Paul Silk
Penodwyd Paul Silk yn Gadeirydd y Panel Dethol Aelodau Annibynnol yn 2018.
Mae’n hanu o Bowys ac yn byw yno heddiw. Fel Clerc yn Nhŷ’r Cyffredin o 1975 ymlaen, bu’n Glerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr oedd ar y pryd, o 2001 i 2007.
Rhwng 2011 a 2014, bu’n gadeirydd ar Gomisiwn Llywodraeth Cymru ar Ddatganoli i Gymru, sef y Comisiwn a gyflwynodd argymhellion ar ddatganoli dŵr ymysg nifer fawr o bethau eraill. Ers 2010, mae e wedi cynghori dros 25 senedd genedlaethol a rhanbarthol ym mhedwar ban y byd.
Cafodd ei urddo'n Farchog am ei wasanaeth i Seneddau’r Deyrnas Unedig a datganoli yn 2015. Mae’n athro anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, yn gymrawd anrhydeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ddoethur anrhydeddus i’r Brifysgol Agored, ac yn Gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru, yn ogystal â bod yn Ymddiriedolwr i ddwy elusen genedlaethol a dwy leol.
Mae’n briod ac mae ganddo dri mab mewn oed.