Panel Dethol Aelodau Annibynnol
Rôl y Panel Dethol Aelodau yw argymell unigolion sy’n meddu ar y sgiliau, y profiad a’r diddordeb i fod yn Aelodau effeithiol.
Yn ogystal, nod y Panel Dethol Aelodau yw sicrhau bod gan y cwmni Aelodaeth gytbwys ac amrywiol sydd, gymaint â phosibl, yn adlewyrchu amrywiaeth buddiannau’r cwsmeriaid a’r rhanddeiliaid eraill sy’n cael eu gwasanaethu gan Ddŵr Cymru.
Mae’r Panel Dethol Aelodau’n cynnwys Cadeirydd (Syr Paul Silk), sy’n annibynnol o’r cwmni, ynghyd ag un o Gyfarwyddwyr Anweithredol Glas Cymru (Debra Bowen Rees) a rhwng un a thri o aelodau eraill sy’n annibynnol o’r cwmni hefyd (Amanda Davies a Chris Jones ar hyn o bryd). Mae Ysgrifennydd Cwmni Glas Cymru’n cefnogi ac yn cynorthwyo’r Panel Dethol Aelodau.