Datganiad Preifatrwydd Eich Cwmni Eich Llais


R’yn ni’n gwybod pa mor bwysig yw hi i chi ein bod ni’n gofalu am eich Data Personol.

Mae cael pobl i ymddiried ynom i wneud y peth iawn ymhlith ein gwerthoedd craidd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yma’n esbonio sut rydyn ni’n casglu, yn defnyddio ac yn amddiffyn eich Data Personol mewn ffordd sy’n parchu eich hawliau Diogelu Data ac yn cydymffurfio â chyfreithiau Diogelu Data y DU (gan gynnwys Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018). Cofrestru ar gyfer digwyddiadau Byddwn ni’n defnyddio eich data personol i brosesu eich cofrestriad, a byddwn ni’n defnyddio’r manylion cyswllt a ddarperir gennych i gyfathrebu â chi am y digwyddiad fel y gallwn gyflawni ein gwaith fel darparydd y digwyddiad. Byddwn ni’n rhannu eich manylion cyswllt â’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCW) yn sgil y digwyddiad hefyd fel y gallant anfon deunyddiau am y digwyddiad atoch a/neu gasglu eich adborth yn rhan o’n hymrwymiad i wella’n barhaus. Ni fyddwn ni’n rhannu eich data personol ag unrhyw drydydd parti arall. Mae defnyddio eich data personol fel hyn yn rhan o’n ‘contract’ gyda chi i ddarparu’r digwyddiad. Polisi Preifatrwydd a Chwcis CCW.

Os nad ydych am i ni rannu eich manylion cyswllt â CCW, dywedwch wrthym trwy e-bostio yoursay@dwrcymru.com.

Recordio digwyddiadau
Gellir recordio digwyddiadau a sesiynau a gynhelir ar lein, a’u cyhoeddi ar lein (e.e. ar ein gwefan ac ar YouTube) am gyfnod amhenodol o amser. Mae unrhyw wybodaeth a ddarparwch yn ystod y sesiwn yn opsiynol, ac wrth rannu’r wybodaeth rydych chi’n rhoi caniatâd i ni ei phrosesu.

Cyfathrebu parhaus
Os ydych wedi dewis cael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau ‘Eich Dŵr, Eich Llais’ yn y dyfodol, byddwn ni’n cadw manylion cyswllt a data am eich dewisiadau nes i chi optio allan. Cewch optio allan unrhyw bryd.

Microsoft Teams
Er mwyn cynnal ein digwyddiad ar lein, byddwn ni’n defnyddio Microsoft Teams – sy’n wasanaeth trydydd parti nad yw’n cael ei weithredu gan Dŵr Cymru Welsh Water. Byddwn ni’n defnyddio data sy’n ymwneud â chymryd rhan yn y digwyddiad ar Microsoft Teams at ddibenion ystadegol, a gellir ei gadw’n ddiogel am hyd at dair blynedd. Datganiad Preifatrwydd Microsoft Teams.