ein hunain i amddiffyn yr amgylchedd hefyd.

Ymgysylltu â Ni

Achlysuron Cwrdd â’r Prynwr

Cyfle i gwrdd â Phrynwyr Dŵr Cymru a chlywed am gyfleoedd tendro sydd ar y gweill. Bydd yr achlysuron hyn yn rhoi mynediad digynsail i gyflenwyr at ein prynwyr a’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau ar draws Dŵr Cymru.

Byddan nhw’n rhoi cyfle i chi gyflwyno eich sefydliad, cwrdd â chysylltiadau allweddol a chanfod pa gyfleoedd sydd ar y gweill ar gyfer cyflenwi Nwyddau, Gwasanaethau neu Waith. Defnyddiwch y ffurflen isod i gofrestru eich diddordeb mewn dod i achlysur Cwrdd â’r Prynwyr. 

Ymholiadau am Gyfleoedd

Rydyn ni’n cynnal rhaglen fewnol o weithgarwch i gyd-fynd â’n portffolio cyfredol o gontractau a’r dyddiadau pan ddaw’r contractau hynny i ben. Gallai hynny olygu na chaiff cyflenwyr sydd am gynnig gwasanaethau gael cyfle i wneud hynny ar unwaith os oes trefniadau’n bodoli eisoes.

Os oes diddordeb gennych glywed pryd y gallai cyfle godi, cysylltwch trwy lenwi’r ffurflen isod a’i hanfon AskProcurement@dwrcymru.com gan sicrhau eich bod wedi dewis y meysydd priodol o ddiddordeb er mwyn clywed am gyfleoedd perthnasol. Dylid nodi nad oes rhaid i ni wahodd sefydliadau sydd wedi gwneud ymholiadau i dendro.

$name

Register Your Interest

Lawrlwytho
13.7kB, DOCX

Cymorth Busnes Cymru

Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae Busnes Cymru wedi helpu dros 12,500 o bobl i gychwyn neu dyfu eu busnesau, ac wedi helpu i lansio dros 5,000 o fentrau a BBaCh newydd trwy rannu eu harbenigedd o’r byd busnes sydd wedi cronni dros filoedd o oriau o brofiad i’w cynorthwyo gyda’u sialensiau busnes.

Mae Dŵr Cymru’n awyddus i weithio gyda BBaCh a hoffem dynnu sylw at y cymorth y mae Busnes Cymru’n ei gynnig i BBaCh yma.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Busnes Cymru’n cynnig cymorth annibynnol sydd wedi ei ddylunio’n benodol ar gyfer busnesau Cymru. Mae gan eu harbenigwyr busnes profiadol yr holl wybodaeth, cyngor a chanllawiau sydd eu hangen arnoch i gynnal a thyfu eich busnes.

Gallant gynnig amrywiaeth o gymorth, gan gynnwys gwybodaeth, gweithdai, cyngor ar lein, dros y ffôn a rhithiol wyneb yn wyneb, yn ogystal â chymorth arbenigol sy’n cynnwys:

  • Cynllunio busnes
  • Rheolaeth ariannol a llif arian
  • Marchnata a brandio
  • Masnachu rhyngwladol
  • AD
  • Arallgyfeirio a datblygiad digidol
  • Tendro a Datblygu Ceisiadau