Chris Jones
Chris oedd un o gyd-sylfaenwyr Glas Cymru, a gafaeliodd Dŵr Cymru am £1.7 biliwn yn 2001 er mwyn creu’r unig gwmni cyfleustodau yn y DU heb gyfranddalwyr.
Bu’n Gyfarwyddwr Cyllid Dŵr Cymru rhwng 2001 a 2013, wedyn yn Brif Weithredwr nes iddo gamu i lawr ym mis Mai 2020. Yn ystod y cyfnod hwnnw, dychwelodd Dŵr Cymru dros £400 miliwn o werth i’w gwsmeriaid ar ffurf biliau is a buddsoddiad uwch.
Mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol Xoserve Limited (darparydd Gwasanaethau Data Canolig marchnad nwy Prydain), S4C, ac yn gyn-Gyfarwyddwr Anweithredol Cymdeithas Adeiladu’r Principality.
Mae e’n Aelod Lleyg o Gyngor Prifysgol Caerdydd ac mae e wedi cyflawni amrywiaeth o rolau fel ymddiriedolwr ac ymgynghorydd gyda sefydliadau’r trydydd sector, gan gynnwys Ymddiriedolaeth y Tywysog, Criticaleye, y Sefydliad Materion Cymreig, WaterAid a CBI Cymru.
Dyfarnwyd CBE iddo yn Rhestr Anrhydeddau’r Frenhines yn 2020.