Dŵr Gwastraff


Mae ein systemau carthffosiaeth yn casglu dŵr gwastraff o’ch cartrefi a’ch ysgolion ac yn ei gludo trwy rwydwaith o bibellau danddaear i’n gweithfeydd trin. Yma, mae’r elifion yn cael eu trin a’u dychwelyd i’r amgylchedd.

Beth yw dŵr gwastraff/carthffosiaeth?

Y dŵr sy'n cael ei arllwys i lawr y draen ar ôl golchi llestri, cael bath neu fflysio'r tŷ bach yw hyn. Yn wir, mae dŵr gwastraff yn cynnwys pob math o ddŵr sydd wedi cael ei ddefnyddio. Mae'r dŵr gwastraff yn cynnwys amrywiaeth o sylweddau, rhai ohonynt wedi eu hydoddi, a rhai ar ffurf solet a fydd yn arnofio, yn suddo neu'n hongian yn y dŵr.

  • Dŵr domestig o'r bath, golchi llestri, tai bach ac ati.
  • Dŵr gwastraff diwydiannol o ffatrïoedd.
  • Dŵr glaw sy'n llifo oddi ar doeau, ffyrdd ac ardaloedd palmantog.

Casglu dŵr gwastraff

Mae casglu'r holl ddŵr gwastraff yma a'i gludo i'r gweithfeydd trin yn dasg beirianyddol aruthrol sy'n gofyn am rwydwaith helaeth o garthffosydd sy'n ymestyn allan i bron pob cartref, swyddfa, siop, ysgol a ffatri yn y wlad.

Yn y rhanbarth sydd yng ngofal Dŵr Cymru yn unig, mae hyn yn golygu tua 36,000kkm o garthffosydd a draeniau.

Mathau o rwydweithiau carthffosiaeth

System garthffosiaeth gyfun sydd gan y rhan fwyaf o’r DU, sy’n golygu bod y dŵr glaw a’r dŵr gwastraff (o doiledau, ystafelloedd ymolchi a cheginau) yn cael ei gludo i’r gweithfeydd trin carthion trwy’r un pibellau. Adeiladwyd y rhan fwyaf o’r rhwydwaith dŵr gwastraff dros 120 o flynyddoedd yn ôl yn Oes Fictoria, a phe baem ni’n dylunio’r system heddiw, byddem yn ei gwneud pethau mewn ffordd wahanol iawn, â phibellau ar wahân ar gyfer carthion a dŵr glaw. Dyna sut mae datblygiadau tai newydd yn cael eu dylunio erbyn hyn.

Gorlifoedd Storm

Mewn stormydd glaw trwm, mae mwy o ddŵr yn mynd i mewn i’r systemau ‘cyfun’ hŷn sy’n cludo dŵr glaw a dŵr gwastraff. Nid yw’r pibellau hyn wedi eu dylunio i ddal yr holl ddŵr yna, felly mae pwyntiau rhyddhau o’r enw Gorlifoedd Storm arnyn nhw, sy’n gadael y dŵr ychwanegol allan yn ddiogel.

Dŵr glaw yw’r rhan fwyaf o’r dŵr yma - tua 95% ohono. Mae’n cael ei ryddhau i gyrsiau dŵr, a ddylai fod dan lif trwm yn barod. Heb y pwyntiau gorlif yma, byddai’r pibellau’n gorlenwi a gallai carthion orlifo i mewn i strydoedd neu hyd yn oed allan trwy doiledau mewn cartrefi.

Stop Cyn Creu Bloc

Weips (gan gynnwys y rhai y gallwch eu fflysio yn ôl y pecyn), cewynnau untro a nwyddau mislif yw’r prif bethau sy’n achosi problemau yn ein carthffosydd; ond mae olew, braster a saim o’r gegin yn gallu achosi bloc hefyd. Ni ddylech byth olchi’r pethau hyn i lawr y draen. Fflysio’r pethau anghywir i lawr y toiled neu eu golchi i lawr y draen yn sinc y gegin sy’n gyfrifol am bron i hanner yr holl dagfeydd mewn carthffosydd.

Mae ymgyrch Stop Cyn Creu Bloc Dŵr Cymru yn codi ymwybyddiaeth am y pethau y gallwch eu fflysio a’u golchi i lawr y draen, a’r pethau na ddylech chi.

Trin dŵr gwastraff

Pwrpas trin dŵr gwastraff yw cael digon o amhureddau allan o'r dŵr gwastraff i'w ddychwelyd yn ddiogel i'r afon neu'r môr, a'i alluogi i ddod yn rhan o'r gylchred ddŵr naturiol unwaith eto.

Mae'r broses ar gyfer glanhau dŵr gwastraff yn cynnwys cyfres o gamau sy'n cynnwys sgrinio, setlo a defnyddio microbau i gael gwared ar y cynnyrch solet sy'n crogi yn y dŵr. Mae'r manylion llawn yn ein taflenni gwybodaeth manwl y gallwch eu lawrlwytho.

Troi baw yn bŵer

Mae hi'n anodd credu ein bod ni'n gallu defnyddio dŵr gwastraff a charthffosiaeth i oleuo ein cartrefi, rydyn ni'n galw hyn yn Bŵer Baw!

Mae Pŵer Baw yn defnyddio bio-nwy, sy'n gyfoethog o ran methan, sy'n cael ei godi trwy'r broses o drin dŵr gwastraff a charthffosiaeth, i yrru tyrbinau. Mae'r bio-nwy, sy'n cynnwys methan yn bennaf, yn cael ei gynhyrchu wrth i facteria fwydo ar wastraff pobl ac anifeiliaid. Treulio anaerobig yw'r enw ar y broses hon. Mae'n ffordd wych o gynhyrchu ynni gwyrdd, ac o gael gwared ar wastraff, a'r meicro-organebau sy'n llechu ynddo. Un o'r ffyrdd symlaf o ddisgrifio treulio anaerobig yw bod miliynau o chwilod bychain bach yn y gwastraff yn 'torri gwynt', gan gynhyrchu bio-nwy.

Y peth da yw, wrth losgi'r bio-nwy i gynhyrchu trydan, mae llai o garbon deuocsid o lawer yn cael ei ryddhau nag wrth losgi tanwydd ffosil

Downloads 

Carthffos Syml pwy flociodd y pibellau gwastraff

Download
370.9kB, PDF

Diagram llif dwr gwastraff

Download
243.4kB, PDF

Drysfa Gwastraff

Download
131.5kB, PDF

Fflysio neu na Ymchwiliad

Download
494.2kB, PDF

Map syn dangos lleoliad Gweithfeydd Trin Dwr Gwastraff

Download
339.2kB, PDF

Proses Trin Gwastraff

Download
246.1kB, PDF

Sut mae dwr gwastraffcarthffosiaeth yn cael ei reoli

Download
370.5kB, PDF

Yr Ymgyrch Stop Cyn Creu Bloc

Download
47.5kB, PDF