Pweru Dyfodol
mwy Glân


Gyda'r hinsawdd yn newid a chostau ynni'n cynyddu, ein nod fodd bod yn fusnes ynni-niwtral erbyn 2050.

Ar hyn o bryd, mae ein busnesau'n defnyddio llawer iawn o drydan (500 GWh yn 2021/ bil blynyddol o £46 miliwn) i bwmpio a thrin dŵr a dŵr gwastraff. Mae'r lefelau uchel o lawiad rydyn ni wedi eu gweld mewn blynyddoedd diweddar, sy'n gysylltiedig â'r newid yn yr hinsawdd, wedi cynyddu'r defnydd o ynni’n sylweddol. Erbyn 2030, ein bwriad yw cynyddu faint o drydan rydyn ni'n ei gynhyrchu ein hunain, trwy ffynonellau adnewyddadwy fel ynni'r gwynt, solar a hydro, er mwyn bod 50% yn hunangynhaliol.

Bydd 100% o’r galw am drydan na fyddwn ni'n ei ddiwallu trwy gynhyrchu ein hynni adnewyddadwy ein hunain yn dal i ddod o ffynonellau trydan adnewyddadwy, sy'n cael ei gynhyrchu gan ffermydd gwynt ym moroedd y DU yn bennaf.

Erbyn 2050, ein nod yw bod yn ynni-niwtral, h.y. byddwn ni'n cynhyrchu o leiaf yr un faint o ynni adnewyddadwy ag y byddwn ni'n ei ddefnyddio, a hynny trwy gynhyrchu mwy ein hunain, a byddwn ni’n parhau i bontio i ddull economi cylchol.

Er mwyn cyflawni'r uchelgais yma, mae angen i ni leihau ein defnydd o ynni’n sylweddol. I gychwyn, byddwn ni'n cyflawni hyn trwy barhau i wella ein prosesau gweithredol, er enghraifft trwy ddefnyddio cyfarpar fel offer chwythu, gwresogi a goleuo, pympiau a phrosesau rheoli uwch sy'n effeithlon o ran ynni. Bydd ein rhaglen arloesi'n allweddol er mwyn cyflawni'r gostyngiad mawr yma dros y ddau ddegawd nesaf trwy ddefnyddio technolegau newydd i drin dŵr a dŵr gwastraff. Bydd ein rhaglen ymchwil ac arloesi'n allweddol wrth gyflawni'r gostyngiad sylweddol sydd ei angen er mwyn cyflawni targedau 2040, a bydd hyn yn gofyn am ddefnydd helaeth o dechnolegau newydd i drin dŵr a dŵr gwastraff.

Dyma gipolwg ar y gwaith rydyn ni wedi bod yn yn ei gyflawni ar draws Cymru ac i mewn i Loegr er mwyn cynyddu ein hôl troed ynni adnewyddadwy.