Hysbysiad Preifatrwydd Cyfryngau Cymdeithasol
Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw hi i chi ein bod ni'n gofalu am eich Gwybodaeth Bersonol. Cael pobl i ymddiried ynom i wneud y peth iawn yw un o'n gwerthoedd craidd. Bwriad ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y Cyfryngau Cymdeithasol yw esbonio pa wybodaeth rydym yn ei chasglu gan ddefnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol.
Beth yw'r cyfryngau cymdeithasol?
Amrywiaeth o raglenni ar y rhyngrwyd sy'n eich galluogi i greu eich cynnwys eich hun a rhyngweithio â defnyddwyr eraill yw’r cyfryngau cymdeithasol. Mae Facebook, Instagram, LinkedIn a Twitter yn enghreifftiau o ddarparwyr y cyfryngau cymdeithasol.
Beth yw Gwybodaeth Bersonol?
Unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod unigolyn (yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) yw hyn (e.e. enw, cyfeiriad, dyddiad geni, ffotograff, cyfeiriad isp).
Pryd byddwn ni'n casglu eich Gwybodaeth Bersonol?
Gallwch ddarparu gwybodaeth bersonol trwy'r dulliau canlynol:
- Trwy 'hoffi' ein tudalen cyfryngau cymdeithasol;
- Trwy 'ddilyn' ein tudalen cyfryngau cymdeithasol;
- Trwy rannu Gwybodaeth Bersonol wrth bostio sylwadau ar ein tudalen cyfryngau cymdeithasol;
- Trwy gysylltu â ni trwy ein tudalen cyfryngau cymdeithasol; a/neu
- Trwy anfon e-bost atom yn un o'n cyfeiriadau e-bost sydd wedi eu rhestru ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Pa Wybodaeth Bersonol ydyn ni'n ei chasglu?
Mae hyn yn dibynnu sut rydych chi'n darparu eich Gwybodaeth Bersonol (e.e. trwy wneud sylw ar ein tudalen cyfryngau cymdeithasol neu trwy anfon neges uniongyrchol/e-bost atom). Gallwn gasglu eich:
- Enw;
- Cyfeiriad e-bost;
- Cyfeiriad bilio;
- Llun proffil;
- Enw defnyddiwr neu enw mewngofnodi ar gyfer Facebook/Twitter/Instagram;
- Cwmni, teitl swydd, diwydiant, rhyw;
- Cyfeiriad IP;
- Lleoliad daearyddol.
Sut mae fy ngwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio?
Mae'ch Gwybodaeth Bersonol yn cael ei defnyddio yn unol â'r Polisi Preifatrwydd yma, ac amodau a thelerau'r darparydd cyfryngau cymdeithasol (sydd ar gael ar eu gwefannau). Gallwn ddefnyddio eich Gwybodaeth Bersonol yn y ffyrdd canlynol:
- I ddelio â mater rydych chi wedi ei godi, neu i roi gwybod i aelodau o'n staff eich bod chi'n fodlon/anfodlon ar ein gwasanaethau;
- I ymateb i'ch neges gallwn ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost;
- I fonitro tueddiadau ar safleoedd y cyfryngau cymdeithasol; a/neu
- I bwyso a mesur sentiment cwsmeriaid.
Am ragor o wybodaeth am sut rydyn ni'n defnyddio eich Gwybodaeth Bersonol, darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd Dŵr Cymru - Sut rydyn ni'n defnyddio eich Gwybodaeth Bersonol (Cwsmeriaid)" sydd ar gael yma.
Pwy arall gaiff gyrchu fy Ngwybodaeth Bersonol?
Gallwn ddefnyddio trydydd partïon i reoli ein cysylltiadau trwy'r cyfryngau cymdeithasol. Lle bo hynny'n digwydd, byddwn ni'n sicrhau bod gennym gymalau Diogelu Data contractiol cadarn mewn grym ynghyd â mesurau diogelu priodol eraill i amddiffyn eich Gwybodaeth Bersonol.
