Gwrthbwyso
Carbon


Hyd yn oed gyda'r strategaeth dynnaf i leihau carbon, rydyn ni’n cydnabod nad oes modd dileu ôl troed carbon ein cwmni yn ei gyfanrwydd.

Ochr yn ochr â'r gwaith y byddwn ni'n ei gyflawni i leihau ein hôl troed carbon felly byddwn ni'n gweithio gyda'n partneriaid dros y misoedd nesaf i geisio deall sut y gallwn wrthbwyso ein hôl troed sy'n weddill trwy reoli tiroedd, cyn edrych tua chaffael mesurau gwrthbwyso.

Byddwn ni'n mabwysiadu "Egwyddorion Rhydychen ar gyfer Gwrthbwyso Carbon sy'n Gyson â Net o Sero" er mwyn llywio'r gweithgareddau gwella sy'n cael eu datblygu yn rhan o'r ffrwd gwaith Rheoli Tiroedd ar fap ffordd datgarboneiddio'r cwmni. Bydd hyn yn ceisio diwallu ein holl anghenion gwrthbwyso trwy wrthbwyso'r hyn a waredir, a bydd ond yn defnyddio gwrthbwyso lleihau lle bo angen oherwydd cyfyngiadau o ran cwsmeriaid, rheoliadol, argaeledd y farchnad neu fuddsoddiadau.

Er enghraifft, byddwn ni'n dechrau adeiladu dau wlyptir ar Afon Llugwy er mwyn lleihau lefelau'r ffosffadau yn yr afon, a bydd hynny’n gwella'r bioamrywiaeth lleol yn sylweddol. Mae'r prosiect yma'n digwydd mewn partneriaeth â'r Awdurdod Lleol, datblygwyr lleol, Sefdyliad Gwy a Wysg, a'n rheoleiddwyr. Mae rhagor o fanylion yn ein hastudiaeth achos isod.