Cod Ymarfer y Cyflenwyr
Mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored, yn onest, yn dryloyw ac i gynnal y safonau moesegol a phroffesiynol uchaf.
Rydyn ni’n cyflawni ein busnes ag uniondeb, nid yn unig er mwyn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a rheoliadol, ond i wneud pethau’n gywir a gwneud y peth iawn dros ein cwsmeriaid, cydweithwyr, cyflenwyr, yr amgylchedd a’n cymunedau lleol.
Mae ein cyflenwyr yn chwarae rhan annatod wrth ein galluogi ni i ddarparu gwasanaethau ar gyfer ein cwsmeriaid, ac rydyn ni’n disgwyl i’n holl gyflenwyr fod â’r un ymroddiad, a gweithredu yn ôl y safonau uchaf o ran bod yn agored, uniondeb, cywirdeb a moeseg busnes a bennir yn ein Cod Ymddygiad ar gyfer Cyflenwyr (ein “Cod Cyflenwyr”).
I Bwy Mae’r Cod Cyflenwyr yn Berthnasol
Mae’r Cod Cyflenwyr yn berthnasol i bawb sy’n darparu Nwyddau, Gwasanaethau a Gwaith ar ein cyfer. Mae “Cyflenwyr” yn cynnwys cyflenwyr, contractwyr, isgontractwyr, darparwyr gwasanaethau, darparwyr gwasanaethau proffesiynol, ymgynghorwyr, canolwyr ac asiantau.
Mae’r Cod Cyflenwyr yn berthnasol i’n cadwyn gyflenwi i gyd, a disgwylir i Gyflenwyr ffrydio’r egwyddorion hyn i lawr trwy eu cadwyni cyflenwi eu hunain. Ni fwriedir i’r Cod Cyflenwyr fynd yn groes i nac addasu unrhyw delerau a chontractau sy’n bodoli rhwng Dŵr Cymru (neu unrhyw is-gwmni) a’i gyflenwyr. Yn achos unrhyw anghydfod, telerau unrhyw gontract penodol a bennwyd fydd trechaf.