Data Agored
Mae Data Agored yn cyfeirio at ddata y gall unrhyw un ei weld, ei ddefnyddio neu ei rannu. Credwn y bydd y data sydd gennym yn cael mwy o ddefnydd os byddwn yn ei rannu gyda'n cymuned ehangach.
Ein Strategaeth Data Agored
Mae ein Strategaeth Data Agored yn nodi sut rydym yn bwriadu defnyddio data agored i sicrhau gwerth, boed hynny'n werth economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys rhyddhau setiau data gwerth uchel, meithrin cydweithredu drwy ein rhaglen data agored, a datblygu diwylliant data agored ymhlith ein cydweithwyr a'n rhanddeiliaid, sy'n cwmpasu mentrau masnachol, ymchwil, sefydliadau cyhoeddus, ein cwsmeriaid a thu hwnt.
Strategaeth Data Agored - Crynodeb Gweithredol
PDF, 980.2kB
Bwriad y ddogfen hon yw darparu crynodeb o Strategaeth Data Agored Dŵr Cymru Welsh Water Yn y ddogfen hon, fe ffeindiwch chi wybodaeth allweddol ynghylch pam lluniwyd y Strategaeth Data Agored a sut y byddwn ni’n mynd ati i roi ein menter data agored ar waith.
Stream
Mae Stream yn sefydliad data, sy'n cynnwys 16 o gwmnïau dŵr, sy'n helpu i ddatblygu seilwaith rhannu data ar gyfer y sector dŵr. Gweledigaeth Stream yw datgloi potensial data dŵr er budd cwsmeriaid, cymdeithas a'r amgylchedd.
Fel aelod o Stream, rydym yn cydweithio â chwmnïau dŵr eraill, sefydliadau o'r sectorau cyfreithiol, ynni a thechnoleg, a rhanddeiliaid i ysgogi arloesi a gwella perfformiad yn y sector dŵr.
Mae porthol Stream yn cynnig mynediad hawdd i ystod eang o setiau data sy'n gysylltiedig â dŵr, a chymuned gydweithredol sy'n ymroddedig i gynaliadwyedd dŵr ac arloesedd.
Dŵr Pods - Lansio'r Strategaeth
Ymunwch â Kit Wilson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gweithredol, a Justin Doran, ein Rheolwr Gweithrediadau Data wrth iddynt drafod Data Agored a lansio ein strategaeth newydd gyda Sarah Ingham, ein Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus ar Dŵr Pods.
Cysylltwch â'n tîm data agored
Os oes gennych unrhyw adborth sy'n ymwneud â'n strategaeth neu setiau data sydd wedi’u cyhoeddi, siaradwch â'n tîm cyfeillgar.