Amanda Davies
Mae gan Amanda mwy na 30 mlynedd o brofiad fel gweithredwr yn y sector tai fforddiadwy.
Yn fwyaf diweddar, bu’n Brif Weithredwr Grŵp Pobl, Cymdeithas Tai mwyaf Cymru. Mae Pobl yn berchen ar ac yn rheoli mwy na 21,000 o gartrefi ac mae ganddo 2,500 o staff.
Mae Amanda’n gyfrifydd cymwys, ac mae hi wedi cyflawni nifer o rolau anweithredol sy’n cwmpasu byd addysg, tai fforddiadwy, adfywiad economaidd a’r sector elusennau.
Hi yw Cadeirydd cyfredol Cymdeithas Tai y Cymoedd i’r Arfordir ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’n aelod o Fwrdd Marie Curie Cymru ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol Sparrow Shared Ownership, darparydd blaenllaw tai dan gydberchnogaeth yn Llundain.
Gwasanaethodd Amanda fel aelod o Glas Cymru am 3 blynedd cyn ymuno â’r panel dethol aelodau.