Beth mae Aelodau’r BWG yn ei ddweud am y Grŵp


Richard Roderick, Cadeirydd y Grŵp:

"Y berthynas â’r ymddiriedaeth sydd wedi datblygu o fewn y Grŵp yw rhai o ddeilliannau mwyaf gwerthfawr y grŵp hyd yn hyn, ac mae’n dangos bod y cyfanwaith yn fwy na swm yr holl rannau."

"Rydyn ni wedi meithrin hygrededd sydd wedi caniatáu i’r Grŵp ddylanwadu ar bolisi at y dyfodol a chynnig mewnbwn i brosiectau mewn dalgylchoedd eraill."

"Rydyn ni’n ofalus i beidio â gwneud gormod o ddatganiadau yn rhy fuan, ond i adeiladu tystiolaeth gadarn yn gyntaf. Nawr mae gennym ni’r gallu i rannu gwybodaeth a phrofiadau â ffermwyr eraill."

Keri Davies:

"Cryfder allweddol y Grŵp yw’r aelodau eu hunain. Rydyn ni’n dod o amrywiaeth eang o ffermydd ag amrywiaeth wahanol o sgiliau, ac rydyn ni’n dysgu gan ein gilydd. “Mae gan bob un ohonom ni hygrededd a pharch o fewn y diwydiant, ac mae hyn yn ein helpu ni wrth rannu gwybodaeth â ffermwyr eraill neu â’r Llywodraeth. Mae’r holl aelodau’n darparu mewnbwn ymarferol i weithgareddau a chyfeiriad y Grŵp."

"I mi, un o’r deilliannau mwyaf gwerthfawr yw’r pethau a ddysgwyd sydd wedi ein galluogi ni i wneud ein buddsoddiadau ein hunain mewn strwythurau a chyfleusterau sy’n amddiffyn dŵr yfed."

David Thomas:

"Ni ddylem danbrisio faint y mae’r Grŵp wedi ei gyflawni hyd yn hyn o ran beth rydyn ni wedi ei ddysgu, a’r parch rydyn ni wedi ei feithrin, yn arbennig gyda Llywodraeth Cymru a’n gallu i ymgysylltu â nhw ar faterion polisi. Mae gennym barch mawr at ein gilydd ac rydyn ni’n gallu trafod pethau’n agored, ac rydyn ni wedi datblygu llawer o brofiad a gwybodaeth ymarferol da iawn.Nawr rydyn ni ar bwynt lle gallwn ystyried ehangu’r wybodaeth yna eto fyth a meddwl sut y gallwn ei rannu’n ehangach/fwy effeithiol."

Alun Thomas:

"Mae ffermwyr yn enwog am fod yn wael am gydweithio, ond trwy’r BWG rydyn ni wedi dangos bod modd gwneud hynny. Mae cydbwysedd y Grŵp yn dda iawn, a gellid defnyddio hyn fel glasbrint i rannu ein siwrnai ac efelychu’r model yn rhywle arall. Mae cefnogaeth Nigel Elgar a chyllid Dŵr Cymru wedi ein galluogi ni i wneud newidiadau ac arbrofi â thechnolegau na fyddem wedi gallu eu gwneud fel arall. Ac rydyn ni wedi gallu gwneud hyn mewn ffordd sy’n caniatáu i’r diwydiant ac eraill gymryd y canlyniadau o ddifri."

Hugh Martineau

"Mae hi’n braf cael fforwm ar gyfer trafodaeth a gweithredu ar y cyd, ac mae hi’n braf cael archwilio arloesedd a’n herio ein gilydd."