Dull Gweithredu Grŵp Dŵr y Bannau


Mae ein partneriaeth â BWG a’n gwaith wrth rannu profiadau, cofleidio a threialu ffyrdd newydd o weithio’n gweithredu ar sail y ddealltwriaeth nad oes y fath beth â syniad gwael, ac mae hyn yn meithrin ffyrdd creadigol o feddwl ymysg ei aelodau.

Mae’r Grŵp yn cael ei herio i ddatblygu atebion sy’n fuddiol i bawb, gan ganolbwyntio ar ddeilliannau dymunol a ddaw â manteision hirdymor i’n dalgylchoedd dŵr yfed ac i’r gymuned ffermio hefyd.

Trwy ddefnyddio ein data a’n gwybodaeth, fel canlyniadau mapio llif hydrolegol, mae’r BWG yn newid dulliau o reoli tir er budd ansawdd dŵr ar draws y 1103 hectar y maent yn eu ffermio, heb gyfaddawdu anghenion busnes eu ffermydd.

Yn unigryw, rydyn ni’n darparu tâl ar gyfer y Grŵp hefyd er mwyn cydnabod eu hymdrechion a’r amser y maent yn ei dreulio i ffwrdd wrth eu busnesau er mwyn datblygu’r bartneriaeth arloesol yma.

Erbyn hyn, BWG yw’r sefydliad i droi ato am fewnbwn adeiladol i brosiectau eraill â ffocws amgylcheddol fel y BBMC, Partneriaeth Dalgylch Wysg, y prosiect 4 Afon LIFE a chynllun rheoli Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’n ffynhonnell gwybodaeth ac ysbrydoliaeth ar gyfer ffermwyr eraill a grwpiau clwstwr ffermio eraill sy’n esblygu, ac mae ei waith wedi dylanwadu ar gynigion Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd Llywodraeth Cymru hefyd.