Caffael


Mae Dŵr Cymru’n awyddus i glywed am ddatblygiad cynhyrchion a gwasanaethau trwy ein prosesau Caffael a Thendro, ond os oes gan gyflenwyr gynhyrchion neu atebion arloesol sy’n torri tir newydd, mae Tîm Arloesedd Dŵr Cymru yn agored i glywed amdanynt unrhyw bryd, trwy gydol y flwyddyn.

Rydyn ni’n agored i bob math o arloesi, ond mae gennym ffocws arbennig ar wella effeithlonrwydd, lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, a darparu gwasanaethau gwell ar gyfer ein cwsmeriaid trwy oresgyn sialensiau fel y rhai isod:

  • Diogelu Dŵr Yfed Glân trwy Reoli Dalgylchoedd
  • Gwella Dibynadwyedd Systemau Cyflenwi Dŵr Yfed
  • Sicrhau bod Gwasanaethau’n Fforddiadwy i Gwsmeriaid
  • Cynorthwyo Ecosystemau a Bioamrywiaeth
  • Gwasanaethau Blaengar i Gwsmeriaid
  • Defnyddio Byd Natur i Leihau Llifogydd a Llygredd
  • Hyrwyddo Economi Cylchol a Threchu’r Newid yn yr Hinsawdd

Rhan allweddol o arloesi yw meithrin syniadau a datblygu amgylchedd lle mae ein pobl yn cael eu hannog i arloesi a chymryd risgiau rhesymol er mwyn pwyso a mesur eu syniadau. Un o werthoedd ein cwmni yw ‘bod yn agored i syniadau newydd’. Mae parhau i feithrin capasiti a gwytnwch gwell yn ein pobl yn allweddol. Gall unigolion rannu syniadau, technolegau a chynnyrch newydd, a all fod yn gatalydd i arloesi o fewn y busnes.

Rhaid i bob prosiect y mae’r fforwm yn ei ystyried gyfrannu at gyflawni’r sialensiau a bennir yn ein Gweledigaeth 2050. Am ragor o fanylion, ewch i arloesi, lle gallwch gyflwyno eich syniadau arloesol i ni hefyd gan ddefnyddio ein ffurflen.