Ymhle byddwch chi'n storio fy Ngwybodaeth Bersonol?
Rydyn ni'n cymryd eich preifatrwydd o ddifri ac rydyn ni wedi cymryd mesurau i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei storio'n ddiogel ac yn gadarn ar ein prif gyfrifiaduron mewnol.
Am ba mor hir fyddwch chi'n cadw fy Ngwybodaeth Bersonol?
Ni fyddwn ni'n cadw eich Gwybodaeth Bersonol am fwy o amser na'r hyn sy'n angenrheidiol.
Y dewisiadau sydd ar gael i chi o ran eich Gwybodaeth Bersonol
Os oes cyfrif gennych ar y cyfryngau cymdeithasol, bydd llawer o'r dewisiadau sydd ar gael i chi o ran eich Gwybodaeth Bersonol wedi eu hymgorffori'n uniongyrchol i'ch gosodiadau preifatrwydd. Er enghraifft, mae'n bosibl y gallwch:
- Benderfynu pwy gaiff weld eich proffil;
- Penderfynu a yw eich proffil ar gael i chwilotwyr;
- Dewis a gaiff defnyddwyr eraill ganfod eich cyfrif gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost; a/neu
- Blocio defnyddwyr/cyfrifon eraill.
Dylai'r gosodiadau preifatrwydd ar wefannau'r cyfryngau cymdeithasol roirheolaeth i chi drossut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ('ICO') yn argymell bod pobl sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn gwirio eu gosodiadau preifatrwydd cyn defnyddio gwasanaeth penodol ac yn eu hadolygu'n gyson, yn enwedig ar ôl i osodiadau newydd gael eu cyflwyno. Hyd yn oed os ydych wedi diwygio eich gosodiadau preifatrwydd i gyfyngu ar fynediad Dŵr Cymru, os soniwch chi am Ddŵr Cymru mewn sylw neu os tagiwch chi Dŵr Cymru mewn sylw, mae'n bosibl y byddwn ni’n gallu cyrchu'r sylw yna o hyd a'r Wybodaeth Bersonol sy'n cyd-fynd ag ef. Mae'r ICO wedi cyhoeddi canllawiau defnyddiol ar osodiadau preifatrwydd o ran y cyfryngau cymdeithasol. Gallwch eu cyrchu trwy fynd i: https://ico.org.uk/for-the-public/online/social-mediaprivacy-settings/. Os oes unrhyw gwestiynau gennych ynghylch sut i newid eich gosodiadau diogelwch neu ymarfer eich dewisiadau o ran hysbysebion, dylech gysylltu â darparydd y platfform cyfryngau cymdeithasol rydych chi'n ei ddefnyddio.
Diogelwch
Mae diogelwch eich Gwybodaeth Bersonol yn bwysig i ni, ond ni fydd unrhyw ddull o'i throsglwyddo dros y Rhyngrwyd, nac unrhyw ddull storio electronig 100% yn ddiogel. Er ein bod ni'n gwneud pob ymdrech i ddefnyddio dulliau sy'n fasnachol dderbyniol i amddiffyn eich Gwybodaeth Bersonol, ni allwn warantu ei diogelwch llwyr.Awdurdodaeth
Caiff yr Hysbysiad Preifatrwydd yma ei lywodraethu a'i ddehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr fel y'u cymhwysir yng Nghymru. Daw anghydfodau sy'n codi mewn perthynas â'r Hysbysiad Preifatrwydd o dan awdurdodaeth lwyr llysoedd Cymru a Lloegr.
Diweddaru ein Hysbysiad Preifatrwydd
Byddwn ni'n diweddaru ein Hysbysiad Preifatrwydd wrth i'n prosesau a'n gweithdrefnau busnes, a/neu'r cyfreithiau Diogelu Data, newid. Bydd y fersiwn ddiweddaraf ar ein gwefan bob amser.