Grŵp Her Annibynnol
Mae'r Grŵp Her Annibynnol yn darparu her a chraffu ar ran cwsmeriaid a dinasyddion a wasanaethir gan Dŵr Cymru.
Cyflwynwyd grwpiau her gan Ofwat fel rhan o Adolygiad Pris 2014 i graffu yn annibynnol er mwyn:
- Herio ansawdd y broses ymgysylltu â chwsmeriaid
- Herio pa mor dda y mae canlyniadau arfaethedig a chymhellion cyflawni canlyniadau'r cwmni yn adlewyrchu ei ymgysylltiad â chwsmeriaid, a barn a blaenoriaethau cwsmeriaid
- Darparu adroddiad annibynnol i Ofwat ar yr un pryd ag y mae cwmnïau'n cyflwyno eu cynlluniau busnes
Estynnwyd y gofyniad hwn hyd at Adolygiad Pris 2019, ond cafodd ei ddileu mewn canllawiau ar gyfer Adolygiad Pris 2024, gan roi cyfle i gwmnïau benderfynu drostynt eu hunain a ddylai'r grwpiau barhau i weithredu. Mae Bwrdd Dŵr Cymru wedi ymrwymo i bwysigrwydd grŵp her annibynnol fel rhan o'i ymrwymiad i atebolrwydd a thryloywder. Mae'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr wedi cefnogi rôl grwpiau her gan gynnwys trefnu Grŵp Cydlynu Canolog o Gadeiryddion.
Fel rhan o'r broses hon, ailenwyd Grwpiau Her Cwsmeriaid yn Grwpiau Her Annibynnol.
The group is overseen by and independent Chair, is support by an independent secretariat and has 12 independent members representing a range of organisations and from a variety of backgrounds.
Mae'r grŵp yn cael ei oruchwylio gan Gadeirydd annibynnol a’i gefnogi gan ysgrifenyddiaeth annibynnol ac mae ganddo 12 aelod annibynnol sy'n cynrychioli amrywiaeth o sefydliadau ac sydd o gefndiroedd amrywiol. Swyddogaeth graidd y grŵp oedd darparu her drwy'r broses cynllunio busnes yn yr Adolygiadau Prisiau. Yn ogystal â hyn, mae'r Grwpiau Her Annibynnol wedi adolygu, cynghori a chefnogi yn annibynnol ac yn barhaus ar faterion gweithredol gan gynnwys ar berfformiad busnes, cwsmeriaid mewn amgylchiadau bregus, cymunedau sy'n gwrthsefyll dŵr, ymateb i ddigwyddiadau ac ati. Mae'r Grŵp hefyd wedi gweithio'n agos gyda Grŵp Cynghori Amgylcheddol Annibynnol y cwmni.
Gellir dod o hyd i gofnodion ac adroddiadau’r Grwpiau Her Annibynnol isod.
Cysylltwch â ni t yoursay@dwrcymru.com.
Adroddiad Ofwat ICG
Dŵr Cymru CCG Report for Ofwat 2018
Cofnodion ICG
CCG minutes - September 19
CCG Minutes 17042019
CCG Minutes 11022019
CCG Minutes 24102018
CCG Minutes 14082018
CCG Minutes 09072018
CCG Minutes 16052018
CCG Minutes 19042018
CCG Minutes 09032018
CCG Minutes 21032018
CCG Minutes 22032018
CCG Minutes 07022018
CCG Minutes 16112017
CCG Minutes 14092017
CCG Minutes 21062017
CCG Minutes 27032017
CCG Minutes 24042017
CCG Minutes 09022017
CCG Minutes 31102016
CCG Minutes 22092016
CCG Minutes 14072016
Adroddiad Sicrwydd ICG
CCG assurance report final draft
I helpu i barhau i wella ein gwasanaethau ac ymateb i anghenion ein cwsmeriaid, rydym yn chwilio am berson annibynnol a brwdfrydig i gadeirio ein Grŵp Her Annibynnol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 25/11/2024 gyda'r post yn dechrau o'r Flwyddyn Newydd.
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at yoursay@dwrcymru.com.
Recriwtio Cadeirydd
DOCX, 23.4kB
Rydym yn chwilio am berson annibynnol a brwdfrydig i gadeirio ein Grŵp Her Annibynnol.