Iechyd a Diogelwch


Mae DCWW yn credu fod gan bawb sy’n gweithio ar ein rhan, neu y mae ein gwaith yn effeithio arnynt, yr hawl sylfaenol i fynd adref yn ddiogel ar ddiwedd pob dydd. Mae gan Ddŵr Cymru werth craidd fel cwmni taw ‘Mater i Bawb yw Diogelwch’ ac rydyn ni am sicrhau fod pawb yn aros yn iach ac yn ddiogel yn yr amgylchedd gwaith.

Welsh Water are striving to achieve an injury-free environment and have a long-term health, safety, and wellbeing improvement strategy, our "Journey to Zero". Therefore, we will seek to eliminate hazards and miniMae Dŵr Cymru’n ymdrechu i greu amgylchedd sy’n rhydd o anafiadau, ac mae gennym strategaeth gwella llesiant o’r enw’r “Siwrnai i Sero”. Byddwn ni felly’n ymdrechu i ddileu peryglon a lleihau’r risgiau i’n hiechyd a’n diogelwch ein hunain, ac i unrhyw un arall y mae ein gwaith yn effeithio arnynt.

Er mwyn i ni sicrhau iechyd a diogelwch ym mhob rhan o’n cadwyn gyflenwi, gallwn ofyn bod cyflenwyr yn cael achrediad Cynlluniau Diogelwch ym maes Caffael (SSIP) neu’r Cynllun Asesu Iechyd a Diogelwch Contractwyr (CHAS). Yn ogystal, bydd Dŵr Cymru’n ymdrechu i sicrhau bod y bobl hynny sy’n gweithio ar ein rhan yn gyfarwydd â’n Polisi Iechyd, Diogelwch a Llesiant, gan gynnwys y gofynion ar gyfer atal anafiadau ac afiechyd.