Debra Bowen Rees
Mae Debra Bowen Rees wedi bod yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd Glas ers Ionawr 2020.
Mae’n cynrychioli’r Bwrdd ar y Panel Dethol Aelodau Annibynnol, sy’n argymell penodi Aelodau i’r Bwrdd.
Mae’n Gadeirydd ar Bwyllgor yr Amgylchedd, Cymdeithasol a Llywodraethu, ac yn Aelod o’r Pwyllgor Perfformiad a Diogelwch a’r Pwyllgor Enwebiadau hefyd.
Mae ganddi gyfoeth o brofiad o arwain a rheoli, gan gynnwys rheoli seilwaith rheoledig lle mae diogelwch yn hanfodol. Ar ôl gyrfa lwyddiannus a chyflawni nifer o swyddi uwch gyda’r Llu Awyr Brenhinol, ymunodd Debra â Maes Awyr Caerdydd yn 2012 fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau, cyn cael ei phenodi’n Rheolwr Gyfarwyddwr yn 2014.
Daeth yn Brif Weithredwr y maes awyr dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru yn 2017 a bu’n gyfrifol am arwain y maes awyr trwy gyfnod o newid trawsnewidiol.
Yn Awst 2020, ymddiswyddodd Debra fel Prif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd ac ymddiswyddodd o Fwrdd ei Gyfarwyddwyr ym mis Medi 2020.