Beth sydd gan ein partneriaid i’w ddweud am BWG


Here's what our partners have to say about the Beacons Water Group:-

Catherine Mealing-Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

"Mae Grŵp Dŵr y Bannau wedi cyflawni’n helaeth dros Brosiect Megaddalgylch Bannau Brycheiniog eleni, ac mae bellach yn gweithio gyda thîm 4 Afon LIFE a Phartneriaeth Dalgylch Afon Wysg i sefydlu mesurau ymarferol ar ffermydd a fydd yn gwella ansawdd dŵr. Mae taclo’r problemau ar Afon Wysg yn flaenoriaeth allweddol i’r Parc Cenedlaethol, ac mae ymgysylltu’r ffermwyr a’u cael nhw’n gweithio ar atebion yn hanfodol ac yn ddelfrydol hoffem weld gwaith y Grŵp yma’n cael ei efelychu ar bob cam ar hyd yr afon. Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r Grŵp."

Lilwen Joynson, Mentor a Hwylusydd Olyniaeth Busnes

"Mae hi’n ysbrydoledig sut mae ffermwyr wedi dod ynghyd er budd y darlun cyfan a chenedlaethau’r dyfodol."

Paul Sinnadurai, Uwch Ecolegydd BBNPA

"Mae Grŵp Dŵr y Bannau yn fenter ardderchog, wedi ei sbarduno a dan nawdd BBMC ac sy’n cael ei arwain gan ffermwyr blaengar. Mae’r Grŵp yn chwilio am atebion i gyfoethogi maetholion anthropogenaidd yn Nalgylch Wysg, gan chwilio am atebion y gall y sector ffermio eu cynnig a’u hefelychu yma yn dalgylch dŵr pwysicaf Cymru. Mae’r gwaith yn galonogol, mae’n cyfuno â gwaith mentrau eraill (fel rheoli INNS, Ardal o Bwys i’r Gylfinir, 4 Afon LIFE), sy’n golygu y gallai atebion integredig ac amrywiol fod yn bosibl; gan osgoi dull gweithredu cyfarwyddol sydd ‘yr un peth i bawb’. Y gobaith yw y bydd modd rhannu’r canlyniadau, eu hefelychu a’u hehangu, ac y bydd cynlluniau pwysig fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn meithrin mwy o’r dulliau gweithredu yma sy’n seiliedig ar ganlyniadau."

Charles de Winton, Syrfëwr Gwledig, y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad

"Mae’r Grŵp yn bwrw ymlaen â newidiadau ymarferol i ddelio â phroblemau o ran adnoddau dŵr gyda golwg ar y newid yn yr hinsawdd a phopeth sydd ynghlwm wrth hynny. Mae yna nifer o wahanol sefydliadau’n gweithredu yn y maes yma ar hyn o bryd ac mae hi’n bwysig dros ben fod pawb yn cydweithio er budd cyffredin."

Prysor Williams, Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol, Prifysgol Bangor

"Rydw i wedi cael cyfle i weithio gyda Grŵp Dŵr y Bannau yn rhan o’u prosiect EIP sy’n canolbwyntio ar anelu at Sero Net. Buom ni ym Mhrifysgol Bangor yn casglu data gyda’r ffermwyr er mwyn llunio adroddiad ar ôl troed carbon pob fferm unigol. Arweiniodd hyn at drafodaethau hynod o ddifyr am beth y gallent ei wneud i leihau effeithiau amgylcheddol eu systemau, sut y gallent ddysgu gan ei gilydd a rhannu arferion da. Wrth gwrs, bydd llawer o’r mesurau hynny’n helpu i amddiffyn ansawdd dŵr, yn gwella bioamrywiaeth, ac yn dod â manteision amgylcheddol eraill. Mae’n amlwg eu bod nhw’n grŵp o ffermwyr gwybodus a blaengar sy’n deall fod angen i’w busnesau fod yn gynaliadwy o safbwynt economaidd ac amgylcheddol. Mae hi wedi bod yn fendigedig cael gweithio gyda nhw, ac rwy’n gwybod eu bod nhw wedi cymryd diddordeb gwirioneddol yng nghanfyddiadau’r gwaith."

Bob Vaughan, Chair, Cadeirydd Grŵp Llywio BBMC

"Mae’r newid yn ein hinsawdd a’r pwysau o du ein cymdeithas yn creu sialensiau o ran rheoli tir y mae angen i ni i gyd fynd i’r afael â nhw. Os na wnawn ni hynny, rydyn ni mewn perygl o wynebu dyfodol anghynaliadwy. Nid yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei adael i bobl eraill ei ddatrys; mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae. Ac felly mae hi’n galonogol gweld Grŵp Dŵr y Bannau yn cydnabod y problemau ac yn cymryd camau pwysig ac arloesol i’w deall yn well a datblygu a atebion cynaliadwy i’w rhoi ar waith. Yn hynny o beth, maen nhw’n gosod esiampl dda i’r gweddill ohonom ni."